Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Os ydych chi'n dal les, neu mewn grwp o les?ddeiliaid, mae yna sawl ffordd y gallwch gymryd rheolaeth neu berchenogaeth eich fflatiau. Yn gyntaf, efallai fod hawl gennych i brynu rhyddfraint eich eiddo a chymryd y cyfrifoldeb dros reoli'r adeilad. Hyd yn oed lle nad oes hawl gennych i brynu'r rhyddfraint, efallai y bydd hawl gennych i dderbyn y cynnig cyntaf i brynu os ydyw perchennog y rhyddfraint yn penderfynu gwerthu.
Os ydych mewn grwp o les-ddeiliad sydd am gymryd awenau rheolaeth y fflatiau (yn hytrach na pherchnogaeth y rhyddfraint), efallai y bydd hawl gennych i wneud hyn trwy sefydlu Cwmni 'hawl i reoli'. Fe allech ddefnyddio'r Cwmni yma yn y dyfodol hefyd, i brynu'r rhyddfraint.
Yn olaf, os ydych am newid yr asiant rheoli, fe allwch ofyn i Dribiwnlys Gwerthuso Prydles i apwyntio un newydd.
Gellir cael mwy o wybodaeth ynglyn â'r opsiynau hyn mewn taflen gan y llywodraeth o'r enw Residential Long Leaseholders – A guide to your rights and responsibilities. Gallwch lwytho copi oddi ar y wefan ganlynol: www.odpm.gov.uk/stellent/groups/odpm_housing/documents/page/odpm_house_026618.pdf.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglyn â phroblemau les-ddeiliaid yn Prynu cartref.