The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Defnyddio gwasanaethau ysbyty'r GIG yng Nghymru
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru
Ynglŷn â’ch hawliau fel claf yn ysbytai’r GIG yng Nghymru
Fe allwch chi gael gofal oddi wrth ysbyty yng Nghymru os:
- cyfeirir chi yno gan eich Meddyg Teulu
- ydych yn mynychu clinig arbenigol megis clinig iechyd rhyw
- ydyw’n achos brys a chwithau’n mynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
Ar y dudalen hon fe gewch chi amrywiaeth o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau pan gewch chi ofal oddi wrth ysbyty’r GIG. Mae hyn yn cynnwys:
- Triniaeth ysbyty mewn argyfwng
- Amserau aros
- Wardiau cymysg ac un rhyw
- Plant a thriniaeth ysbyty
- Gadael ysbyty.
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am eich triniaeth o fewn y GIG yn Adviceguide ac oddi wrth y GIG ei hun.
Triniaeth ysbyty mewn argyfwng
Os ydych chi am sylw meddygol ar frys, fe allwch chi fynd yn syth i adran Damweiniau ac Achosion Brys ysbyty. Sut bynnag, nid oes gan bob ysbyty adran Damweiniau ac Achosion Brys. Fe allwch chi ddarganfod eich ysbyty agosaf sydd ag adran damweiniau ac achosion brys ar-lein yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Os oes angen ambiwlans arnoch i fynd i’r ysbyty mewn argyfwng, ffoniwch 999. Dylai’r ambiwlans gyrraedd o fewn rhai munudau. Mae yna uchafswm amserau targed gwahanol ar gyfer ambiwlans yn cyrraedd, yn dibynnu lle yr ydych yn byw mewn ardal drefol neu ardal wledig.
Mae gan yr ysbyty sy’n rhoi’r driniaeth gyfrifoldeb o gwrdd â chost y driniaeth. Os oes rhaid i chi aros yn yr ysbyty fel claf mewnol achos brys, mae gan eich Bwrdd Iechyd Lleol y cyfrifoldeb o gwrdd â’r gost.
Pan nad oes argyfwng
Fe allwch chi gael gofal ysbyty os cyfeirir chi at arbenigwr gan eich Meddyg Teulu, neu os ewch chi i glinig arbenigol, er enghraifft clinig iechyd cenhedlu.
Achosion lle efallai y gwrthodir triniaeth ysbyty i chi
Os ydych chi’n dreisgar
Efallai y gwrthodir triniaeth ysbyty i chi os ydych chi’n dreisgar neu’n ymosodol tuag at staff y GIG. Efallai y gwrthodir triniaeth i chi ar unwaith, neu efallai y rhoddir rhybudd ar lafar neu’n ysgrifenedig i chi cyn atal y driniaeth.
Gall ymddygiad treisgar neu ymosodol gynnwys ymosod ar lafar, bygythiadau, trais, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn yr ysbyty neu ddistrywio eiddo.
Bydd gan eich Bwrdd Iechyd Lleol bolisi ynglŷn â pha ymddygiad all arwain at wrthod triniaeth, a sut y gweithredir hyn.
Ni ellir gwrthod triniaeth i chi am fwy na deuddeg mis.
Ni wrthodir triniaeth i chi os oes gennych broblemau iechyd meddwl difrifol neu gyflwr sy’n peryglu bywyd a chwithau’n dreisgar neu’n ymosodol tuag at staff y GIG.
Triniaeth na fyddwch chi o bosibl yn gallu ei chael o dan y GIG
Efallai na fyddwch chi’n gallu cael rhai mathau o driniaethau o dan y GIG. Mae hyn oherwydd bod rhai mathau o driniaethau, er enghraifft ffrwythloni in vitro, yn dibynnu ar flaenoriaethau eich Bwrdd Iechyd Lleol. Efallai fod eich Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu na allan nhw gynnig y driniaeth hon yn eich ardal chi.
Gall mynediad i driniaeth arall ddibynnu ar eich anghenion.
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am driniaeth sy ddim yn cael ei chynnig yn eich ardal, a sut y penderfynir ynglŷn â hyn, oddi wrth eich Bwrdd Iechyd Lleol.
Os ydych chi’n anhapus oherwydd nad yw math arbennig o driniaeth ar gael, fe allwch chi gwyno
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno, gweler Cwynion y GIG yng Nghymru.
Sut bynnag, rhaid i ddarparwyr gofal iechyd beidio gwrthod rhoi triniaeth i chi oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu gred neu rywioldeb. Byddai hyn yn wahaniaethu. Sut bynnag, nid yw yn erbyn y gyfraith iddynt wrthod rhoi triniaeth i chi oherwydd eich oedran.
Os gwrthodwyd math arbennig o driniaeth i chi efallai y byddwch am gwyno os ydych yn teimlo eich bod wedi’ch trin yn annheg, er enghraifft os ydych yn teimlo fod gwahaniaethu yn eich erbyn wedi digwydd. Efallai y gallwch chi gael help i wneud hyn oddi wrth swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Taliadau ysbyty
Nid oes tâl am y rhan fwyaf o driniaethau ysbyty i gleifion y GIG sy’n byw yn y DU. Mae yna daliadau i ymwelwyr o dramor, ac eithrio yn achos argyfwng.
Sut bynnag, efallai y codir tâl arnoch am archwiliad a thriniaeth brys os ydych chi wedi bod mewn damwain ffordd.
Efallai y codir tâl arnoch hefyd am rai gwasanaethau arbennig, er enghraifft, gwelyau gyda mwy o breifatrwydd a bwydlenni amgen, ffonau a theledu i gleifion.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thaliadau i ymwelwyr o dramor, gweler Taliadau’r GIG i bobol o dramor.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn a thaliadau i bobol sy wedi bod mewn damwain ffordd, gweler Damweiniau Traffig.
Cymorth ariannol i gleifion ysbyty
Os ydych chi’n derbyn rhai budd-daliadau lles, gellir effeithio ar eich budd-daliadau os ewch chi i’r ysbyty.
Os ydych hi’n pryderu ynglŷn âg effaith mynd i’r ysbyty ar eich budd-daliadau, fe ddylech chi gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych ar incwm isel efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gyda threuliau teithio i’r ysbyty a gyda chostau presgripsiynau, wigiau a chymhorthion ffabrig.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth gyda chostau’r GIG, gweler Cymorth gyda chostau Iechyd.
Gweld Ymgynghorydd
Efallai y bydd eich Meddyg Teulu yn eich cyfeirio i weld ymgynghorydd arbenigol os ydynt yn credu fod angen hynny arnoch.
Os ydych chi am weld meddyg neu ymgynghorydd arbennig, fe allwch chi ofyn am hyn. Sut bynnag nid oes gennych yr hawl i weld y person y gofynnwch amdano, ac ni all eich Meddyg Teulu fynnu eich bod yn gweld meddyg neu ymgynghorydd arbennig.
Ond mae gennych yr hawl i weld meddyg sy’n gallu delio â’ch sefyllfa.
Os oes gyda chi resymau arbennig dros eisiau gweld ymgynghorydd arbennig, er enghraifft, os yw’ch plentyn yn glaf i’r ymgynghorydd, fe allwch ofyn am apwyntiad, gan esbonio eich rhesymau dros eisiau eu gweld. Os ydych chi o hyd yn cael trafferth i weld yr ymgynghorydd, fe allech chi ysgrifennu at weinyddwr yr ysbyty yn gofyn am eu help.
Os ydych chi am gael ail farn bydd angen i chi ofyn i’r ymgynghorydd, fydd yn gallu trefnu i chi weld rhywun arall. Os nad yw’r ymgynghorydd yn cytuno, fe allech chi ofyn i’ch Meddyg Teulu am help.
Rhestrau Aros am apwyntaid neu lawdriniaeth
Efallai na fydd yn bosibl i chi gael y driniaeth ysbyty sydd ei hangen arnoch ar unwaith. Os felly, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd ar y rhestr aros.
Mae gan y GIG uchafswm amserau aros ar gyfer cael triniaeth mewn ysbyty. Os yw’n angenrheidiol, efallai y cewch chi driniaeth mewn ysbyty gwahanol ac felly fydd dim rhaid i chi aros yn hwy na’r uchafswm amser.
Os ydych chi’n aros i gael mynd i’r ysbyty, fe ddylech chi gysylltu â’r adran apwyntiadau ysbyty neu’r ymgynghorydd yn rheolaidd, gan atgoffa staff yr ysbyty eich bod yn dal i aros. Os ydych chi’n barod i fynd i’r ysbyty ar fyr rybudd fe ddylech chi ddweud hynny, rhag ofn i ganslad ddigwydd. Fe ddylech chi hefyd gadw i hysbysu’ch Meddyg Teulu o’ch cyflwr, yn enwedig os bydd yn gwaethygu.
Mae yna hefyd uchafswm amserau aros ar gyfer apwyntiad cyntaf i glaf allanol.
Mae pa mor hir y bydd yn rhaid i chi aros yn dibynnu ar bethau fel:
- pa mor ddifrifol yw’ch cyflwr
- pa mor brysur yw’r ymgynghorydd
- galwadau eraill ar gyfleusterau’r ysbyty.
Nid yw rhestrau aros yn gweithredu ar sail yr olaf i ddod, yr olaf i’w wasanaethu. Mae eich lleoliad ar y rhestr aros yn dibynnu ar amrywiaeth o amgylchiadau ac fe all newid. Os bydd eich cyflwr yn gwaethygu, fe allwch chi ofyn i’ch Meddyg Teulu am argymell i’r ysbyty eich bod yn cael eich gweld yn fuan.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag amserau aros mewn ysbyty yng Nghymru, gweler gwefan Llywodraeth Cymru yn: http://new.wales.gov.uk.
Fe allwch chi hefyd gael gwybodaeth am restrau aros lleol oddi wrth eich Bwrdd Iechyd Lleol. Os ydych chi wedi aros yn fwy nag amserau targed y GIG fe allwch chi gwyno.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno, gweler Cwynion y GIG yng Nghymru.
Amserau aros pan fyddwch chi’n mynd i’r ysbyty
Os ydych chi’n mynd i mewn i’r adran damweiniau ac achosion brys fe ddylech chi gael eich asesu ar unwaith.
Fe ddylid rhoi gwely i chi cyn gynted ag sy’n bosibl. Bydd staff yn ceisio gwneud yn siŵr na fydd rhaid i chi aros yn fwy na 4 awr rhwng yr amser i chi gyrraedd yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys a’ch derbyniad, triniaeth neu ryddhau ond nid yw hyn yn orfodol. Os ydych chi’n defnyddio adran glaf allanol fe ddylid rhoi amser apwyntiad i chi. Fel arfer fe gewch chi’ch gweld o fewn 30 munud o’r amser hwnnw.
Os bydd rhaid i chi aros am fwy na’r uchafswm o amser aros efallai y byddwch am gwyno.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno, gweler Cwynion y GIG yng Nghymru.
Ymweliadau ysbyty
Fel arfer mae gan ysbytai amserau ymweld penodol ar gyfer pobol i ymweld â chi. Weithiau gall meddyg benderfynu na fyddai ymweliadau yn dda i’ch iechyd a dweud na allwch chi gael ymwelwyr.
Fel arfer hefyd mae yna gyfyngiad ar y nifer o bobol all ymweld â chi ar y tro. Mae’r rheolau ynglŷn ag ymweliadau gan blant yr un fath ag ar gyfer ymwelwyr eraill.
Os oes rhywun am ymweld â chi y tu allan i oriau ymweld, fe ddylen nhw drafod hyn gyda’r person sy’n gyfrifol am y ward. Os na allan nhw gael eu caniatâd hwy ac yn dymuno mynd â’r peth ymhellach, fe ddylen nhw gysylltu â gweinyddwr yr ysbyty.
Parcio ysbyty
Mae’r rhan fwyaf o ysbytai'r GIG yn darparu parcio am ddim i gleifion, staff ac ymwelwyr. Sut bynnag, mae rhai ysbytai sy’n defnyddio cwmnïau preifat yn codi tâl o hyd. Disgwylir y bydd bron i bob ysbyty GIG yng Nghymru yn darparu parcio am ddim erbyn diwedd 2011. Dylech wirio gyda’r ysbyty ynglŷn â threfniadau lleol cyn i chi fynd.
Cymorth ariannol gydag ymweliadau ysbyty
Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau lles arbennig, efallai y byddwch chi’n gallu cael arian o’r Gronfa Gymdeithasol ar gyfer costau teithio i ymweld ag aelod o’r teulu mewn ysbyty. Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth os ydych chi’n derbyn:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Credyd Pensiwn.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth gyda chostau teithio, gweler Cymorth i bobol ar incwm isel - y Gronfa Gymdeithasol.
Gofal ysbrydol mewn ysbyty
Tra byddwch chi yn yr ysbyty fe allwch chi gael mynediad i ofal ysbrydol os ydych yn dymuno hynny. Mae gofal ysbrydol yn cynnwys pethau fel:
- gweld caplan neu ofalydd ysbrydol i siarad am bethau, a chael cyngor ac arweiniad
- cael rhywle i ymarfer eich crefydd neu ffydd, megis ystafell i weddïo
- staff sy’n deall ymarferion gofal ysbrydol gwahanol sy’n briodol ar gyfer pobol o wahanol gredoau a ffydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllawiau ar gyfer safonau'r gofal ysbrydol y dylech ei dderbyn mewn ysbyty. Fe allwch chi edrych ar yr arweiniad ar-lein yn: wales.gov.uk.
Defnyddio ffonau symudol yn ysbytai’r GIG
Yng Nghymru, caniateir i gleifion ddefnyddio ffonau symudol mewn ardaloedd dynodedig mewn ysbytai.
Fe ddylai fod arwyddion i fyny ymhob ardal mewn ysbyty yn nodi’n glir a allwch chi ddefnyddio’r ffôn symudol yno ai peidio.
Wardiau cymysg ac un rhyw mewn ysbyty
Cyn i chi fynd i’r ysbyty fe ddylid dweud wrthych os fyddwch chi mewn ward gymysg neu ward un rhyw. Mae hyn yn digwydd oni bai ei fod yn achos brys, neu os cawsoch eich derbyn i uned gofal dwys.
Dylid diogelu eich preifatrwydd a’ch urddas tra yn yr ysbyty. Fe ddylai fod ardaloedd ymolchi preifat a sgriniau ar gael lle mae'n briodol.
Allwch chi ddim mynnu eich bod yn cael gofal mewn ward un rhyw. Os gofynnwch chi am gael bod mewn ward un rhyw, efallai y bydd yn rhaid i chi ohirio cael eich derbyn i’r ysbyty os nad yw hyn ar gael ar unwaith.
Os caiff eich llawdriniaeth ei chanslo
Os caiff eich llawdriniaeth ei chanslo, fe ddylid cynnig dyddiad gwahanol i chi ar ei chyfer. Fel arfer, dylai hwn fod o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad gwreiddiol. Dylai fod ynghynt na hynny os yw’ch cyflwr yn peryglu bywyd. Os nad yw hyn yn digwydd efallai y byddwch am gwyno.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno, gweler Cwynion y GIG yng Nghymru.
Dylid canslo eich llawdriniaeth ar y diwrnod yr ydych yn mynd i’r ysbyty am resymau meddygol yn unig. Os caiff ei ganslo ar y diwrnod am reswm arall, mae gan y GIG safonau ynglŷn â pha mor fuan y dylid cynnig dyddiad amgen i chi. Mae’r rhesymau paham y gallai gael ei ganslo ar y diwrnod yn cynnwys y llawfeddyg ddim ar gael, neu fod dim digon o amser ar gael yn y theatr llawdriniaeth.
Pan fydd rhywun yn marw yn yr ysbyty
Os bydd person yn marw yn yr ysbyty, dylai staff y GIG hysbysu eu teulu a’u Meddyg Teulu cyn gynted ag sy’n bosibl. Dylai’r staff hefyd gynghori’r teulu o’r trefniadau sydd angen eu gwneud.
Mae yna rai sefyllfaoedd lle gall y Bwrdd Iechyd Lleol fod yn gyfrifol am drefniadau’r angladd. Gall hyn fod os nad oed perthnasau, neu os na all y perthnasau fforddio’r gost a ddim yn gymwys i gael cymorth oddi wrth y Gronfa Gymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth gyda chostau angladd, gweler Cymorth i bobol ar incwm isel - y Gronfa Gymdeithasol yng Nghymru.
Plant a thriniaeth ysbyty
Os yw’ch plentyn ar fin mynd i’r ysbyty, bydd llawer o bethau i’w hystyried. Efallai y byddwch am ystyried:
- os allwch chi aros gyda’ch plentyn ai peidio
- faint o help allwch chi ei roi gyda bwydo a gofalu am eich plentyn
- beth fydd yn digwydd i addysg eich plentyn.
Dylai ysbytai ganiatáu rhieni i fod gyda’u plant gymaint ag sy’n bosibl. Yn aml maen nhw’n caniatáu ymweliadau anghyfyngedig ar wardiau plant. Mae hyn yn golygu eu bod yn aml iawn yn gadael i chi ymweld â’ch plentyn unrhyw bryd. Gall hyn gynnwys caniatáu i chi aros dros nos yn yr ysbyty. Fe ddylech ofyn i’ch ysbyty lleol beth yw eu trefniadau cyn i’ch plentyn fynd i’r ysbyty.
Os ydych chi’n ei chael yn anodd ymweld â phlentyn yn yr ysbyty, er enghraifft, os oes gennych blant eraill gartref, efallai y byddwch am drafod hyn gyda gweithiwr cymdeithasol meddygol yn yr ysbyty.
Mae Gweithredu ar ran Plant Sâl yn elusen ym Mhrydain sy’n arbenigo mewn gofal iechyd i blant. Efallai y byddan nhw yn gallu rhoi cyngor i chi pan fydd eich plentyn yn mynd i’r ysbyty. Mae ganddyn nhw hefyd daflen i rieni sydd â’u plant yn mynd i’r ysbyty am y tro cyntaf.
Fe allwch chi gysylltu â Gweithredu ar ran Plant Sâl yn:
Action for Sick Children
32b Buxton Road
High Lane
Stockport
SK6 8BH
Llinell Gymorth: 0800 074 4519 (rhadffôn)
Tel/Ffacs: 01663 763 004
Ebost: enquiries@actionforsickchildren.org
Gwefan: www.actionforsickchildren.org
Mae Cymdeithas Lles Plant yn yr ysbyty (AWCH) yn elusen sy’n gweithredu trwy Gymru gyfan a gall roi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am y materion hyn. Eu manylion cyswllt yw:
Cymdeithas Lles Plant yn yr ysbyty (AWCH) (Cymru)
20 Caebryn Avenue
Sgeti
Abertawe
SA2 9AT
Tel: 01792 205227
Ebost: awchwales.org@tiscali.co.uk
Gwefan: www.awchwales.org.uk.
Gadael yr ysbyty
Fe ddylech chi adael yr ysbyty dim ond ar ôl gwneud y trefniadau ar gyfer beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf. Fe ddylech chi gael asesiad o’ch anghenion gofal. O hyn, dylid trefnu cynlluniau i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gofal a’r gwasanaethau sydd eu hangen pan fyddwch chi’n gadael yr ysbyty.
Fe ddylai eich asesiad ystyried yr hyn yr ydych yn ei ddymuno, a beth mae’ch teulu neu ofalydd yn ei ddymuno. Dylid dweud wrthych beth sy’n digwydd, a rhoi digon o amser i chi benderfynu drosoch eich hun. Dylid dweud wrthych hefyd sut i gwestiynu unrhyw benderfyniadau ynglŷn â’ch gofal nad ydych yn hapus yn eu cylch.
Os bydd eich sefyllfa’n newid yn y dyfodol, fe allwch ofyn am gael eich anghenion gofal wedi’u hasesu eto
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau gofal cymunedol, gweler Gofal Cymunedol yng Nghymru.
Cynlluniwyd Gwasanaeth Meddyginiaethau wrth Ryddhau GIG Cymru i sicrhau eich bod yn dal i gael y meddyginiaethau cywir wedi i chi fynd adref ar ôl cyfnod yn yr ysbyty. Pan fyddwch chi’n gadael yr ysbyty, cewch gopi o’ch Llythyr Cyngor wrth Ryddhau, ac anfonir copi at eich Meddyg Teulu. Rydych chi, neu rywun yr ydych yn ei enwi i weithredu ar eich rhan, yn medru rhoi copi o’r Llythyr Cyngor wrth Ryddhau i’ch fferyllfa leol.
Yna, fe fydd y fferyllydd yn sicrhau eich bod yn parhau i gael unrhyw feddyginiaethau newydd ac fe fydd hefyd yn sicrhau nad ydych yn cael unrhyw feddyginiaethau sydd ddim yn berthnasol mwyach. Am wybodaeth bellach ar y gwasanaeth hwn, holwch eich fferyllydd lleol neu e-bostiwch info@cpwales.org.uk. Os ydych yn yr ysbyty, holwch fferyllydd y ward.
Os nad ydych yn hapus â’r cynlluniau ar eich cyfer yn gadael yr ysbyty
Efallai nad ydych yn hapus ynglŷn â’r cynlluniau ar eich cyfer yn gadael yr ysbyty. Gall hyn fod oherwydd:
- eich bod yn teimlo nad ydych yn barod i adael yr ysbyty - yr ydych yn teimlo bod angen i chi aros am fwy o driniaeth.
- eich bod yn anhapus ynglŷn â’r gwasanaethau gofal cymunedol a drefnwyd ar eich cyfer ar ôl i chi adael yr ysbyty
- nad ydych am gael eich anfon i gartref gofal.
Os nad ydych yn hapus, fe allwch ofyn am adolygiad o’r penderfyniad ynglŷn â’ch gofal GIG parhaus. Mae hyn yn golygu y gallwch ofyn am ystyried eto'r penderfyniad ynglŷn â ydych yn parhau i dderbyn gofal y GIG ai peidio. Gall rhywun ofyn am hyn ar eich rhan hefyd. Gallai hyn fod yn deulu, gofalydd neu gynrychiolydd.
Os nad ydych yn hapus gyda’r cynlluniau a wnaed ar eich cyfer, gallwch gwyno.
Os nad ydych yn hapus ynglŷn ag unrhyw wasanaethau meddygol gewch chi oddi wrth y GIG, fe ddylech chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r GIG.
Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaethau gofal cymunedol oddi wrth eich awdurdod lleol, fe ddylech gwyno wrth yr awdurdod lleol gan ddefnyddio eu gweithdrefn gwyno.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno, gweler Cwynion y GIG yng Nghymru.
Os ydych yn anhapus ynglŷn â’ch rhyddhau o’r ysbyty neu gyda’r cynlluniau i ofalu amdanoch ar ôl i chi adael yr ysbyty, fe ddylech gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cymorth Ychwanegol
Yn Adviceguide
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau a’ch Meddyg Teulu yng Nghymru, gweler Defnyddio Meddyg Teulu y GIG yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau ar draws gwasanaethau’r GIG yng Nghymru, gweler Hawliau cleifion y GIG yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gofal iechyd sydd ar gael i chi o dan y GIG, gweler Pa ofal iechyd alla i ei gael o dan y GIG?
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno ynglŷn â gofal y GIG, gweler Cwynion y GIG.
Ar Galw Iechyd Cymru
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am wasanaethau'r GIG yng Nghymru ar wefan Galw Iechyd Cymru yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Mae’r wefan yn rhoi gwybodaeth i chi am:
- gwasanaethau Meddyg Teulu lleol, yn cynnwys sut mae dod o hyd i’ch deintydd, Meddyg Teulu, ysbyty neu fferyllydd agosaf
- sut i ddewis yr ysbyty neu glinig gorau ar gyfer triniaeth neu weithdrefn arbennig
- clefydau a chyflyrau cyffredin megis clefyd y siwgr, a chanllawiau ar gyfer gweithdrefnau cyffredin, megis cael clun newydd
- sut i gwyno am wasanaeth y GIG
- sut mae byw bywyd iachach.
Mae Galw Iechyd Cymru hefyd yn gweithredu gwasanaeth ymholiadau ar-lein nad ydynt yn rhai brys. Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych chi neu rywun arall yn teimlo’n sâl neu’n profi symptomau - cysylltwch â Galw Iechyd Cymru neu’ch Meddyg Teulu. Fe allwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth ymholiadau ar-lein ar gyfer cwestiynau am iechyd. Fe allwch chi fynd ar-lein, mewnbynnu’ch ymholiad, a bydd arbenigwr gwybodaeth iechyd medrus yn ceisio’ch ateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Fe allan nhw ateb ymholiadau ynglŷn â phethau megis:
- cyflyrau cyffredin
- gwasanaethau GIG lleol
- hawliau cleifion
- byw iachus.
Mae’r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar-lein yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Fe allwch chi hefyd gael cyngor cyfrinachol a gwybodaeth ynglŷn â phroblemau iechyd a gwasanaethau dros y ffôn oddi wrth Galw Iechyd Cymru. Mae’n cynnig mynediad 24 awr i gyngor iechyd am ddim oddi wrth nyrsys profiadol. Bwriad y llinell yw eich helpu chi i ofalu am eich hunan trwy’ch cynghori chi ynglŷn â’r cam nesaf, er enghraifft, pa un ai i aros gartref a pha hunan-driniaeth i’w gymryd, pa un ai i ymweld â Meddyg Teulu neu ysbyty.
Y manylion cyswllt ar gyfer Galw Iechyd Cymru yw:
Ffôn: 0845 46 47 (codir tâl ar y gyfradd leol am y galwadau)
ffon destun ar 0845 606 4647 neu ffoniwch trwyr RNID Typetalkar 1 8001 0845 46 47.
Gwefan: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Gwybodaeth llywodraeth leol a chenedlaethol
Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wasanaethau iechyd yng Nghymru. Fe gewch chi wybodaeth am wasanaethau a’r newyddion iechyd diweddaraf a chyhoeddiadau ar wefan yr Adran yn: http://new.wales.gov.uk.
Mae Byrddau Iechyd Lleol (LHB) bellach yn gyfrifol am bob gwasanaeth gofal iechyd yn eu hardal. Fe allwch chi ddarganfod sut mae cysylltu â’ch BILl ar wefan Galw Iechyd Cymru yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.









