The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Teidiau a Neiniau – cyngor a chymorth
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr
Os ydych chi’n daid neu’n dad-cu, neu’n nain neu’n fam-gu, mae cymdeithas o’r enw Grandparents' Association yn medru rhoi cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i chi. Maen nhw’n gweithio’n arbennig gyda theidiau a neiniau sydd:
- wedi colli cysylltiad gyda’u hwyrion oherwydd ysgariad, cweryla teuluol neu broblemau eraill, neu’n mynd i golli cysylltiad oherwydd hyn
- yn gofalu am eu hwyrion yn llawn amser
- â chyfrifoldebau gofal plant dros eu hwyrion
- â diddordeb yn anghenion addysgol a lles eu hwyrion.
Mae gan y Gymdeithas amrywiaeth o wasanaethau. Mae’r rhain yn cynnwys llinell gymorth gyffredinol, cyngor ar fudd-daliadau lles, grwpiau cymorth a thaflenni ffeithiau, gan gynnwys materion fel cysylltiad a gorchmynion preswylio.
Fe allwch gael mwy o wybodaeth am y Gymdeithas, a chopïau o’u taflenni ffeithiau a gwybodaeth, trwy gysylltu â nhw:
Llinell Gymorth: 0845 434 9585
Cyngor ar fudd-daliadau lles: 0844 357 1033
Gwefan: www.grandparents-association.org.uk.
Mae yna gymuned ar-lein arbennig i neiniau a theidiau hefyd, ac mae’n cynnwys erthyglau, blogiau a sgwrsio byw ar-lein. Mae’n edrych ar faterion sy’n amrywio o weithgareddau yn ymwneud â’ch wyrion, i ddyled a gwarcheidwaeth arbennig. Fe allwch bori’r wybodaeth ar-lein yn: begrand.net.









