Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mae'r ty rwy'n ei rhentu yn llaith iawn. Dywedais wrth y landlord ond nid ydyw wedi gwneud dim byd ynglyn â'r broblem. Beth arall fedrai wneud?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr

Fel tenant, mae gennych yr hawl i gael cartref lle mae'r strwythur wedi'i gadw mewn cyflwr rhesymol gan eich landlord. Mae hyn yn cynnwys rhai o'r gosodiadau yn y cartref fel systemau gwresogi a dwr poeth. Yn aml, byddwch yn gyfrifol am atgyweiriadau i addurnwaith fewnol a mân-atgyweiriadau fel sinc sydd wedi'i flocio. Fel arfer mae manylion ynglyn ag atgyweiriadau wedi eu hamlinellu mewn cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig sy'n disgrifio cyfrifoldebau'r landlord a'r tenant. Os nad oes gennych gytundeb tenantiaeth gallai'r gyfraith ddal i roi rhai hawliau sylfaenol i chi. Fodd bynnag, dylech wirio eich statws o ran tai cyn cwyno ynglyn ag amodau tai, gan bod rhai landlordiaid yn ceisio troi tenantiaid sydd am ddefnyddio eu hawliau cyfreithiol i atgyweiriadau allan.

Pan fyddwch wedi penderfynu mai'r landlord ddylai wneud yr atgyweirio, mae'n rhaid i chi hysbysu'r landlord ynglyn â'r gwaith atgyweirio sydd angen ei wneud. Dylech ysgrifennu disgrifiad o'r broblem a chasglu tystiolaeth fel ffotograffau, adroddiad gan swyddogion iechyd yr amgylchedd ac adroddiadau meddygol os yw'r cyflwr yn effeithio ar eich iechyd chi neu iechyd rhywun yn eich cartref.

Os yw'r landlord dal heb wneud y gwaith, gallech ystyried cysylltu ag adran Iechyd yr Amlgylchedd eich awdurdod lleol, neu gallech fynd â'r landlord i'r llys. Os yw'ch landlord yn landlord cymdeithasol fel cymdeithas tai neu yn landlord preifat, yna gallai'r awdurdod lleol fod yn medru eu gorfodi i gymryd camau. Os ydych yn denant yr awdurdod lleol ei hun, yna dylech wneud cwyn gan ddefnyddio gweithrefn gwyno'r awdurdod.

Dylech barhau i dalu eich rhent tra'n ceisio cael y gwaith atgyweirio wedi'i wneud gan y gallai eich landlord geisio eich troi allan os oes gennych rhent yn ddyledus.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â phroblemau gyda llety sydd wedi'i rhentu, gweler Cael atgyweiriadau wedi eu gwneud tra’n rhentu.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â phroblemau cyffredinol gyda thenantiaid sy'n rhentu'n breifat, gweler  Problemau cyffredin wrth rentu.

 

Cwestiynau Cyffredin ynglyn â Thai: