Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cadw cofrestr dai, sef rhestr o enwau pobl sydd wedi gwneud cais am lety a ddarperir gan yr awdurdod lleol neu gymdeithas dai. Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi manylion ynglyn â sut mae’n gwneud penderfyniadau ynghylch cynnig llety, a’r system y mae’n ei defnyddio i roi blaenoriaeth i ymgeiswyr ar ei restr aros.
Mae’r ffordd y mae’n blaenoriaethu yn medru amrywio o un awdurdod lleol i’r nesaf ond mae'r gyfraith yn dweud y dylid rhoi blaenoriaeth i rai pobl wrth ddyrannu tai. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n byw mewn amodau tai gorlawn neu afiach, teuluoedd sydd â phlant dibynnol a phobl sydd ag anghenion arbennig - er enghraifft, salwch neu anabledd.
Unwaith y cewch eich derbyn ar restr aros yr awdurdod lleol, efallai y bydd yn rhaid i chi aros am amser hir cyn y cewch gynnig llety. Dylai’ch awdurdod lleol fod yn medru rhoi amcan i chi o’r amser y bydd yn rhaid i chi aros.
Dylech sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gwybod am unrhyw anghenion arbennig sydd gennych chi neu unrhyw aelod arall o'ch teulu. Dylech ddweud wrth yr awdurdod lleol am unrhyw newidiadau sy’n debygol o effeithio ar eich cais, er enghraifft newid yn y nifer o blant sydd gennych a/neu eu hoed, neu os yw rhywun yn eich teulu yn datblygu afiechyd. Efallai hefyd y bydd yn rhaid i chi adnewyddu eich cais yn rheolaidd.
Fe fydd rhai awdurdodau lleol yn hysbysebu tai gwag yn eu hardal fel bod pobl yn eu hardal yn gallu ‘bidio’ am dŷ sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Gelwir hyn yn ‘Osod ar sail dewis’. Os yw’ch awdurdod lleol yn defnyddio’r math yma o system i osod llety, dylai roi gwybodaeth i chi ar sut, pryd a ble y medrwch fidio am lety.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â rhestrau aros, gweler Dod o hyd i lety.
Os ydych chi angen llety sydd wedi ei addasu’n arbennig, er enghraifft am eich bod yn anabl neu’n oedrannus, neu mae gennych blentyn anabl, rydych yn medru gofyn am gael eich manylion wedi eu gosod ar un Gofrestr Tai Hygyrch neu fwy.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â Chofrestrau Tai Hygyrch, gweler Dod o hyd i lety.