Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rhoddais flaendal pan symudais i mewn i fy nghartref sydd wedi'i rhentu. Rwyf bellach wedi symud allan ond nid yw'r landlord yn fodlon dychwelyd y blaendal. Beth fedrai wneud?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr

Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid a chwmniau gosod yn gofyn i denantiaid am flaendal, i ddiogelu rhag difrod neu rhag ofn na thelir y rhent. Mae'n rhesymol i'ch landlord dynnu arian oddi ar y blaendal ar gyfer, er enghraifft, difrod i'r eiddo neu ddodrefn, neu eitemau sydd wedi mynd ar goll. Ond dylech gael gweddill eich blaendal yn ôl, unwaith mae pethau fel hyn wedi cael eu hystyried.

Os ydych wedi talu'ch blaendal ar 6 Ebrill 2007, neu ar ôl y dyddiad yma,ac mae gennych denantiaeth fyrddaliol sicr, dylai eich blaendal fod wedi'i. Mae'r rheolau’n dweud bod yn rhaid i'ch landlord osod eich blaendal mewn cynllun diogelu blaendal tenantiaeth. Ar ddiwedd y denantiaeth, gwarentir eich bod yn cael eich blaendal yn ôl o fewn 10 diwrnod, tra'ch bod chi a'ch landlord wedi cytuno faint ddylech chi ei gael yn ôl.

Os nad ydych yn cytuno faint ddylech ei gael yn ôl, mae yna wasanaeth rhad ac am ddim y byddwch chi a'ch landlord yn medru'i ddefnyddo i'ch helpu i setlo eich anghytundeb. Am fwy o wybodaeth ynghylch y gwasanaeth hwn, gweler Blaendaliadau tenantiaeth yn y Taflenni ffeithiau Tai.

Ond, nid oes rhaid i landlordiaid ddefnyddio cynllun diogelu blaendal tenantiaeth ar gyfer blaendaliadau a dalwyd cyn 6 Ebrill 2007. ac os ydych wedi talu blaendal cyn y dyddiad hwn a'ch landlord yn gwrthod ei dalu yn ôl, ceisiwch ddod i gytundeb gyda nhw. Rydych yn medru cael help gan gynghorydd profiadol i wneud hyn, er enghraifft canolfan Cyngor ar Bopeth.

Os nad yw hyn yn gweithio, yr unig opsiwn sydd gennych yw mynd â'ch landlord i'r llys. Os ydych yn y sefyllfa yma, dylech gael cyngor.

Os oeddech wedi talu blaendal cyn 6 Ebrill 2007, ac rydych wedi adnewyddu eich cytundeb tenantiaeth ers y dyddiad yna, dylech gael cyngor.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â blaendaliadau tenantiaeth a'r cynllun diogelu blaendaliadau tenantiaeth, gweler Blaendaliadau tenantiaeth yn y Taflenni ffeithiau ar Tai.

I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Am wybodaeth gyffredinol ar gyfer tenantiaid sydd â phroblemau, gweler Problemau cyffredin wrth rentu.

 

Cwestiynau Cyffredin ynglyn â Thai: