Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Gwasanaethau'r GIG yng Nghymru

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru

Pan fyddwch chi’n defnyddio gwasanaethau’r GIG yng Nghymru mae gennych hawliau fel claf.

Ar y tudalennau hyn, rydyn ni’n dweud wrthych am eich hawliau fel claf y GIG yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys eich hawliau pan fyddwch chi’n defnyddio gwasanaethau a ddarperir gan eich Meddyg Teulu neu’ch ysbyty, a’ch hawliau ar draws holl wasanaethau’r GIG. Rydyn ni hefyd yn dweud wrthych beth allwch chi ei wneud er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich hawliau fel claf y GIG.

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych am eich hawliau wrth ymweld â’ch meddyg lleol, neu Feddyg Teulu (GP) yng Nghymru. Mae’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i ddod o hyd a chofrestru gyda Meddyg Teulu, y driniaeth y gallwch ei derbyn oddi wrth y meddyg a sut mae newid eich meddyg.

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych am eich hawliau fel claf yn un o ysbytau’r GIG. Mae’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â chael triniaeth fel claf allanol, cael triniaeth fel claf mewnol, plant a thriniaeth ysbyty a gadael ysbyty.

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych am eich hawliau fel claf pa wasanaeth GIG bynnag yr ydych yn ei ddefnyddio. Mae’n cynnwys gwybodaeth am eich hawliau i beidio profi gwahaniaethu yn eich erbyn yn y GIG, eich hawliau i wybodaeth a’ch hawliau i ganiatáu neu wrthod triniaeth.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawliau cleifion y GIG yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Hawliau cleifion y GIG.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawliau cleifion y GIG yn yr Alban, gweler Hawliau cleifion y GIG.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno am wasanaeth y GIG yng Nghymru, gweler Cwynion y GIG yng Nghymru.