Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr.
Yn gyffredinol, cyfeirir at y cynlluniau yr ydych yn sôn amdanynt fel cynlluniau gwerthu a rhentu nôl ('sale and rent back'), ond weithiau cyfeirir atynt fel cynlluniau prynu nôl (‘buy back’), neu gynlluniau gwerthu a phrydlesu nôl (‘sale and lease back’).
Mae'r rhain yn gynlluniau ble mae cwmnïau preifat yn cynnig prynu eich eiddo, fel arfer am bris gostyngol, a’i rentu yn ôl i chi. Mae cwmni preifat yn medru golygu cwmni, brocer neu unigolyn preifat.
Efallai eu bod yn edrych yn ffordd dda o ddatys eich problemau morgais, oherwydd maen nhw'n eich galluogi chi i dalu eich dyledion ac aros yn eich cartref ar yr un pryd.
Ond, mae angen i chi fod yn ofalus iawn os ydych yn cytuno i gynllun gwerthu a rhentu nôl sy’n cael ei rhedeg gan gwmni preifat, oherwydd maen nhw’n medru bod yn beryglus.
Os ydych yn ystyried cytuno i gynllun gwerthu a rhentu nôl, dylech ystyried cael cyngor ariannol annibynnol. Fe fydd hyn yn helpu sicrhau eich bod wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r ffordd y bydd y cynllun gwerthu a rhentu nôl yn effeithio ar eich sefyllfa o ran cartref a'ch sefyllfa ariannol, yn y tymor hir.
Mae'r pethau i’w hystyried pan fyddwch yn meddwl llofnodi cynllun gwerthu a rhentu nôl sy’n cael ei rhedeg gan gwmni preifat yn cynnwys:
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dal Tai, gweler Help gyda'ch rhent - Budd-dal Tai.
Efallai y byddwch chi am weld os ydych yn medru ymuno ag un o’r cynlluniau achub morgeisi sy’n cael eu rhedeg gan landlordiaid cymdeithasol, neu gynllun achub morgeisi a gefnogir gan y llywodraeth, yn lle.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau achub morgeisi, gan gynnwys cynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth, gweler Cynlluniau achub morgeisi.
Os ydych yn ystyried cytuno i gynllun gwerthu a rhentu nôl, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.