Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mae fy nghariad a minnau wedi bod gyda’n gilydd ers wyth mlynedd. Mae ganddi ddau o blant. Rydyn ni wedi bod yn siarad am ddod yn bartneriaid sifil. Beth fyddai fy sefyllfa gyfreithiol i o ran y plant?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Os ydych yn dod yn rhan o bartneriaeth sifil, byddwch yn dod yn llys-riant i blentyn eich partner. Ni fydd hyn yn rhoi cyfrifoldeb rhiant awtomatig i chi dros y plentyn, ond fe fyddwch yn medru ei gael trwy lofnodi cytundeb cyfrifoldeb rhiant ffurfiol gyda’ch partner, os yw’n cytuno. Mae hyn yn golygu y byddech yn rhannu’r cyfrifoldeb tros iechyd, addysg a lles eich plant gyda’ch partner. Os oes cyfrifoldeb rhiant gan dad y plant hefyd, fe fydd yn rhaid iddo ef gytuno eich bod yn cael cyfrifoldeb rhiant hefyd. Mewn rhai achosion, er enghraifft, os nad ydych yn medru cytuno, fe allech gyflwyno cais i’r llys am gyfrifoldeb rhiant yn lle. Yna, fe fyddai’r llys yn penderfynu a fyddai rhoi cyfrifoldeb rhiant i chi yn llesol i’r plant.

Os ydych yn cael cyfrifoldeb rhiant, boed trwy gytundeb neu orchymyn llys, mae’n golygu y bydd yn ddyletswydd arnoch i ddarparu ar gyfer y plant yn ariannol. Fe fyddai hefyd yn rhoi’r hawl i chi i gadw cysylltiad uniongyrchol a rheolaidd gyda’r plant os digwydd i chi a’ch partner wahanu.

Rydych hefyd yn medru cael cyfrifoldeb rhiant trwy fabwysiadau plentyn eich partner. Rhaid bod y plentyn wedi bod yn byw gyda chi a’ch partner ers o leiaf chwe mis.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfrifoldeb dros blant a phartneriaethau sifil, yng Nghymru a Lloegr, gweler Partneriaethau Sifil a chydfyw – gwahaniaethau cyfreithiol.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion teuluol: