Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae'n dibynnu ary math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych. Os ydy'ch tenantiaeth am dymor sefydlog (er enghraifft chwech mis) ni ellir codi'r rhent yn ystod y tymor sefydlog onid yw'r cytundeb yn nodi y gall wneud hynny, neu eich bod yn cytuno i'r cynnydd. Pan fydd y tymor sefydlog yn dod i ben, gallai'r landlord ofyn i chi arwyddo cytundeb tenantiaeth newydd sy'n codi rhent uwch.
Os nad yw eich tenantiaeth am dymor sefydlog, gall y landlord godi rhent yn uwch os ydych yn cytuno, neu os yw'r cytundeb yn caniatau hyn, neu drwy roi'r rhybudd ysgrifenefig cywir i chi. Os yw'r cytundeb yn caniatau cynnydd, dylai ddweud pryd a sut ddylai hyn ddigwydd, er enghraifft, yn flynyddol.
Mewn rhai achosion, gallwch apelio yn erbyn cynnydd os ydych yn credu bod swm y cynnydd yn ormod neu os ydych yn credu na roddwyd rhybudd cywir ynglyn â'r cynnydd. Os ydych yn dechrau talu'r swm uwch, mae hyn yn golygu eich bod wedi cytuno iddo ac ni fedrwch apelio yn ei erbyn.
Ychydig o amddiffyniad sydd gan rai tenantiaid yn erbyn cael eu troi allan a gallent beryglu eu cartref os ydynt yn anghytuno gyda'r landlord ynglyn â'r swm o rhent i'w dalu. Os nad ydych yn medru fforddio talu eich rhent, cofiwch efallai y byddwch yn medru hawlio Budd-dâl Tai.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â thenantiaeth breifat, gweler Rhentu gan landlord preifat.
Am fwy o wybodaeth ar Fudd-dâl Tai a help o fath arall gyda rhent, gweler Help gyda'ch rhent - Budd-dâl Tai.