Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mae fy mhartner wedi bod yn dreisgar tuag ataf i a fy mhlant, ac mae angen i ni ddianc rhagddo. Beth fedrwn ni wneud?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Os ydych chi a'ch partner yn byw gyda'ch gilydd ond rydych yn sicr nawr eich bod am wahanu, byddai'n well i chi a'r plant adael y cartref, am ychydig o leiaf.

Gallech aros gyda ffrindiau neu berthnasau ond efallai na fydd hyn yn ateb hir dymor boddhaol. Os ydych yn ofn y gallai eich partner ddod o hyd i chi, gallech gysylltu â Chymorth i Fenywod sy'n medru cynnig cefnogaeth a chyngor ac, o bosib, dod o hyd i rywle i chi i fyw mewn lloches ddiogel. Mae llinell gymorth genedlaethol 24 awr yn rhoi mynediad at gyngor a chefnogaeth i unrhyw un sy'n dioddef trais yn y cartref. Rhif ffôn y linell gymorth rhad ac am ddim yw 0808 200 0247. Mae'r linell gymorth hon yn cael ei darparu ar y cyd gan Gymorth i Fenywod a Refuge.

Efallai y bydd yn bosib mynd at eich awdurdod lleol am help gydag ail-gartrefu. Os nad ydyw'n bosib i'ch awdurdod lleol eich ail-gartrefu, gallech ystyried dod o hyd i le i'w rhentu'n breifat.

Os ydych ar incwm isel efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am fenthyciad argyfwng, ac, os ydych yn rhentu, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn budd-dâl tai.

Yn y tymor hirach, efallai bod ffyrdd y gallech fynd yn ôl i'ch cartref a chael eich partner i aros i ffwrdd drwy geisio cyngor cyfreithiol. Fwy na thebyg bydd angen help cyfreithiwr arnoch ond efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â chael help gyda thrais yn y cartref tuag at ddynion, merched a phlant, gweler Trais yn y cartref.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion teuluol: