Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rydw i’n credu bod fy mhartner yn mynd yn fyddar - pa gymorth gallwn ni ei gael?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon

Mae yna wiriad clyw y gall eich partner ei gymryd - ffoniwch 0844 800 3838. Neu ceisiwch ei berswadio i fynd at ei feddyg. Mwy na thebyg y bydd y meddyg yn ei gyfeirio at arbenigwr mewn ysbyty lleol. Fe brofan nhw ei glyw a phenderfynu os oes angen teclyn clyw arno.

Darperir teclynnau clyw’r GIG am ddim ar fenthyg am ba mor hir y bydd eu hangen. Mae batris teclynnau clyw, trwsiadau ac amnewidiadau am ddim.

Os penderfynwch chi brynu teclyn clyw, gwnewch yn siŵr fod y person sy’n ei werthu i chi wedi’i gofrestru gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd. Fe allwch ddarganfod os ydyn nhw yn gofrestredig trwy ffonio 0845 300 4472. Neu fe allwch chi wirio ar wefan Cyngor Proffesiynau Iechyd yn: (New window) www.hpc-uk.org. Fe allan nhw gymryd camau yn erbyn rhywun sy’n gwerthu teclynnau clyw sy’n methu cwrdd â’u safonau. Fe allwch chi hefyd gysylltu â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd os oes gennych gwyn am rywun sy’n gwerthu teclyn clyw i chi.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â theclynnau clyw, a beth yw’r ffordd orau o gefnogi eich partner, ewch i wefan yn: Action on Hearing Loss yn: (New window) www.actiononhearingloss.org.uk. Neu ewch at eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Fe fyddan nhw’n gallu rhoi llawer o wybodaeth i chi ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael i bobol fyddar a’r rhai â nam ar eu clyw.

Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn ag iechyd: