Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mae gen i forgais gwaddol a dw i newydd gael gwybod na fydd digon o arian ar ddiwedd tymor y morgais i dalu am y ty. Beth fedrai wneud?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae yna dros 10 miliwn o bolisïau gwaddol yn gysylltiedig â morgeisi yn y DU. Mae morgais gwaddol yn cyfuno morgais llog-yn-unig gyda buddsoddiad (y polisi gwaddol). Trwy gydol tymor y morgais (fel arfer 20 neu 25 mlynedd), fe fyddwch yn talu llog ar y swm a fenthycwyd i fenthycwr y morgais ac fe fyddwch yn talu premiwm misol ar eich polisi gwaddol. Mae'r premiymau gwaddol yn cael eu buddsoddi a'r nod yn y pendraw yw i'r gwaddol gynhyrchu digon o gyfalaf erbyn diwedd y tymor i dalu'r morgais. Os nad ydyw'ch polisi gwaddol yn cyrraedd y nod yma, fe fydd diffyg gennych ac fe fydd yn rhaid i chi dalu rhan o'r cyfalaf sy'n weddill ar eich morgais ryw ffordd all.

Cam-werthwyd polisïau gwaddol i lawer o bob oherwydd nid oedd y polisi yn addas ar eu cyfer.

Mae yna sawl reswm pam y mae'n bosib nad y polisi gwaddol oedd yr opsiwn orau ar eich cyfer chi. Yn gyffredinol, os na chawsoch chi wybod am y peryglon sy'n gysylltiedig â defnyddio cynnyrch buddsoddi i ad-dalu eich morgais ac rydych wedi bod ar eich colled yn ariannol o ganlyniad, efallai bod gennych sail i gwyno. Mae'n bwysig eich bod yn cwyno, oherwydd fe allech fod yn haeddu iawndal.

Am fwy o wybodaeth ynghylch problemau gyda morgeisi gwaddol, rhowch glic ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: (New window) www.moneyadviceservice.org.uk.

Fe allwch ffonio’r llinell gyngor hefyd ar 0300 500 5000.

 

Cwestiynau Cyffredin ynglyn â Thai: