Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Doeddwn i a fy mhartner ddim wedi priodi. Nawr, rydyn ni wedi gwahanu ac mae ein plant yn aros gyda hi. Pa hawliau sydd gennyf i'w gweld nhw?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Yn gyffredinol, mae'r gyfraith yn annog tadau i gadw mewn cysylltiad gyda'u plant, p'un ai fod tad a mam y plant yn briod ai peidio.

Nawr eich bod wedi gwahanu oddi wrth eich partner, byddai'n ddoeth pe medrai'r ddau ohonoch ddod i gytundeb cyfeillgar ynglyn â gofal eich plant yn lle ceisio help cyfreithiol ar unwaith. Dylai'r cytundeb yma gynnwys gyda phwy dylai eich plentyn/plant fyw fel arfer a sut y byddant yn cadw mewn cysylltiad gyda'r rhiant arall.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol yn y tymor hir i ysgrifennu'r hyn a gytunwyd i lawr. Cofiwch nad ydyw'r math hwn o gytundeb yn rhwymo'n gyfreithiol ac nad ydyw'n rhoi cyfrifoldeb rhiant i chi dros eich plant.

Os ydych chi a'ch partner yn ei chael hi'n anodd cytuno rhyngddoch eich hun, gallwch ofyn am help gan Wasanaeth Cyfryngu Teuluol. Mae canolwyr yn bobl sydd wedi eu hyfforddi i wrando ar ddwy ochr y ddadl, a'ch helpu chi a'ch partner i gytuno ar yr hyn a fyddai orau ar eich cyfer chi a'r plant. I ddefnyddio'r gwasanaeth yma, mae'n rhaid eich bod chi'ch dau yn fodlon mynd yn wirfoddol. Ni fydd unrhyw benderfyniadau a wneir yno yn eich rhwymo'n gyfreithiol.

Os ydych chi am gael cyfrifoldeb rhiant dros eich plant ac nid oes cyfrifoldeb rhiant gennych yn barod, fe allwch arwyddo cytundeb gwirfoddol, a elwir yn gytundeb cyfrifoldeb rhiant, gyda mam eich plant.

Fe fydd gennych gyfrifoldeb rhiant yn barod os oeddech wedi cofrestru genedigaeth eich plentyn gyda'ch partner ar ôl 1 Rhagfyr 2003.

Nid oes rhaid i chi fynd i'r llys i arwyddo cytundeb cyfrifoldeb rhiant, er y bydd yn rhwymo'n gyfreithiol a dylech gael cyngor cyfreithiol cyn arwyddo cytundeb o'r fath. Er mwyn gwneud cytundeb cyfrifoldeb rhiant, mae'n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen arbennig, ei chofrestru ym Mhrif Gofrestrfa'r Adran Deulu a rhaid bod swyddog llys yn dyst.

Os nad ydych chi a mam eich plant yn medru dod i gytundeb, fe fyddwch yn medru cyflwyno cais i’r llys am orchymyn cysylltiad. Efallai y byddwch hefyd am geisio am orchymyn cyfrifoldeb rhiant. Ond, fe fydd y llys fel arfer yn disgwyl i chi fod wedi ceisio dod i gytundeb trwy gyfryngdod yn gyntaf.

Fe fydd gorchymyn cysylltiad yn nodi trefniadau i’ch plant ymweld â chi neu aros gyda chi. Fel tad y plant, mae gennych yr hawl i geisio am orchymyn o’r fath. Fel arfer, fe fyddwch yn cael y gorchymyn, onid oes amgylchiadau eithriadol.

Efallai y byddwch hefyd am geisio am orchymyn cyfrifoldeb rhiant, os nad oes cyfrifoldeb rhiant gennych yn barod. Mae cael gorchymyn cyfrifoldeb rhiant yn golygu eich bod yn rhannu’r cyfrifoldeb dros iechyd, addysg a lles eich plant gyda’ch partner. Gall fod yn ddoeth gwneud cais i'r llys am orchymyn cyswllt a gorchymyn cyfrifoldeb rhiant ar yr un pryd. Gall hefyd fod yn ddoeth cael cyngor cyfreithiol. Efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau tuag at blant ar ddiwedd perthynas, gweler Dod â pherthynas i ben pan rydych chi'n cydfyw.

m fwy o wybodaeth ar help gyda chostau cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol, ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion teuluol: