The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Defnyddio Meddyg Teulu'r GIG yng Nghymru
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru
Ynglŷn â defnyddio Meddyg Teulu yng Nghymru
Adwaenir eich meddyg lleol fel eich Meddyg Teulu. Gall eich Meddyg Teulu ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau. Gall hyn gynnwys cyngor ynglŷn â phroblemau iechyd, archwiliadau corfforol, diagnosis o symptomau, pennu meddyginiaeth neu driniaeth arall neu eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol.
Ar y dudalen hon rydyn ni’n dweud wrthych am eich hawliau pan fyddwch chi’n defnyddio gwasanaethau eich Meddyg Teulu. Mae hyn yn cynnwys:
- sut i gofrestru gyda Meddyg Teulu
- sut i gael triniaeth pan fydd y feddygfa ar gau
- sut i newid eich Meddyg Teulu.
Fe allwch chi hefyd ddarganfod mwy o wybodaeth am eich triniaeth o fewn y GIG ar Adviceguide ac oddi wrth y GIG ei hun.
Oes gennych chi hawl i Feddyg Teulu
Os ydych chi fel arfer yn breswylydd yn y DU mae gennych yr hawl i gael eich cofrestru gyda Meddyg Teulu. Mae hyn yn cynnwys pobol o wledydd eraill yn Ardal Economaidd Ewrop (EEA) a dramor.
Os oes angen Meddyg Teulu arnoch tra i ffwrdd o gartref yn y DU, fe allwch chi ymweld â meddygfa arall. Os ydych chi i ffwrdd am fwy na 24 awr, gall unrhyw Feddyg Teulu eich trin fel claf dros dro. Mae’n syniad da i ffonio’r feddygfa yn gyntaf i ddarganfod eu trefniadau. Fe gewch chi fanylion am feddygfeydd Meddyg Teulu yn yr ardal ar wefan Galw Iechyd Cymru yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Ar y llaw arall, fe allwch gysylltu â Galw Iechyd Cymru trwy ffonio, lle y bydd Nyrs Ymgynghorol yn gallu’ch helpu chi gyda’ch problem.
Os ydych chi’n mynd i fod o gartref am 3 mis neu fwy fe ddylech chi gofrestru gyda Meddyg Teulu yn eich cyfeiriad newydd cyn gynted ag sy’n bosibl.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thriniaeth y GIG i bobol o dramor, gweler Taliadau y GIG i bobol o dramor.
Beth i’w ddisgwyl oddi wrth Feddyg Teulu
Mae pob practis Meddyg Teulu yn cynhyrchu taflen sy’n amlinellu’r gwasanaethau a’r gofal y gallwch eu disgwyl oddi wrthyn nhw. Dylai’r daflen gynnwys manylion am amserau’r feddygfa, a gwybodaeth am ymweliadau cartref ac unrhyw glinigau arbenigol y maen nhw’n eu cynnig.
Os nad yw’ch problem yn achos brys, bydd y rhan fwyaf o feddygfeydd yn anelu i’ch gweld o fewn dau ddiwrnod. Ond gall amserau aros newid yn dibynnu ar faint y feddygfa.
Yn ogystal â rhoi cyngor i chi ynglŷn ag iechyd a chlefydau, gall eich Meddyg Teulu hefyd gynnig:
- gwasanaethau atal cenhedlu
- brechiadau
- mân lawdriniaethau
- gwasanaethau mamolaeth
- brechiadau teithio
- gwasanaethau arbenigol i bobol ddigartref
- gwasanaethau iechyd rhyw.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau mamolaeth yn y GIG, gweler Pa ofal iechyd alla i ei gael o dan y GIG.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau iechyd rhyw yn y GIG, gweler Pa ofal iechyd alla i ei gael o dan y GIG.
Sut i ddewis Meddyg Teulu
Fe allwch chi ddewis gyda pa feddygfa Meddyg Teulu yr ydych am gofrestru. Nid oes rhaid i’r Meddyg Teulu eich derbyn, ond os ydyn nhw’n eich gwrthod, rhaid bod ganddynt reswm da dros wneud hynny. Rhaid iddyn nhw roi eu rhesymau yn ysgrifenedig.
Fe allwch chi ddefnyddio tudalen Chwilio am Feddyg Teulu yn Galw Iechyd Cymru i ddod o hyd i feddyg yn eich ardal. Mae ar gael ar y wefan yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Fe allwch gael mwy o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau Meddyg Teulu oddi wrth eich Canolfan Gwasanaethau Busnes lleol. Fe allwch gysylltu â’ch Canolfan Gwasanaethau Busnes ar y rhifau hyn, a gofyn am Wasanaethau Contractwr.
Canolfan Gwasanaethau Busnes - Canolbarth a’r Gorllewin (Abertawe)
Ffôn: 01792 458066
Canolfan Gwasanaethau Busnes - Ardal De Ddwyrain (Pontypŵl)
Ffôn: 01495 332000
Canolfan Gwasanaethau Busnes - Ardal Gogledd Cymru (Yr Wyddgrug)
Ffôn: 01352 700227
Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn á’r Ganolfan Gwasanaethau Busnes ar eu gwefan yn: www.bsc.wales.nhs.uk.
Sut i gofrestru gyda Meddyg Teulu
Er mwyn cofrestru gyda Meddyg Teulu fe ddylech chi gysylltu â’r feddygfa o’ch dewis a gofyn am gael eich cynnwys ar eu rhestr o gleifion. Fel arfer fe fyddan nhw’n gofyn i chi lenwi ffurflen yn y feddygfa, neu ofyn i chi am eich cerdyn meddygol GIG. Y rheswm am hyn yw er mwyn trosglwyddo’ch cofnodion meddygol chi yno.
Os ydych chi wedi colli’ch cerdyn meddygol GIG fe ddylech chi gysylltu â’ch Canolfan Gwasanaethau Busnes. Fe allan nhw drefnu cerdyn arall i chi yn lle. Ond nid oes angen cerdyn meddygol arnoch i gofrestru gyda Meddyg Teulu neu i gael triniaeth y GIG.
Nid oes rhaid i aelodau o deulu i gyd gofrestru gyda’r un Meddyg Teulu.
Os ydych chi’n aros yn rhywle yn y DU am lai na thri mis, fe allwch chi ofyn am gael eich cofrestru gyda Meddyg Teulu dros dro. Fe allwch chi hefyd gofrestru gyda meddygfa leol dros dro os ydych chi’n symud o gwmpas y wlad heb gartref parhaol.
Oni bai bod cofrestr eich Meddyg Teulu yn llawn, neu eich bod yn byw yn rhy bell ar gyfer ymweliadau cartref, mae’n annhebygol y bydd y Meddyg Teulu yn gwrthod eich cofrestru.
Os yw meddygfa yn dymuno gwrthod eich cofrestru, rhaid bod ganddo resymau da dros wneud hynny. Ni all y rhesymau hyn ymwneud o gwbl â hil, rhyw'r person, dosbarth cymdeithasol, oedran, crefydd, rhywioldeb, golwg, anabledd neu gyflwr meddygol.
Os ydych chi’n credu fod y Meddyg Teulu wedi gwrthod eich cofrestru am un o’r rhesymau hyn, gall hyn fod yn wahaniaethu.
Rhifau’r GIG a chardiau meddygol y GIG
Rhoddir cerdyn meddygol GIG i chi pan fyddwch chi’n cofrestru gyntaf gyda Meddyg Teulu. Mae’r cerdyn yn cynnwys:
- eich rhif GIG
- manylion eich Meddyg Teulu
- gwybodaeth bersonol megis eich enw, cyfeiriad a dyddiad geni.
Fel arfer gofynnir i chi am eich cerdyn meddygol GIG pan fyddwch chi’n cofrestru gyda Meddyg Teulu newydd. Os nad oes un gennych, rhoddir ffurflen i chi i’w chwblhau. Ar ôl i chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen, bydd eich awdurdod iechyd lleol yn trosglwyddo’ch cofnodion meddygol i’ch Meddyg Teulu newydd. Caiff eich cerdyn meddygol ei bostio i’ch cyfeiriad cartref.
Mae eich rhif GIG yn unigryw i chi. Fe’i defnyddir i ddangos pwy ydych chi ar draws gwahanol sefydliadau’r GIG. Mae rhifau’r GIG yn helpu staff ar draws y GIG i gael y newyddion diweddaraf am iechyd cleifion.
Os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i Feddyg Teulu
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i Feddyg Teulu i gofrestru gydag ef, dylai eich Canolfan Gwasanaethau Busnes fod yn gallu’ch helpu i ddod o hyd i feddygfa.
Fe ddylech chi anfon:
- eich cerdyn meddygol GIG
- manylion unrhyw Feddygon Teulu sydd wedi gwrthod eich cofrestru chi
- manylion unrhyw Feddygon Teulu y byddai’n well gennych beidio cofrestru gyda nhw.
Bydd y Ganolfan Gwasanaethau Busnes yn ceisio fod o hyd i Feddyg Teulu fydd yn barod i’ch derbyn chi. Ni fydd y Meddyg Teulu hwn o anghenrhaid o’ch dewis chi.
Pan fydd y Ganolfan Gwasanaethau Busnes wedi penderfynu ynglŷn â Meddyg Teulu i chi, rhaid i’r Meddyg Teulu eich derbyn a’ch trin chi. Gall y Meddyg Teulu eich diddymu o’u rhestr o dan amgylchiadau arbennig yn unig.
Triniaeth oddi wrth Feddyg Teulu
Mae gennych hawl i gael triniaeth oddi wrth Feddyg Teulu yn y feddygfa lle yr ydych wedi’ch cofrestru. Sut bynnag, nid oes hawl gennych i fynnu gweld un Meddyg Teulu yn arbennig.
Mewn argyfwng, rhaid i Feddyg Teulu ddarparu unrhyw driniaeth sydd yn angenrheidiol ar unwaith. Rhaid iddyn nhw ddarparu hyn hyd yn oes os nad ydych wedi’ch cofrestru gyda nhw.
Pethau i’w hystyried wrth i chi ymweld â’ch Meddyg Teulu
Pan fyddwch chi’n ymweld â’ch Meddyg Teulu, mae’n werth mynd yno wedi’ch paratoi â chymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl. Bydd yn helpu eich Meddyg Teulu i roi diagnosis o’ch cyflwr mor gyflym a chywir ag y gallan nhw. Gall fod yn ddefnyddiol i gadw cofnod o’ch symptomau, a mynd â hwn gyda chi. Gallai hyn helpu’r Meddyg Teulu i weithio allan beth allai fod yn achosi’ch symptomau.
Fe allwch chi fod yn bryderus wrth fynd at eich Meddyg Teulu, yn enwedig os mai hwn yw’ch ymweliad cyntaf neu os nad ydych wedi bod ers peth amser. Os ydy ymweld â’r Meddyg Teulu yn straen i chi, efallai y byddwch am ysgrifennu’ch cwestiynau ar bapur cyn eich ymweliad. Efallai hefyd y byddwch am gymryd nodiadau neu gofnodi eich sgwrs gyda’r Meddyg Teulu er mwyn i chi wrando arno wedyn yn nhawelwch eich cartref. Mae’n syniad da i siarad â’ch Meddyg Teulu am hyn cyn eich apwyntiad.
Os hoffech chi gael cefnogaeth bellach, efallai yr hoffech chi fynd â ffrind neu berthynas gyda chi.
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am eich iechyd, a phethau y dylech eu hystyried wrth weld Meddyg Teulu, ar wefan Galw Iechyd Cymru yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Sut i gael triniaeth pan fydd y feddygfa ar gau
Rhaid i’ch Meddyg Teulu wneud yn siŵr fod gwasanaeth ar eich cyfer pan na fyddan nhw ar ddyletswydd. Gellir darparu hyn:
- gan bartneriaid eraill yn y grŵp practis
- trwy rota rhwng Meddygon Teulu
- gwasanaeth dirprwyo masnachol (locwm)
- rhif ffôn y gall cleifion ei ddefnyddio y tu allan i oriau agor.
Os oes angen Meddyg Teulu arnoch pan fydd y feddygfa ar gau, fe ddylech chi ffonio’ch Meddyg Teulu a gwrando ar y neges sydd wedi’i recordio. Bydd y neges hon yn rhoi manylion i chi o’r gwasanaeth y tu allan i oriau agor eich practis.
Mae eich Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am sicrhau fod y gwasanaeth y tu allan i oriau agor yn ddigon da. Os ydych chi’n anhapus ynglŷn â’r driniaeth dderbynioch chi o’r gwasanaeth y tu allan i oriau agor, fe ddylech chi gysylltu â’ch Bwrdd Iechyd Lleol.
Os oes argyfwng, fe ddylech chi ffonio 999 am ambiwlans, neu fynd i’r adran Damwain ac Argyfwng yn eich ysbyty lleol. Fe gewch chi fanylion am eich ysbyty lleol ar wefan Galw Iechyd Cymru yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Ymweliadau cartref oddi wrth eich Meddyg Teulu
Dylai fod gan eich Meddyg Teulu daflen practis sy’n dweud wrthych pa bryd maen nhw fel arfer yn ymweld â’r cartref. Allwch chi ddim mynnu fod eich Meddyg Teulu yn ymweld â chi gartref. Bydd eich Meddyg Teulu yn penderfynu pa un ai i ymweld â chi gartref ai peidio yn dibynnu ar eich cyflwr meddygol. Fe fyddan nhw hefyd yn penderfynu pa mor daer yw’r ymweliad. Os ydych chi’n teimlo eich bod am i’ch Meddyg Teulu ymweld â chi gartref, fe ddylech chi ffonio’r feddygfa ac esbonio’ch sefyllfa.
Os bydd eich Meddyg Teulu yn gwrthod ymweld â chi gartref ac yna fe fyddwch chi’n mynd yn ddifrifol sâl, efallai y byddwch chi am gwyno. Efallai fod eich Meddyg Teulu wedi bod yn esgeulus, neu efallai eu bod wedi torri eu cytundeb gyda’r GIG.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno am Feddyg Teulu, gweler Cwynion GIG yng Nghymru.
Os cyfeirir chi gan eich Meddyg Teulu neu ymgynghorydd ysbyty, efallai y bydd nyrs gymunedol yn ymweld â chi gartref. Os nad yw’ch sefyllfa yn achos brys, bydd y nyrs yn gwneud apwyntiad i ddod i’ch gweld.
Os ydych chi newydd gael babi, neu os ydych chi newydd gofrestru gyda Meddyg Teulu a bod gyda chi blentyn o dan 5 oed, efallai y bydd ymwelydd iechyd yn ymweld â chi gartref.
Fe ddylech chi gael ymweliad gartref gan ymwelydd iechyd hefyd os ydych chi newydd gael babi, neu os ydych chi newydd gofrestru gyda Meddyg Teulu a bod gyda chi blentyn o dan 5 oed.
Os oes angen meddyginiaeth arnoch
Os yw’ch Meddyg Teulu yn penderfynu fod angen meddyginiaeth arnoch, fel arfer fe roddan nhw bresgripsiwn i chi. Fe allwch chi fynd a’r presgripsiwn at fferyllydd ddylai fod yn gallu rhoi’r feddyginiaeth i chi. Mewn rhai achosion, er enghraifft, os yw’r feddygfa mewn ardal unig, gall y Meddyg Teulu roi’r feddyginiaeth i chi eu hunain.
Rhaid i’ch Meddyg Teulu gyflenwi unrhyw gyffuriau sydd eu hangen ar gyfer triniaeth sy’n achos brys.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phresgripsiynau gweler Taliadau’r GIG a gwerth talebau optegol yng Nghymru.
A fydd rhaid i mi dalu am ddefnyddio gwasanaethau fy Meddyg Teulu?
Nid oes tâl am driniaeth sylfaenol gan feddyg ar gyfer cleifion y GIG sy’n byw yn y DU. Mae yna daliadau ar gyfer ymwelwyr o dramor, ac eithrio mewn achos brys. Sut bynnag, fe all eich Meddyg Teulu godi tâl arnoch am rai gwasanaethau arbennig, er enghraifft, archwiliadau ar gyfer gweithwyr neu frechiadau ar gyfer teithio dramor.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thaliadau Meddyg Teulu, gweler Taliadau’r GIG a gwerth talebau optegol yng Nghymru.
Therapïau amgen
Mae rhai Meddygon Teulu yn gymwys mewn therapïau amgen ac efallai yn cynnig y rhain fel rhan o’u triniaeth GIG. Mewn rhai ardaloedd gall Meddyg Teulu gyfeirio cleient at ymarferwyr amgen, ond ni fydd hyn ar gael bob amser.
Cael ail farn
Fe allwch chi ofyn i’ch Meddyg Teulu i drefnu ail farn naill ai oddi wrth arbenigwr neu Feddyg Teulu arall. Sut bynnag, nid oes rhaid i’ch Meddyg Teulu wneud hyn os nad ydynt yn credu ei fod yn angenrheidiol.
Os bydd eich Meddyg Teulu yn eich cyfeirio ar gyfer ail farn, allwch chi ddim mynnu gweld Meddyg Teulu arbennig. Sut bynnag, ddylen nhw ddim eich cyfeirio at rywun nad ydych am eu gweld.
Nid oes gennych hawl i gael ail farn, ond mae gennych yr hawl i weld Meddyg Teulu sy’n gallu delio â’ch sefyllfa. Os bydd eich Meddyg Teulu yn gwrthod trefnu ail farn, efallai y byddwch am ystyried newid eich Meddyg Teulu.
Os yw’ch Meddyg Teulu yn ansicr ynglŷn â diagnosis, fe ellir eu cael yn esgeulus os nad ydynt yn eich cyfeirio at arbenigwr a chwithau’n dioddef o’r herwydd. Os ydych chi yn y sefyllfa hon, efallai yr hoffech chi gwyno.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno, gweler Cwynion y GIG yng Nghymru.
Sut i newid eich Meddyg Teulu
Os ydych chi’n penderfynu eich bod am newid eich Meddyg Teulu, nid oes rhaid i chi roi esboniad i’ch Meddyg Teulu presennol.
Er mwyn newid eich Meddyg Teulu nid oes rhaid i chi roi esboniad i’ch Meddyg Teulu presennol. Er mwyn newid eich Meddyg Teulu, fe ddylech chi gysylltu â’r feddygfa yr ydych am newid iddi, a gofyn a fyddan nhw’n barod i’ch derbyn fel claf. Os fyddan nhw’n cytuno i’ch derbyn, bydd angen i chi roi eich cerdyn meddygol iddyn nhw neu lenwi ffurflen. Ar ôl i chi gofrestru gyda’r feddygfa newydd, anfonir eich cofnodion meddygol atynt.
Os na allwch chi ddod o hyd i Feddyg Teulu i gofrestru gydag ef/hi, fe ddylai eich Canolfan Gwasanaethau Busnes fod yn gallu’ch helpu i ddod o hyd i bractis gwahanol.
All fy Meddyg Teulu fy niddymu o’u rhestr o gleifion?
Mae yna rai rhesymau pam y bydd yn rhaid i’ch Meddyg Teulu eich diddymu o’u rhestr o gleifion. Mae’r rhain yn cynnwys os ydych yn symud allan o ardal y practis, neu os ydych chi wedi ymosod yn eiriol neu’n gorfforol ar bobol yn y feddygfa.
Fel arfer fe ddylech chi dderbyn rhybudd ac esboniad cyn i hyn ddigwydd. Sut bynnag, os ydych chi wedi bod yn ymosodol tuag at staff, gall eich Meddyg Teulu eich diddymu o’u rhestr ar unwaith.
Os ydych chi wedi’ch diddymu oddi ar restr Meddyg Teulu efallai y byddwch am gwyno. Er enghraifft, efallai y byddwch yn teimlo eich bod wedi’ch trin yn annheg neu bod gwahaniaethu yn rhan o’r peth. Efallai y gallwch gael help i gwyno oddi wrth Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i fanylion am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno, gweler Cwynion y GIG yng Nghymru.
Os ydych chi’n symud allan o ardal eich Meddyg Teulu
Os ydych chi’n newid cyfeiriad, ond heb symud yn rhy bell, efallai y byddwch am aros gyda’ch Meddyg Teulu presennol, Fe ddylech chi ofyn i’ch Meddyg Teulu os allan nhw barhau i’ch trin ac ymweld â chi yn eich cyfeiriad newydd.
Gall eich Meddyg Teulu barhau i’ch trin os ydych chi wedi symud allan o ardal eu practis, ond rhaid iddyn nhw ddweud wrth y Bwrdd Iechyd Lleol eu bod yn fodlon parhau i ymweld â chi a’ch trin.
Cymorth Ychwanegol
Yn Adviceguide
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau a’ch gofal ysbyty GIG yng Nghymru, gweler Defnyddio gwasanaethau ysbyty’r GIG yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau ar draws gwasanaethau’r GIG yng Nghymru, gweler Hawliau cleifion y GIG yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gofal iechyd sydd ar gael i chi o dan y GIG, gweler Pa ofal iechyd alla i ei gael o dan y GIG?
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno ynglŷn â gofal y GIG, gweler Cwynion y GIG.
Ar Galw Iechyd Cymru
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am wasanaethau'r GIG yng Nghymru ar wefan Galw Iechyd Cymru yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Mae’r wefan yn rhoi gwybodaeth i chi am:
- gwasanaethau Meddyg Teulu lleol, yn cynnwys sut mae dod o hyd i’ch deintydd, Meddyg Teulu, ysbyty neu fferyllydd agosaf
- sut i ddewis yr ysbyty neu glinig gorau ar gyfer triniaeth neu weithdrefn arbennig
- clefydau a chyflyrau cyffredin megis clefyd y siwgr, a chanllawiau ar gyfer gweithdrefnau cyffredin, megis cael clun newydd
- sut i gwyno am wasanaeth y GIG
- sut mae byw bywyd iachach.
Mae Galw Iechyd Cymru hefyd yn gweithredu gwasanaeth ymholiadau ar-lein nad ydynt yn rhai brys. Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych chi neu rywun arall yn teimlo’n sâl neu’n profi symptomau - cysylltwch â Galw Iechyd Cymru neu’ch Meddyg Teulu. Fe allwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth ymholiadau ar-lein ar gyfer cwestiynau am iechyd. Fe allwch chi fynd ar-lein, mewnbynnu’ch ymholiad, a bydd arbenigwr gwybodaeth iechyd medrus yn ceisio’ch ateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Fe allan nhw ateb ymholiadau ynglŷn â phethau megis:
- cyflyrau cyffredin
- gwasanaethau GIG lleol
- hawliau cleifion
- byw iachus.
Mae’r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar-lein yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Fe allwch chi hefyd gael cyngor cyfrinachol a gwybodaeth ynglŷn â phroblemau iechyd a gwasanaethau dros y ffôn oddi wrth Galw Iechyd Cymru. Mae’n cynnig mynediad 24 awr i gyngor iechyd am ddim oddi wrth nyrsys profiadol. Bwriad y llinell yw eich helpu chi i ofalu am eich hunan trwy’ch cynghori chi ynglŷn â’r cam nesaf, er enghraifft, pa un ai i aros gartref a pha hunan-driniaeth i’w gymryd, pa un ai i ymweld â Meddyg Teulu neu ysbyty.
Y manylion cyswllt ar gyfer Galw Iechyd Cymru yw:
Ffôn: 0845 46 47 (codir tâl ar y gyfradd leol am y galwadau)
ffon destun ar 0845 606 4647 neu ffoniwch trwyr RNID Typetalkar 1 8001 0845 46 47.
Gwefan: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Gwybodaeth llywodraeth leol a chenedlaethol
Mae Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am wasanaethau iechyd yng Nghymru. Fe gewch chi wybodaeth am wasanaethau a’r newyddion iechyd diweddaraf a chyhoeddiadau ar wefan yr Adran yn: http://new.wales.gov.uk.
Mae Byrddau Iechyd Lleol (LHB) bellach yn gyfrifol am bob gwasanaeth gofal iechyd yn eu hardal. Fe allwch chi ddarganfod sut mae cysylltu â’ch BILl ar wefan Iechyd yng Nghymru’r GIG yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.









