Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Gall unrhyw un sy'n hyn nag 16 newid ei enw ar unrhyw adeg. Gallwch newid naill ai eich enw cyntaf, eich cyfenw neu'r ddau. Gallwch ychwanegu enwau newydd neu gael gwared ar enw nad ydych eisiau. Gallwch ddefnyddio eich enw newydd at bob diben gan gynnwys priodi neu wneud cais am basport. Fodd bynnag, ni fedrwch newid eich enw at ddiben twyll.
Nid oes yn rhaid i chi lenwi unrhyw ffurflenni na chael caniatâd i newid eich enw yn gyfreithiol. Rydych yn dechrau defnyddio eich enw newydd yn lle'r hen enw. Fodd bynnag, efallai y cewch bod rhai mudiadau am weld tystiolaeth ysgrifenedig o'ch newid enw. Gallai hyn fod yn llythyr gan feddyg, gweinidog neu gyfreithiwr neu ddatganiad yn y wasg. Efallai y byddai'n well gennych wneud datganiad statudol neu newid eich enw trwy weithred newid enw.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â phob agwedd ar newid eich enw neu enw plentyn, yng Nghymru a Lloegr, gweler Newid enw, ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Newid enw.