Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae triniaeth am ddim ar gael, ond nid yn awtomatig i bob person sy’n dod i’r DU o dramor. Mae triniaethau brys, seiciatrig gorfodol, a chlefydau llŷn neu heintus am ddim. Mae diagnosis HIV am ddim ond efallai nad yw’r driniaeth am ddim.
Fel gyda thrigolion y DU, rhaid talu am rai o driniaethau’r GIG (megis deintyddion ac optegwyr), er bod cymorth ar gael os na allwch chi fforddio talu. Mae pobol sy’n byw neu’n gweithio yn y DU yn gymwys i gael triniaeth am ddim, ond felly hefyd pobol sy’n mynd yn sâl tra yn y DU am arhosiad byr. Mae gan rai gwledydd drefniant lle gall trigolion y DU gael triniaeth feddygol am ddim, a gall trigolion o’r wlad honno gael yr un peth yn y DU - gelwir hyn yn gytundeb dwyffordd.
Os na allwch chi dalu am driniaeth y GIG, bydd triniaeth frys dan y GIG yn dal i ddigwydd, ond bydd yn rhaid i chi ddychwelyd adref am driniaeth barhaus. Os nad yw’r angen yn un brys, gellir cynnig triniaeth y GIG, ond nid am ddim.
Oni bai eich bod wedi dod i’r DU yn benodol am resymau meddygol, mae’r hawl i gael triniaeth am ddim yn ymestyn i wasanaethau meddyg, nyrsys cymuned, bydwragedd ac ambiwlans, er efallai bydd y meddyg am brawf o ba mor hir y bwriadwch aros yn y DU.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thaliadau’r GIG i bobol o dramor, gweler Taliadau’r GIG i bobol o dramor.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau’r GIG yn gyffredinol, gweler Pa ofal iechyd alla i ei gael o dan y GIG?