Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Roedd yn rhaid i mi adael fy nghartref diwethaf a nawr nid oes gen i unrhyw le i fyw. A oes rhaid i'r cyngor lleol fy ailgartrefu i?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i roi help a chyngor i mwyafrif pobl di-gartref, ond nid oes yn rhaid iddynt ddarparu llety i bawb. Os ydych newydd gyrraedd yn y DU neu eich bod newydd ddychwelyd wedi byw dramor, efallai na fyddwch yn gymwys i gael eich hail-gartrefu.

Bydd yr awdurdod lleol yn gwirio eich bod yn wirioneddol ddi-gartref neu ar fin cael eich gwneud yn ddi-gartref. Os oes gennych gartref yn rhywle arall, lle y byddai'n rhesymol i chi fyw, ni fyddwch yn cael eich trin fel person di-gartref. Bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu a ydych chi neu berson yn eich teulu yn fregus hefyd. Cyfeirir at hyn fel bod mewn angen sy'n flaenoriaeth.

Byddwch mewn angen sy'n flaenoriaeth os ydych yn feichiog neu bod gennych blant, os ydych yn berson ifanc 16 neu 17 mlwydd oed, neu'n berson ifanc sy'n 18,19 neu'n 20 sydd wedi bod yng ngofal y gwasanaethau cymdeithasol yn ddiweddar. Byddwch hefyd mewn angen sy'n flaenoriaeth os yw eich cartref wedi'i effeithio gan drychineb fel tân neu lifogydd. Gallech hefyd fod yn flaenoriaeth os ydych wedi bod yn y lluoedd arfog, yn y carchar neu wedi gorfod gadael eich carrtref diwethaf oherwydd trais yn y cartref neu drais hiliol. Gallech hefyd fod mewn angen sy'n flaenoriaeth oherwydd henaint neu ddiffyg iechyd corfforol neu iechyd meddwl, neu am fod anabledd corfforol gennych.

Ni ddylech fod wedi colli eich cartref oherwydd rhywbeth a wnaethoch ar bwrpas neu a fethoch ei wneud. Er enghraifft, os cawsoch eich troi allan o'ch cartref oherwydd ymddygiad anghymdeithasol gallech gael eich categoreiddio fel person sy'n fwriadol ddi-gartref. Gallai'r awdurdod lleol hefyd wirio bod gennych gysylltiad gyda'r ardal leol. Gallai hyn fod am eich bod fel arfer yn byw neu'n gweitiho yno neu bod gennych deulu yno. Os ydynt yn penderfynu bod gennych gysylltiad lleol gydag ardal arall, efallai y byddant yn eich cyfeirio at yr awdurdod lleol yna yn lle.

Os gwelir eich bod yn ddigartref, mewn angen sy'n flaenoriaeth ac nid yn ddi-gartref yn fwriadol, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi llety dros dro i chi hyd nes y byddant yn medru cynnig llety arall i chi a fydd yn diweddu eu dyletswydd i’ch hailgartrefu chi. Nid oes rhaid iddynt roi llety awdurdod lleol i chi. Maen nhw’n medru eich cartrefu mewn sawl ffordd, er enghraifft eich cyfeirio chi at gymdeithas tai, neu drefnu llety gyda landlord preifat.

Am fwy o wybodaeth ar gael eich hail-gartrefu gan yr awdurdod lleol, gweler Dod o hyd i lety.

 

Cwestiynau Cyffredin ynglyn â Thai: