Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch trin yn annheg neu wedi derbyn diagnosis ar gam, fe allwch chi gwyno am eich meddyg. Os nad ydych chi’n ddigon iach i wneud hyn, fe allwch chi enwebu rhywun arall i’w wneud ar eich rhan. Os penderfynwch chi gwyno, mae’n well gwneud hynny cyn gynted ag sy’n bosibl gan fod yna derfynau amser y mae’n rhaid i chi weithredu o’u mewn.
Y cam cyntaf yw mynd at eich meddyg a gofyn am gopi o’u gweithdrefn gwyno - fe ddylen nhw i gyd gael un. Dilynwch y canllawiau ynglŷn â chwyno a’i dychwelyd i’r person priodol ac aros am ateb.
Os nad ydych yn fodlon gyda’r ymateb i’ch cwyn wreiddiol, gellir cyflwyno’r gwyn i’ch awdurdod neu ymddiriedolaeth iechyd. Gall eich cyngor iechyd cymuned eich helpu gyda hyn - fe allan nhw eich cynghori a’ch helpu gyda ffurflenni. Fe allan nhw hefyd ddarparu pecyn hunangymorth sy’n cynnwys y ffurflenni a’r wybodaeth berthnasol.
Os ydych chi’n teimlo nad yw eich cwyn wedi’i thrafod yn foddhaol fe allwch ei chyfeirio at yr ombwdsmon gwasanaeth iechyd. Mae yna ombwdsmon gwahanol i Loegr a Chymru.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno am feddyg neu hawlio iawndal yn Lloegr, gweler Cwynion NHS a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Yng Nghymru, gweler Cwynion GIG yng Nghymru. Yng Ngogledd Iwerddon, gweler Cwynion HPSS yng Ngogledd Iwerddon.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ombwdsmon gwasanaeth iechyd, gweler Sut mae defnyddio ombwdsmon yn Lloegr, Sut mae defnyddio ombwdsmon yng Nghymru, neu Sut mae defnyddio ombwdsmon yng Ngogledd Iwerddon.
Fe allwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am eich hawliau fel claf GIG yn Adviceguide.