Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Alla i wrthod triniaeth feddygol?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon

Mae gennych yr hawl i wrthod triniaeth feddygol oni bai fod gennych glefyd hysbysadwy neu eich bod o dan orchymyn am resymau seiciatrig (y cyfeirir ato fel arfer fel bod o dan orchymyn). Fel mater o ffaith, mae angen caniatâd claf ar gyfer y mwyafrif o achosion meddygol, ond yn syml gellir ystyried mynd i weld meddyg fel caniatâd goblygedig am archwiliad neu driniaeth. Os ydych chi’n pryderu am ryw fath penodol o driniaeth, mae’r meddyg yn rhwymedig i ddisgrifio dulliau eraill o driniaeth sydd ar gael. Gellir ystyried gorfodi claf i dderbyn triniaeth sydd wedi gwrthod yn ymosodiad.

Mae gwrthod triniaeth feddygol i blentyn yn wahanol. Petai riant yn gwrthod triniaeth i blentyn, mae’r meddyg yn rhwym o drin y plentyn os ystyrir hynny’n angenrheidiol.

Mae gennych yr hawl i wrthod neu stopio triniaeth ar unrhyw adeg, hyd yn oed os yw hyn yn golygu y gallech chi farw. Mae’n anghyfreithlon i feddyg achosi marwolaeth yn weithredol, er enghraifft cynyddu’r dôs o gyffuriau allai ddod â marwolaeth ynghynt. Os ydych chi’n pryderu y byddwch chi ddim yn gallu gwneud eich dymuniadau’n hysbys ar adeg diweddarach yn eich tostrwydd, gall fod yn ddoeth i ddweud wrth y meddyg ar ba gam yr ydych am stopio’r driniaeth. Gelwir hyn yn benderfyniad ymlaen llaw.

Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â gwrthod triniaeth a’r hawl i farw yn Adviceguide.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwneud ewyllys gweler Ewyllysiau.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud ar ôl marwolaeth, gweler Beth i’w wneud ar ôl marwolaeth.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn ag iechyd: