Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rwyf wedi derbyn cais am feddiant gan y llys sirol am nad ydw i wedi talu fy rhent. Beth fedra i ei wneud?

Mae’r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr

Os nad ydych yn talu eich rhent, mae gan yr landlord hawl cyfreithiol i ofyn i'r llys i'ch troi allan o'ch cartref. Os ydych wedi derbyn cais am feddiant a chithau am geisio aros yn eich cartref, yna mae'n rhaid i chi weithredu'n gyflym. Os nad ydych yn medru fforddio talu eich rhent am fod gennych incwm isel, efallai y byddwch yn medru cael peth help gyda'r taliadau drwy hawlio budd-dâl tai. Os ydych yn medru fforddio talu eich rhent a thalu ychydig yn ychwanegol tuag at eich ôl-ddyledion, dylech siarad â'ch landlord. Efallai y bydd y landlord yn fodlon dod i gytundeb gyda chi a stopio'r camau yn y llys. Mae'n bwysig eich bod chi'n talu'r taliadau a gytunwyd yn rheolaidd.

Os na fydd y landlord yn cytuno i dderbyn eich taliadau, yna dylech ymateb i'r cais a mynychu'r gwrandawiad llys. Os ydych yn medru gwneud cynnig rhesymol i dalu, gallai'r llys ei dderbyn a'ch caniatau i aros yn eich cartref. Os nad yw'r llys yn cytuno i'ch cynnig, rhoddir dyddiad i chi a bydd yn rhaid i chi adael eich cartref cyn y dyddiad yma. Bydd costau'r gwrandawiad hefyd yn cael eu hychwanegu at y rhent sy'n ddyledus gennych i'ch landlord.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â phroblemau gyda rhent, gweler Problemau cyffredin wrth rentu ac Ôl-ddyledion rhent.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â help i dalu'ch rhent, gweler Help gyda'ch rhent – Budd-dâl Tai.

 

Cwestiynau Cyffredin ynglyn â Thai: