Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os ydych yn berson trawsrywiol, rydych yn medru gwneud cais am dystysgrif, o'r enw tystysgrif cydnabod rhyw (gender recognition certificate). Fe fydd yn eich galluogi i gael eich cydnabod yn gyfreithiol yn eich rhyw newydd.
Er mwyn bod yn gymwys am dystysgrif cydnabod rhyw, mae'n rhaid i chi gwrdd ag amodau penodol. Mae angen i chi gwblhau ffurflen gais, rhoi tystiolaeth feddygol a thystiolaeth eich bod wedi byw yn eich rhyw newydd am o leiaf dwy flynedd. Mae yna ffi hefyd, er y gellir ei ddiystyru neu ei ostwng mewn rhai amgylchiadau.
Unwaith yr ydych wedi cael tystysgrif cydnabod rhyw, fe allwch gael tystysgrif geni newydd sy'n adlewyrchu eich rhyw newydd. Ni fydd rhywun sy'n edrych arno yn gallu dweud eich bod wedi cael rhyw newydd yn gyfreithiol.
Rydych yn cael priodi rhywun o'r rhyw arall yn eich rhyw newydd neu ffurfio partneriaeth sifil gyda rhywun o’r un rhyw. Os ydych eisoes yn briod pan fyddwch yn gwneud cais am dystysgrif cydnabod rhyw, fe fydd yn rhaid i chi ddiweddu eich priodas, oherwydd mae'n erbyn y gyfraith i fod yn briod â rhywun o'r un rhyw. Os ydych eisiau cadw perthynas gyfreithiol gyda'ch partner, rydych yn medru cofrestru fel partneriaeth sifil yn lle, sy'n rhoi'r un hawliau i bâr o'r un rhyw â pharau priod.
Mae yna lawer o oblygiadau i gael tystysgrif cydnabod rhyw ac mae yna lawer o bethau y dylech eu hystyried cyn cymryd y cam hwn.
Mae mwy o wybodaeth am gydnabod rhyw ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn www.justice.gov.uk.
Mae ffurflen gais am dystysgrif cydnabod rhyw ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk.