Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
Gall meddyg eich symud oddi ar gofrestr cleifion mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft, oherwydd eich bod yn symud allan o ardal y practis neu os ydych chi’n ymosod yn eiriol neu’n gorfforol ar bobol yn y practis. Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i’r meddyg roi rhybudd i chi, a darparu rhesymau dros eich diddymu oddi ar y gofrestr. Bydd y meddyg yn rhoi gwybod i’r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol (PCT) neu’r Bwrdd Iechyd Lleol, fydd wedyn yn rhoi gwybod i chi. Bydd y diddymu o’r gofrestr yn digwydd o’r wythfed diwrnod ar ôl i’r PCT dderbyn rhybudd y meddyg, neu o’r dyddiad y byddwch chi’n cael eich cynnwys ar gofrestr arall os bydd hyn ynghynt. Mae gennych hawl i gael triniaeth frys, neu barhad o driniaeth sy’n digwydd mwy nag unwaith yr wythnos, hyd nes y derbynnir chi gan feddyg arall.
Os ydych chi wedi bod yn dreisgar, neu wedi bygwth bod yn dreisgar tuag at eich meddyg neu staff y feddygfa, ac fe roddwyd gwybod i’r heddlu am hyn, fe ellir eich diddymu oddi ar restr y meddyg yn ddi-oed. Fe’ch derbynnir ar gyfer triniaeth frys yn unig gan y meddyg sy wedi’ch diddymu os ydyw’r meddyg yn fodlon ei fod yn angenrheidiol yn glinigol.
Os ydych chi wedi’ch diddymu oddi ar restr meddyg efallai y byddwch am gwyno os ydych yn teimlo eich bod wedi’ch trin yn annheg, er enghraifft, os ydych chi’n teimlo fod elfen o wahaniaethu ynghlwm wrth y peth. Efallai y gallwch gael help i wneud hyn oddi wrth Swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwynion yn Lloegr gweler Cwynion NHS a gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol. Yng Nghymru, gweler Cwynion GIG yng Nghymru. Yng Ngogledd Iwerddon, gweler Cwynion HPSS yng Ngogledd Iwerddon.