Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Cynhaliaeth plant

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae cynhaliaeth plant yn gymorth ariannol rheolaidd i helpu gyda chostau byw bob dydd plentyn i rieni sy’n byw ar wahân. Enw arall arno yw cynnal plant. Mae’r rhiant sydd ddim â gofal bob dydd dros y plentyn yn talu cynhaliaeth plant i’r rhiant arall.

Os nad ydych yn byw gyda rhiant arall eich plentyn, mae yna fudiadau gwahanol sy’n medru eich helpu i sefydlu cynhaliaeth plant.

Child Maintenance Options

Mae Child Maintenance Options yn wasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth sy’n rhoi help i rieni sy’n byw ar wahân. Maen nhw’n medru rhoi gwybodaeth i chi i’ch helpu i ddod i benderfyniadau ynghylch cynhaliaeth plant. Maen nhw hefyd yn medru rhoi help a gwybodaeth i chi ar faterion eraill y gallech eu wynebu pan yn magu plant ar wahân.

Mae Child Maintenance Options yn medru eich helpu i:

  • ddeall yr opsiynau ar gyfer dod i drefniant cynhaliaeth plant, os nad oes un gennych yn barod
  • sicrhau mai’r trefniant sydd gennych nawr sy’n iawn i chi a’ch plentyn
  • amcangyfrif faint o gynhaliaeth plant ddylech chi ei thalu a’i derbyn
  • dod i gyswllt â mudiadau defnyddiol eraill sy’n cynnig cyngor arbenigol.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch Child Maintenance Options ar gael ar-lein yn: www.cmoptions.org, neu fe allwch eu ffonio nhw ar 0800 988 0988. Maen nhw ar agor o 8yb tan 8yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, ac o 9yb tan 4yp ar Ddydd Sadwrn.

Yng Ngogledd Iwerddon mae gwybodaeth ar Child Maintenance Options ar gael ar-lein yn www.nidirect.gov.uk neu ffoniwch nhw ar 0800 028 7439.

Yr Asiantaeth Cynnal Plant

Mae’r Asiantaeth Cynnal Plant yn un o’r opsiynau i sefydlu trefniant cynhaliaeth plant, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Mae’r Asiantaeth Cynnal Plant yn defnyddio proses safonol i gyfrifo faint o gynhaliaeth plant ddylid ei thalu a phryd ddylid gwneud y taliadau. Efallai hefyd y gofynnir i’r Asiantaeth Cynnal Plant gasglu taliadau cynhaliaeth plant neu orfodi unrhyw taliadau a gollwyd. Gellir defnyddio’r pwerau cyfreithiol hyn os nad yw’r swm iawn o arian wedi cael ei dalu ar yr adeg iawn.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch yr Asiantaeth Cynnal Plant ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk. Neu fe allwch chi eu ffonio nhw ar 0845 713 3133 neu Ffôn Testun 0845 713 8924. Maen nhw ar agor o 8yb tan 8yh o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac o 9yb tan 5yp ar ddydd Sadwrn.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae yna wybodaeth ynghylch cynhaliaeth plant ar wefan Llywodraeth Gogledd Iwerddon, yn: www.nidirect.gov.uk. Rydych hefyd yn medru ffonio adran o'r enw Child Maintenance and Enforcement Division ar: 08456 080022.

Am fwy o wybodaeth ynghylch trefniadau ariannol ar ddiwedd perthynas, gweler Dod â pherthynas i ben pan rydych chi’n cydfyw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch trefniadau ariannol ar ddiwedd priodas, gweler Dod â phriodas i ben.

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch trefniadau ariannol ar ddiwedd partneriaeth sifil, gweler Dod â phartneriaeth sifil i ben.

Rate this page Give feedback