Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Sut ydw i'n cael ysgariad?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Er mwyn cael ysgariad yng Nghrymu a Lloegr, mae angen i chi fod wedi bod yn briod am flwyddyn ac mae'n rhaid bod cyfraith y Deyrnas Unedig yn cydnabod bod y briodas yn ddilys. Mae'n rhaid eich bod chi neu'ch partner yn byw yng Nghymru neu Loegr pan fyddwch yn gwneud cais am ysgariad neu mae'n rhaid bod un ohonoch wedi bod yn byw yng Nghymru neu Loegr yn ystod y flwyddyn cyn gwneud y cais.

Os nad yw eich partner yn gwrthwynebu ysgariad, gallwch wneud cais am ysgariad diamddiffyn. Os nad oes unrhyw blant na materion eiddo cymhleth efallai y gallwch gwblhau'r trefniadau ysgariad heb gymorth cyfreithiwr.

Os nad yw eich partner yn cytuno â'r ysgariad, gelwir hyn yn ysgariad sydd wedi'i amddiffyn a byddwch angen help cyfreithiwr.

Rhoddir ysgariad gan y llys sirol os ydych yn medru dangos nad yw'r briodas yn bodoli mwyach. Yn gyfreithiol, dywedir bod priodas yn chwalu'n anadferadwy. Bydd y llys yn ystyried y dystiolaeth er mwyn profi bod eich priodas wedi chwalu ac nad oes modd ei adfer. Bydd y llys yn derbyn unrhyw rai o'r canlynol fel prawf; godineb, ymddygiad afresymol, enciliad, gwahanu ers dwy flynedd gyda chaniatâd neu wahanu ers pum mlynedd.

Efallai y cewch gymorth cyfreithiol i dalu am gostau achos yr ysgariad ac i ddelio gyda materion yn ymwneud ag arian a phlant os yw’ch sefyllfa ariannol o fewn y terfynau a osodir gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. I weld os ydych yn gymwys, defnyddiwch y Cyfrifydd Cymorth Cyfreithiol ar wefan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn (New window) www.justice.gov.uk.

Mae yna dri cham ar gyfer ariannu cymorth cyfreithiol, gan ddibynnu ar y gwaith sydd ei angen arnoch. Gelwir y cam cyntaf yn Help Cyfreithiol. Mae’n cynnwys eich cyfweliad cyntaf gyda’r cyfreithiwr. Os yw’ch cyfreithiwr yn credu eich bod angen arian cyhoeddus pellach, ac rydych yn gymwys, fe fydd yn gofyn i chi lenwi’r ffurflenni cais.

Ond, hyd yn oed os fyddwch chi’n cael cymorth cyfreithiol, nid yw’n rhad ac am ddim bob tro. Os ydych yn cael arian neu dŷ o ganlyniad i’ch ysgariad, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl. Gelwir y ffordd y maen nhw’n cael eu rhan nhw o’r arian yn dâl statudol. Nid yw’r tâl hwn yn berthnasol i gostau cyfryngu. Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â thalu am eich cymorth cyfreithiol ar wefan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn (New window) www.legalservices.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â help gyda chostau cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth ynglyn ag ysgariad, gweler Dod â phriodas i ben.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion teuluol: