Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Pa oed sy'n rhaid i mi fod cyn i mi fedru yfed alcohol ac ysmygu yn gyfreithlon?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae'r gyfraith ynglŷn â pha oed sydd angen i chi fod cyn i chi fedru yfed alcohol, yn gymhleth. Cyn 18 mlwydd oed, nid oes hawl gennych i brynu alcohol mewn tafarn na siop nac i yfed alcohol mewn tafarn neu du allan mewn mannau cyhoeddus. Mae hefyd yn anghyfreithlon i unrhyw un arall brynu alcohol i chi os ydych yn iau na 18 a bod y ddiod yn cael ei hyfed mewn tafarn neu fan cyhoeddus.

Ond, os ydych yn 16 neu'n 17, mae hawl gennych i yfed gwin, cwrw neu seidr (ond nid unrhyw alcohol arall) gyda phryd o fwyd mewn bwyty, gwesty neu ran o dafarn a glustnodwyd ar gyfer bwyta prydau bwyd. Rydych ond yn medru gwneud hyn os oes rhywun sy’n 18 neu’n hŷn gyda chi yn cael y pryd bwyd ac yn prynu’r alcohol i chi.

Gall unrhyw blentyn sy'n bump neu'n hŷn yfed alcohol yn y cartref neu ar safle preifat ond gall plant sy'n iau na phump ond yfed alcohol ar gyngor meddyg at ddibenion iechyd.

Mae'n anghyfreithlon gwerthu sigaréts, tybaco neu bapurau sigaréts i unrhyw un sy'n iau na 18.

Mae ysmygu wedi'i wahardd mewn unrhyw le cyhoeddus a gweithle, waeth faint yw eich oed.

Am fwy o wybodaeth ynglyn alcohol a phobl ifanc, gweler Pobl Ifainc - Iechyd a phersonol.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion teuluol: