Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Sut alla i ddod o hyd i ddeintydd y GIG?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon

Mae llawer iawn o bobol yn cael trafferth i ddod o hyd i ddeintydd sy’n cynnig triniaeth dan y GIG.

Os ydych chi am driniaeth ddeintyddol y GIG, mae’n rhaid i chi yn gyntaf ddarganfod pa ddeintyddion yn eich ardal sy’n darparu triniaeth dan y GIG, ac yna dod o hyd i un sy’n fodlon eich derbyn am gwrs o driniaeth fel claf y GIG.

Mae rhai deintyddion sy ddim yn cynnig triniaeth y GIG, neu sy’n cynnig triniaeth i grwpiau arbennig o bobol yn unig, er enghraifft plant, neu bobol sy’n cael budd-daliadau neu gredydau treth.

Nid oes rhaid i bob deintydd sy’n cynnig triniaeth y GIG eich derbyn fel claf y GIG. Os nad ydynt yn gallu eich derbyn fel claf, fe ddylen nhw ddweud wrthych y gallwch chi fynd at ddeintydd arall.

Nid oes yn rhaid i chi gofrestru gyda deintydd er mwyn cael triniaeth y GIG, ond gall eich deintydd gadw rhestr o gleifion rheolaidd a darparu triniaeth a gofal parhaus.

O dan rai amgylchiadau, gall eich deintydd derfynu cwrs o driniaeth. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, os nad ydych yn cydweithio gyda thriniaeth neu os ydych chi’n methu sawl apwyntiad. Lle mae trais, neu fygythiad o drais yn digwydd, gall eich deintydd derfynu triniaeth ar unwaith, heb unrhyw rybudd ymlaen llaw.

Er mwyn dod o hyd i restr o ddeintyddion sy’n cynnig gwaith o dan y GIG yn eich ardal:

yn Lloegr, ffoniwch NHS Direct ar: 0845 4647, neu ewch i’w gwefan yn: (New window) www.nhsdirect.nhs.uk

yng Nghymru, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar: 0845 4647, neu ewch i’w gwefan yn: (New window) www.wales.nhs.uk

yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch y Central Services Agency Dental Branch ar: 028 90 324431 neu ewch i (New window) www.centralservices.agency.n-i.nhs.uk

Yn Lloegr a Chymru, er mwyn gwybod mwy am driniaeth ddeintyddol y GIG, gweler Triniaeth Ddeintyddol y GIG yn y taflenni ffeithiau ar Iechyd.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn ag iechyd: