Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Alla i newid fy meddyg?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon

Gall unrhyw un newid ei feddyg heb roi rheswm. Os ydych chi wedi symud allan o ardal arferol y meddyg, mae angen i chi newid os ydyw’r meddyg yn dweud na all barhau i’ch trin neu gynnig ymweliadau â’ch cartref.

Os ydych chi’n penderfynu newid eich meddyg, fe ddylech chi gysylltu â’r feddygfa yr ydych am newid iddi, a gofyn am gael cofrestru fel claf ganddyn nhw. Os ydyn nhw’n cytuno i’ch derbyn, fe fyddan nhw’n gofyn i chi lenwi ffurflen cofrestru neu ofyn i chi am fanylion eich cerdyn meddygol. Mae rhai meddygfeydd hefyd am weld prawf o bwy ydych chi, megis pasbort, a phrawf o’ch cyfeiriad, megis bil gwasanaeth.

Bydd y feddygfa wedyn yn anfon eich manylion at yr awdurdod iechyd, fydd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau eich bod wedi’ch cofrestru gyda’r feddygfa newydd. Anfonir eich cofnodion meddygol at y feddygfa newydd.

Mae rhai awdurdodau iechyd hefyd yn rhoi cardiau meddygol y GIG. Os ydyn nhw’n gwneud hyn, fe fyddan nhw’n anfon cerdyn newydd wrth ysgrifennu atoch. Ond nid yw pob awdurdod iechyd yn rhoi cardiau, ac nid oes angen cerdyn arnoch i gofrestru gyda meddyg nac i gael triniaeth y GIG.

Os ydych chi am newid meddygon oherwydd eich bod wedi’ch symud oddi ar restr meddyg, mae’r weithdrefn yn debyg iawn i newid trwy ddewis. Os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i feddyg fydd yn fodlon eich derbyn, cysylltwch â’ch awdurdod iechyd fydd yn gallu dynodi meddyg yn eich ardal.

Fe allwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am eich hawliau fel claf GIG yn Adviceguide.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn ag iechyd: