Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Mae les yn gytundeb cyfreithiol a gellir ond codi tâl arnoch am wasanaethau os ydynt wedi eu nodi yn y les. Dylech wirio eich les yn ofalus i weld beth sy'n rhaid i chi dalu amdano a faint gellir codi arnoch.
Mae'r gyfraith yn rhoi hawliau penodol i chi os yw eich les yn nodi bod yn rhaid i chi dalu am wasanaethau, atgyweiriadau, cynnal a chadw, yswiriant neu gostau rheoli yn ychwanegol at dalu rhent tir. Mae'r hawliau yma'n cynnwys yr hawl i gael crynodeb o'r costau y mae'r tâl wedi'i seilio arnynt, yr hawl i edrych ar y cyfrifon a'r derbynebau ar gyfer y tâl, yr hawl i gael ymgynghori ar waith sylweddol sydd ddim yn waith brys a'r hawl i herio unrhyw daliadau afresymol.
Os gofynnir i chi dalu am rywbeth sydd ddim wedi ei gwmpasu yn eich les, neu eich bod yn credu bod y tâl yn ormod, dylech ddechrau trwy ysgrifennu at y rhydd-ddaliwr gan esbonio pam eich bod yn teimlo bod y tâl yn anghywir. Os nad ydych yn fodlon gyda'r ymateb, yna gallwch herio'r swm trwy wneud cais i dribiwnlys gwerthuso lesddaliad. Gallwch herio naill ai pan cynigir y gwaith neu pan fyddwch yn derbyn y bil, ond nid os ydych eisoes wedi cytuno i dalu'r swm.
Efallai eich bod chi a les-ddalwyr eraill yn eich bloc am ffurfio cymdeithas tenantiaid neu drigolion a thrafod ar y cyd gyda'r rhydd-ddaliwr drwy'r gymdeithas yna.
Am fwy o wybodaeth, gweler Prynu cartref.