Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Trais yn y cartref

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon



Beth yw trais yn y cartref

Ystyr trais yn y cartref yw ble mae un person yn gwneud niwed i berson arall y mae ganddo/i ryw fath o berthynas ag ef/hi (neu mae wedi cael rhyw fath o berthynas ag ef/hi). Nid oes rhaid iddynt fod yn bartneriaid gwahanrywiol ac nid oes rhaid iddynt fyw yn yr un tŷ. Mae dynion a menywod yn gallu dioddef trais yn y cartref.

Mae trais yn y cartref yn medru digwydd pan fydd un person yn ymosod yn gorfforol ar berson arall, neu mae’n medru bod yn fath arall o gam-drîn, fel cam-drin emosiynol, rhywiol neu ariannol.

Mae trais yn y cartref yn medru cynnwys cam-drin yr henoed. Dyma ble mae rhywun yn gwneud niwed i berson hŷn, neu'n achosi diflastod i berson hŷn, mewn perthynas ble disgwylir ymddiriedaeth. Mae'n medru digwydd yn y cartref neu mewn lleoliad gofal neu ysbyty.

Os ydych chi angen help i wybod p’un ai eich bod yn cael eich cam-drin ai peidio, mae yna sawl mudiad sy’n medru rhoi cyngor cyfrinachol i chi.

Nôl i’r brig


Yr opsiynau sydd ar gael i bobl sy'n cael eu heffeithio gan drais

Os ydych chi'n dioddef perthynas dreisgar, mae'n bwysig eich bod yn cael cyngor ymarferol ar unwaith ar yr opsiynau sydd ar gael. Gallai fod modd:-

  • riportio’r trais i’r heddlu
  • gadael y cartref dros dro
  • gadael y cartref am byth
  • aros yn y cartref a chael y person sy’n eich niweidio i adael
  • cymryd camau cyfreithiol.

Nôl i’r brig


Dod o hyd i rywle diogel i aros

Os ydych yn ddioddefwr mewn perthynas dreisgar, mae'n bosib y byddwch angen rhywle diogel i aros, naill ai ar eich pen eich hun, neu gyda'ch plant. Dyma'r opsiynau:-

  • aros gartref os ydych yn credu bod hyn yn ddiogel
  • aros gyda pherthnasau neu ffrindiau
  • aros mewn lloches i fenywod. Dim ond opsiwn i fenywod yw hwn (gyda phlant neu heb blant)
  • cael llety brys gan yr awdurdod lleol o dan ddeddf pobl di-gartref – fel arfer bydd hyn yn golygu hostel gwely a brecwast
  • cael llety sydd wedi ei rentu'n breifat.

Lloches Cymorth i Ferched

Mae Llochesau Cymorth i Ferched yn llefydd diogel sydd yn cael eu rhedeg gan fenywod sydd wedi dioddef trais yn y cartref ac ar eu cyfer. Mae llochesau yn le diogel ar gyfer menywod a'u plant ac maen nhw'n rhoi amser a gofod i'r fenyw er mwyn iddi ystyried ei chamau nesaf.

Mae staff mewn llochesau yn arbenigo mewn delio gyda thrais yn y cartref, a yn medru rhoi digon o gefnogaeth emosiynol ac ymarferol, er enghraifft cyngor ar hawlio budd-daliadau, pa gyfreithwyr i'w defnyddio ac, os oes angen, sut i gysylltu â'r heddlu.

I ddod o hyd i'ch lloches agosaf sydd â lle ar gael, cysylltwch â'r Linell Gymorth Genedlaethol Trais yn y Cartref, (gweler y pennawd Cymorth pellach). Bydd staff y Linell Gymorth yn gwneud eu gorau glas i ddarganfod rhywle i chi i aros y noson honno, hyd yn oed os yw'r lloches yn llawn. Maen nhw hefyd yn barod i drafod unrhyw gwestiynau sydd gan fenywod ynglyn â llochesau.

Mynd at yr awdurdod lleol, neu'r gyfarwyddiaeth tai yng Ngogledd Iwerddon

Efallai ei bod yn ddyletswydd ar eich awdurdod lleol i ddarparu tŷ ar eich cyfer os ydych yn ddigartref. Fel arfer, ystyrir eich bod yn ddi-gartref yn gyfreithiol os nad ydyw'n rhesymol disgwyl i chi fyw yn eich cartref eich hun oherwydd perygl trais yn y cartref.

Dylai awdurdod lleol, neu'r gyfarwyddiaeth tai yng Ngogledd Iwerddon, ddelio â cheisiadau gan bobl sydd mewn perygl o drais mewn modd gydymdeimladol. Gallwch ofyn am gyfweliad preifat, gyda rhywun o'r un rhyw, a gallwch fynd â ffrind gyda chi i'ch cefnogi.

Mae'n bosib fod gan yr awdurdod lleol (y gyfarwyddiaeth tai yng Ngogledd Iwerddon) ddyletswydd i ddarparu llety dros dro ar eich cyfer tra ei fod yn penderfynu a ydych chi'n ddi-gartref yn gyfreithiol.

Efallai y bydd y rheolau'n wahanol os ddaethoch o dramor i ymuno â rhywun fel gwraig, gŵr, person sy'n cydfyw gyda chi neu bartner sifil, ac yna nid ydych yn medru aros yn y berthynas oherwydd trais. Mae yna wefan ddefnyddiol sy'n trafod hawliau menywod o dramor sy'n dianc rhag trais yn y cartref i gael tŷ. Mae'n berthnasol i Loegr. Rhowch glic ar (New window) www.housing-rights.info.

Am fwy o wybodaeth ynghylch digartrefedd a'r awdurdod lleol, gweler Dod o hyd i lety.

Mynd i lety sydd wedi'i rentu'n breifat

Os ydych yn dewis mynd i lety sydd wedi'i rentu'n breifat, mae'n anhebygol y bydd modd ei drefnu ar unwaith. Dim ond opsiwn i bobl sydd ag amser i gynllunio eu hymadawiad yw hwn mewn gwirionedd.

Nôl i’r brig


Datrysiadau tymor hirach

Unwaith fyddwch chi wedi dod o hyd i leoliad diogel i aros yn y tymor byr, bydd angen i chi feddwl am y tymor hir, gan ystyried:-

  • a ydych chi am wahanu oddi wrth eich gwr am byth. Dylech geisio cyngor cyfreithiol (gweler y pennawd Atebion cyfreithiol a threfniadau)
  • a ydych chi am gymryd camau i gadw'r partner treisgar i ffwrdd. Dylech geisio cyngor cyfreithiol (gweler y pennawd Atebion cyfreithiol a threfniadau)
  • tai. Mae eich hawl cyfreithiol i fyw yng nghartref y teulu yn dibynnu ar y math o dy yr ydych yn ei adael, statws cyfreithiol eich perthynas ac a oes gennych blant ai peidio. Dylech geisio cyngor cyfreithiol i sicrhau eich bod yn gwneud pob peth posib i warchod eich hawliau i gartref y teulu. Dylech geisio cyngor ynglyn â chartref y teulu hyd yn oed os ydych yn gadael am byth oherwydd, os bydd eich partner yn gwerthu'r cartref, gallech golli arian ac eiddo
  • plant. Os oes gennych blant, bydd angen i chi benderfynu a ydych yn mynd â nhw gyda chi. Efallai nad ydyw'n ddiogel eu gadael ar ôl. Mae'n bosib y bydd angen defnyddio'r llysoedd i benderfynu gyda phwy dylai'r plant fyw a gyda phwy ddylent gael cysylltiad. Dylech geisio cyngor cyfreithiol (gweler y pennawd Atebion cyfreithiol a threfniadau).
  • arian. Bydd angen i chi roi trefn ar eich hawliau i fudd-daliadau a'ch trefniadau treth, a ph'un ai yr ydych am wneud cais i'r llys am dâl cynhaliaeth ar eich cyfer chi'ch hun ai peidio. Efallai y byddwch hefyd am wneud cais i'r Asiantaeth Cynnal Plant am asesiad cynhaliaeth ar gyfer eich plant. Mae mudiad o’r enw Refuge wedi cynhyrchu canllawiau ariannol i fenywod sy’n dioddef trais yn y cartref yng Nghymru a Lloegr – gweler y pennawd Refuge.

Os oes angen gwybodaeth a chyngor pellach arnoch, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr, canolfan gyfreithiol neu Ganolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n gallu cynnig cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Atebion cyfreithiol a threfniadau

Mynd at gyfreithiwr

Os ydych am drafod gwarchodaeth gyfreithiol i chi'ch hun ac i'ch plant, cysylltwch a chyfreithiwr sy'n brofiadol mewn gwaith priodasol. Mae grwpiau Cymorth i Ferched lleol, yr heddlu, grwpiau argyfwng trais, neu ganolfannau i fenywod fel arfer yn gwybod am gyfreithwyr sydd yn brofiadol ac sydd yn cydymdeimlo.

Dylai asiantaeth gyngor leol, fel canolfan gyngor neu ganolfan Cyngor ar Bopeth, fod yn gallu eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr lleol sydd â phrofiad yn y maes yma o'r gyfraith. Yng Nghymru a Lloegr, rydych hefyd yn medru edrych ar wefan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn: (New window) www.justice.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, ewch at wefan Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol Gogledd Iwerddon yn: (New window) www.nilsc.org.uk.

Dylech wneud apwyntiad cyn gynted ag yr ydych yn teimlo'n barod, a gallech fynd â rhywun gyda chi i'ch cefnogi y tro cyntaf i chi fynd at y cyfreithiwr. Bydd y cyfweliad cyntaf fwy na thebyg yn para am gyfnod eithaf hir, ac yn ystod yr amser yma dylai'r cyfreithiwr drafod pa gamau cyfreithiol sy'n agored i chi.

Cymorth Cyfreithiol

Os fyddwch yn cymryd camau cyfreithiol i amddiffyn eich hun neu eich teulu rhag trais yn y cartref, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol heb fodloni’r amodau ariannol arferol.Ni fydd incwm partner treisiol yn cael ei ystyried wrth benderfynu a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ai peidio.

Nôl i’r brig


Y rheiny sy'n defnyddio trais

Mae yna nifer o gymdeithasau arbenigol sy'n medru helpu pobl treisgar sydd am wneud rhywbeth ynghylch y broblem. Mae rhai yn grwpiau hunan-help sy'n cael eu rhedeg gan bobl sydd wedi cael profiad o ymddygiad treisgar eu hunain. Efallai bod cynghorwyr sydd wedi cael eu hyfforddi yn rhedeg grwpiau eraill. Efallai y bydd yn bosib i chi gael help drwy'ch Meddyg Teulu hefyd.

Nôl i’r brig


Help pellach

Mudiadau i fenywod

Lloegr

Llinell Gymorth Genedlaethol Trais yn y Cartref

Llinell Gymorth: 0808 200 0247 (24 awr)
E-bost: helpline@womensaid.org.uk (fe fyddwch yn cael ymateb o fewn 3 diwrnod gwaith)
Gwefan: (New window) www.nationaldomesticviolencehelpline.org.uk

Mae Llinell Gymorth Genedlaethol Trais yn y Cartref yn llinell 24 awr rhad ac am ddim sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth i fenywod yn Lloegr ac yn medru eu cyfeirio at lety argyfwng.

Mae Llinell Gymorth Genedlaethol Trais yn y Cartref yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth rhwng Refuge a Chymorth i Fenywod.

Mae yna gyfleusterau cyfieithu ar gael os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf. Mae’r Llinell Gymorth hefyd yn cynnig gwasanaeth BT Type talk i bobl sy’n ffonio’r Llinell Gymorth sydd â nam ar eu clyw. Mae gweithiwr y Llinell Gymorth yn cysylltu â’r gweithiwr Type talk fel bod y person sy’n ffonio’n gallu cyfathrebu drwyddo.

Refuge

4th Floor
International House
1 St Katherine's Way
London, E1W 1UN
Rhif Ffôn: Llinell Gymorth: 0808 200 0247 (24 awr)
Rhif Ffôn: Gweinyddol: 020 7395 7700

E-bost: info@refuge.org.uk
Gwefan: (New window) www.refuge.org.uk

Mae'r llinell gymorth genedlaethol hon yn cynnig cyngor a chefnogaeth i fenywod sy'n dioddef trais yn y cartref. Mae Refuge yn darparu llety diogel, brys trwy rwydwaith o lochesau ar draws y DU. Mae hefyd yn darparu gwasanaethau sy'n benodol i ddiwylliant ar gyfer menywod o wahanol ddiwylliannau a chymunedau ethnig lleiafrifol. Ar ei gwefan, mae yna ddolenni cyswllt at fudiadau arbenigol, gan gynnwys mudiadau arbenigol ar gyfer ffoaduriaid. Mae’n cynnwys peth gwybodaeth i ddynion sy’n cael eu cam-drin neu sydd yn cam-drin.

Cymorth i Ferched

Women's Aid
PO Box 391
Bristol BS99 7WS

Llinell Gymorth: 0808 2000 247 (24 awr)
E-bost y llinell gymorth: helpline@womensaid.org.uk
Rhif Ffôn (gweinyddol): 0117 944 4411
Ffacs: 0117 924 1703
E-bost: info@womemsaid.org.uk
Gwefan: (New window) www.womensaid.org.uk

Mae’r wefan yn darparu amrywiaeth eang o adnoddau i helpu menywod a phobl ifanc. Mae’n cynnwys llyfryn o’r enw Survivor's Handbook sy’n rhoi amrywiaeth o wybodaeth, gan gynnwys cyngor cyfreithiol a chyngor ar dai, cyngor ar sut i lunio cynllun diogelwch a chyngor i bobl sydd ag anghenion tai arbenigol. Mae ar gael mewn 11 iaith ac fel fersiwn sain.

Maen nhw hefyd yn cynhyrchu gwefan (New window) www.thehideout.org.uk sy’n cynnig cefnogaeth i blant a phobl ifanc yn eu harddegau sydd efallai’n byw mewn cartref y mae trais yn y cartref yn effeithio arno, neu sydd efallai mewn perthynas dreisgar eu hunain.

Rights of Women (Cymru a Lloegr yn unig)

52 – 54 Featherstone Street
London
EC1Y 8RT

Llinell Gyngor Cyfraith y Teulu: 020 7251 6577 (Dydd Llun 11yb-1yp; Dydd Mawrth a Dydd Mercher 2yp-4yp a 7yh-9yh; Dydd Iau 7yh-9yh; Dydd Gwener 12 hanner dydd-2yp)

Llinell Gyngor Cyfraith Trosedd: 020 7251 8887 (Dydd Mawrth 11yb-1yp; Dydd Iau 2yp-4yp)

Llinell Gyngor Cyfraith Lloches a Mewnfudo: 020 7490 7689 (Dydd Llun 2yp-4yp; Dydd Mercher 11yb-1yp)

Gweinyddol: 020 7251 6575
Ffacs: 020 7490 5377
E-bost: info@row.org.uk
Gwefan: (New window) www.righstofwomen.org.uk

Mae Rights of Women yn fudiad gwirfoddol sy’n rhedeg llinellau cyngor cyfreithiol sy’n cynnig cyngor cyfreithiol cyfrinachol ar drais yn y cartref a thrais rhywiol. Mae Rights of Women yn cynhyrchu taflenni gwybodaeth rhad ac am ddim y gellir eu lawrlwytho oddi ar eu gwefan yn (New window) www.rightsofwomen.org.uk

Canolfan Genedlaethol Trais yn y Cartref

Rhif Ffôn: 0844 8044 999
Rhadffôn: 08009 70 20 70
Minicom: 18001 08009 70 20 70

Ffacs: 0207 160 9383
Neges Testun: NCDV i 60777, ac fe fyddan nhw’n eich ffonio chi nôl
Gwefan: (New window) www.ncdv.org.uk

Mae cynghorwyr Canolfan Genedlaethol Trais yn y Cartref ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn.

Mae Canolfan Genedlaethol Trais yn y Cartref yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim i’ch helpu chi i gael gorchymyn llys i'ch amddiffyn chi os ydych yn dioddef trais yn y cartref. Os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, fe fyddwch yn cael help cyfreithiwr cymwys neu'n cael eich cyfeirio at un sy'n agos at eich cartref. Os nad ydych yn medru cael cymorth cyfreithiol, fe fydd yn rhaid i chi dalu eich costau eich hun ond fe fyddwch yn medru cael help gyda'ch gwaith papur. Gan ddibynnu ble rydych chi'n byw, efallai y byddant yn medru eich cefnogi yn y llys.

Cymru

Refuge
4th Floor
International House
1 St Katherine's Way
London, E1W 1UN

Rhif Ffôn: Llinell Gymorth: 0808 200 0247 (24 awr)
Rhif Ffôn: Gweinyddol: 020 7395 7700
E-bost: info@refuge.org.uk
Gwefan: (New window) www.refuge.org.uk

Mae'r llinell gymorth genedlaethol hon yn cynnig cyngor a chefnogaeth i fenywod sy'n dioddef trais yn y cartref. Mae Refuge yn darparu llety diogel, brys trwy rwydwaith o lochesau ar draws y DU. Mae hefyd yn darparu gwasanaethau sy'n benodol i ddiwylliant ar gyfer menywod o wahanol ddiwylliannau a chymunedau ethnig lleiafrifol. Ar ei gwefan, mae yna ddolenni cyswllt at fudiadau arbenigol, gan gynnwys mudiadau arbenigol ar gyfer ffoaduriaid. Mae’n cynnwys peth gwybodaeth i ddynion sy’n cael eu cam-drin neu sydd yn cam-drin.

Cymorth i Ferched Cymru

Swyddfa Genedlaethol Caerdydd
38-48 Heol Crwys
Caerdydd
CF24 4NN
Llinell gymorth rhad ac am ddim ar gyfer trais yn y cartref: 0808 801 0800 (ar agor 24 awr)

Rhif Ffôn: 02920 390 874
Ffacs: 02920 390 878
E-bost: info@welshwomensaid.org.uk
Gwefan: (New window) www.welshwomensaid.org

Rights of Women

52 – 54 Featherstone Street
London
EC1Y 8RT
Llinell gyngor cyfreithiol: 020 7251 6577
Ffôn testun cyngor cyfreithiol: 0207 490 2562

Mae’r llinell gymorth cyfreithiol ar agor ar Ddydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Iau 2-4yp a 7-9yh, a Dydd Gwener 12 hanner dydd -2yp.
Llinell gyngor trais rhywiol: 0207 251 8887
Ffôn testun trais rhywiol: 0207 490 2562
Mae’r llinell trais rhywiol ar agor ar Ddydd Llun o 11yb-1yp a Dydd Mawrth 10yb-2yp.
Gweinyddol: 020 7251 6575/6
Ffacs: 020 7490 5377
E-bost: info@row.org.uk
Gwefan: (New window) www.righstofwomen.org.uk

Mae Rights of Women yn fudiad gwirfoddol sy’n rhedeg llinell gyngor cyfreithiol sy’n cynnig cyngor cyfreithiol cyfrinachol ar drais yn y cartref. Maen nhw hefyd yn rhedeg llinell gyngor cyfreithiol ar gyfer trais rhywiol. Mae Rights of Women yn cynhyrchu taflenni gwybodaeth rhad ac am ddim y gellir eu lawrlwytho oddi ar eu gwefan yn (New window) www.rightsofwomen.org.uk.

Canolfan Genedlaethol Trais yn y Cartref

Rhif Ffôn: 0844 8044 999
Rhadffôn: 08009 70 20 70
Minicom: 18001 08009 70 20 70
Ffacs: 0207 160 9383
Neges Testun: NCDV i 60777, ac fe fyddan nhw’n eich ffonio chi nôl
Gwefan: (New window) www.ncdv.org.uk

Mae cynghorwyr Canolfan Genedlaethol Trais yn y Cartref ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn.

Mae Canolfan Genedlaethol Trais yn y Cartref yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim i’ch helpu chi i gael gorchymyn llys i'ch amddiffyn chi os ydych yn dioddef trais yn y cartref. Os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, fe fyddwch yn cael help cyfreithiwr cymwys neu'n cael eich cyfeirio at un sy'n agos at eich cartref. Os nad ydych yn medru cael cymorth cyfreithiol, fe fydd yn rhaid i chi dalu eich costau eich hun ond fe fyddwch yn medru cael help gyda'ch gwaith papur. Gan ddibynnu ble rydych chi'n byw, efallai y byddant yn medru eich cefnogi yn y llys.

Gogledd Iwerddon

Refuge

4th Floor
International House
1 St Katherine's Way
London, E1W 1UN
Rhif Ffôn: Llinell Gymorth: 0808 200 0247 (24 awr)
Rhif Ffôn: Gweinyddol: 020 7395 7700
E-bost: info@refuge.org.uk
Gwefan: (New window) www.refuge.org.uk

Mae'r llinell gymorth genedlaethol hon yn cynnig cyngor a chefnogaeth i fenywod sy'n dioddef trais yn y cartref. Mae Refuge yn darparu llety diogel, brys trwy rwydwaith o lochesau ar draws y DU. Mae hefyd yn darparu gwasanaethau sy'n benodol i ddiwylliant ar gyfer menywod o wahanol ddiwylliannau a chymunedau ethnig lleiafrifol. Ar ei gwefan, mae yna ddolenni cyswllt at fudiadau arbenigol, gan gynnwys mudiadau arbenigol ar gyfer ffoaduriaid. Mae’n cynnwys peth gwybodaeth i ddynion sy’n cael eu cam-drin neu sydd yn cam-drin.

Ffederasiwn Cymorth i Fenywod (Gogledd Iwerddon)

129 University Street
Belfast
BT7 1HP
Llinell Gymorth Trais yn y Cartref 24 awr: 0800 917 1414
Rhif Ffôn (gweinyddol): 028 9024 9041
Gwefan: (New window) www.womensaidni.org
E-bost cyffredinol: info@womensaidni.org

(Nid yw Cymorth i Fenywod yn darparu gwasanaeth cymorth trwy e-bost.)

Canolfan Genedlaethol Trais yn y Cartref

Rhif Ffôn: 0844 8044 999
Rhadffôn: 08009 70 20 70
Minicom: 18001 08009 70 20 70
Ffacs: 0207 160 9383
Neges Testun: NCDV i 60777, ac fe fyddan nhw’n eich ffonio chi nôl
Gwefan: (New window) www.ncdv.org.uk

Mae cynghorwyr Canolfan Genedlaethol Trais yn y Cartref ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn.

Mae Canolfan Genedlaethol Trais yn y Cartref yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim i’ch helpu chi i gael gorchymyn llys i'ch amddiffyn chi os ydych yn dioddef trais yn y cartref. Os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, fe fyddwch yn cael help cyfreithiwr cymwys neu'n cael eich cyfeirio at un sy'n agos at eich cartref. Os nad ydych yn medru cael cymorth cyfreithiol, fe fydd yn rhaid i chi dalu eich costau eich hun ond fe fyddwch yn medru cael help gyda'ch gwaith papur. Gan ddibynnu ble rydych chi'n byw, efallai y byddant yn medru eich cefnogi yn y llys.

Mudiadau i ddynion

Llinell Gyngor i Ddynion

Llinell Gymorth: 0808 801 0327

Mae’r llinell gymorth ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener o 10yb tan 1yp ac o 2yp tan 5yp

E-bost: info@mensadviceline.org.uk
Gwefan: (New window) www.mensadviceline.org.uk.

Os ydych mewn perygl dybryd, ffoniwch 999 a siaradwch â’r heddlu.

Mae’r Llinell Gyngor i Ddynion yn llinell gymorth gyfrinachol i unrhyw ddyn sy’n dioddef trais yn y cartref gan bartner neu gynbartner. Mae hyn yn cynnwys pob dyn, mewn perthynas wahanrywiol neu berthynas o’r un rhyw. Mae’n rhoi cymorth emosiynol a chyngor ymarferol, ac yn medru rhoi manylion gwasanaethau arbenigol sy’n medru rhoi cyngor i chi ar faterion cyfreithiol, tai, cyswllt â phlant, iechyd meddwl a materion eraill.

ManKind Initiative

Flook House
Belvedere Road
Taunton
Somerset
TA1 1BT

Llinell Gymorth: 01823 334 244
Mae’r llinell gymorth ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener o 10yb tan 4yp ac o 7yh tan 9yh (ac eithrio ar Nos Wener)

E-bost: admin@mankind.org.uk
Gwefan: (New window) www.mankind.org.uk

Mae ManKind Initiative yn elusen sy’n rhoi cymorth a gwybodaeth i ddynion sy’n dioddef trais yn y cartref neu drais cyffredin. Mae hyn yn medru cynnwys gwybodaeth a help gydag adrodd am ddigwyddiadau, gweithdrefnau’r heddlu, tai, budd-daliadau a gwaharddebau. Mae’n medru eich cyfeirio chi at loches, awdurdod lleol neu wasanaeth cymorth arall ble mae hyn yn addas i chi.

Efallai y bydd angen i bobl sy’n ffonio o’r Alban geisio cyngor cyfreithiol yn yr Alban.

Survivors UK Ltd

Ground Floor
34 Gt James Street
London
WC1N 3HB

Llinell gymorth: 0845 122 1201
Mae’r llinell gymorth ar agor ar Ddydd Llun a Dydd Mawrth 7yh –10yh, ac ar Ddydd Iau 12yp-2.30yp)
Gweinyddol: 0207 404 6234

E-bost: info@survivorsuk.org
Gwefan: (New window) www.survivorsuk.org

Dyma linell gymorth genedlaethol i ddynion sydd wedi dioddef trais, ymosodiadau rhywiol neu drais rhywiol. Efallai y bydd y llinell gymorth yn gallu trefnu cwnsela neu grŵp cymorth os ydych yn byw yn ardal Llundain. Os ydych yn byw tu allan i Lundain, efallai y bydd Survivors UK yn medru rhoi manylion gwasanaeth addas tu allan i ardal Llundain.

Everyman Project

1A Waterlow Road
London
N19 5NJ
Llinell gymorth: 0207 263 8884

Mae’r llinell gymorth ar agor ar Ddydd Llun 10yb-2yp, Dydd Mawrth 10yb-3yp, Dydd Mercher 10yb-5yp a Dydd Iau 10yb-5yp.
E-bost: everymanproject@btopenworld.com
Gwefan: (New window) www.everymanproject.co.uk

Mae Everyman Project yn cynnig cwnsela i ddynion yn ardal Llundain sydd am newid eu hymddygiad treisiol neu ymosodol. Mae ganddo linell gymorth genedlaethol hefyd sy’n cynnig cyngor i unrhyw un sy’n poeni am eu hymddygiad treisiol neu ymosodol eu hunain neu ymddygiad treisiol neu ymosodol rhywun arall.

M-Power

14 Thorpe Road
Norwich NR1 1RY
Rhif Ffôn: 0808 808 4321
(Mae’r llinell gymorth hon ar agor ar Nos Iau o 8yh – 10yh)

E-bost: support@seva-uk.org
Gwefan: (New window) www.male-rape.org.uk

Llinell gymorth genedlaethol i ddynion sydd wedi cael eu treisio, wedi dioddef ymosodiad neu wedi cael eu cam-drin fel plant neu fel oedolion. Mae’r llinell gymorth hefyd yn cefnogi partneriaid (gwrywaidd a benywaidd) ac aelodau o deuluoedd dynion sydd wedi cael eu cam-drin.

Y Cynllun Dyn – Cymru yn unig

Llinell Gymorth: 0808 801 0321 

Mae’r llinell gymorth ar agor ar ddydd Llun a dydd Mawrth o 10.00yb-4.00yp, ac ar ddydd Mercher o 10.00yb-1.00yp

E-bost: support@dynwales.org
Gwefan: (New window) www.dynwales.org

Mae’r Cynllun Dyn hefyd yn rhedeg llinell gymorth i gefnogi dynion yng Nghymru sy’n dioddef trais yn y cartref. Mae’r llinell gymorth yn gyfrinachol, nid yw’n beirniadu ac mae’n rhad ac am ddim. Ar wefan Dyn Cymru mae yna wybodaeth gyffredinol ynghylch trais yn y cartref a chyfeirlyfr o’r gwasanaethau ymhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r prosiect hefyd yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth wyneb-yn-wyneb i ddynion sy’n dioddef trais yn y cartref yng Nghaerdydd.

Mudiadau i ddynion a menywod

Unedau trais yn y cartref yr heddlu

Mae gan yr heddlu nifer o unedau trais yn y cartref, sydd â staff sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig i helpu pobl sy'n dioddef trais yn y cartref. Maen nhw'n gweithio'n agos gyda chymdeithasau eraill fel cyfreithwyr lleol a grwpiau Cymorth i Ferched. Mae eich gorsaf heddlu leol, yn y llyfr ffôn o dan Police, yn medru dweud a oes ganddyn nhw uned trais yn y cartref, neu ble mae'r un agosaf.

Canolfan Argyfwng i Deuluoedd Sir Drefaldwyn

Uned 2, Parc Busnes St Giles
Heol y Pwll
Y Drenewydd
Powys

SY16 3AJ

Llinell Gymorth: 01686 629 114 (24 awr, bob dydd o’r flwyddyn)
E-bostiwch drwy’r wefan yn: (New window) www.familycrisis.co.uk.

Mae Canolfan Argyfwng i Deuluoedd Sir Drefaldwyn yn darparu llinell gymorth gyfrinachol 24 awr y dydd i bobl sydd wedi dioddef trais yn y cartref, neu sydd yn dioddef trais yn y cartref. Mae’r ganolfan yn helpu dynion a menywod ac yn cymryd galwadau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn darparu gwasanaethau eraill, er enghraifft llety diogel i ddynion a menywod.

Action on Elder Abuse

PO Box 60001
Streatham
SW16 9BY

Llinell Gymorth: 0808 808 8141
Rhif Ffôn: 020 8765 7000
Ffacs: 020 8679 4074
E-bost: enquiries@elderabuse.org.uk
Gwefan: (New window) www.elderabuse.org.uk

Mae Action on Elder Abuse yn rhoi cyngor a gwybodaeth cyfrinachol i bobl hŷn sy’n dioddef o drais neu gamdriniaeth. Mae perthynas neu ffrind y person sy’n cael ei g/cham-drin hefyd yn medru cysylltu â’r llinell gymorth ar ran y person hŷn. Gellir defnyddio’r llinell gymorth yn achos pobl hŷn sy’n byw gartref, mewn cartref gofal neu sydd yn yr ysbyty.

Llinell Gymorth Genedlaethol i bobl sy’n cael eu dilyn

Llinell Gymorth: 0300 636 0300

Mae’r llinell gymorth ar agor o 9.30yb hyd 4yp ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener ac o 1yp hyd 4yp ar Ddydd Mercher.

E-bost: advice@stalkinghelpline.org

Gwefan: (New window) www.stalkinghelpline.org

Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol i bobl sy’n cael eu dilyn yn medru rhoi cyngor ar sut i ddelio gydag unrhyw fath o ymddygiad ble’r ydych yn cael eich dilyn. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar sut i riportio’r ymddygiad i’r heddlu, a’r hyn fedrwch chi ei ddisgwyl os ydych yn riportio rhywbeth.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Adeiladau Cambria
Sgwâr Mount Stuart
Butetown
Caerdydd
CF10 5FL

Rhif Ffôn: 08442 640 670 (cyfradd safonol) neu 02920 445 030 (rhif lleol)
Ffacs: 08442 640 680
E-bost: ask@olderpeoplewales.com
Gwefan: (New window) www.olderpeoplewales.com

Rôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw sicrhau bod buddiannau pobl hŷn yng Nghymru yn cael eu diogelu. Mae'r Comisiynydd yn medru edrych yn benodol ar y ffordd y mae awdurdod lleol neu gorff iechyd yn delio gyda cham-drin henaduriaid ac yn medru cymryd achosion unigol os yw'r achos yn codi materion sy'n cael effaith ehangach ar bobl hŷn.

Llinell Ffôn Respect


Ffôn: 0808 802 4040 (rhad ac am ddim o linellau tir a’r rhan fwyaf o ffonau symudol) o ddydd Llun i ddydd Gwener o 10yb tan 1yp ac o 2yp tan 5yp)
E-bost: info@respectphoneline.org.uk
Gwefan: (New window) www.respectphoneline.org.uk

Mae Llinell Ffôn Respect yn cynnig cyngor a gwybodaeth i ddynion a menywod mewn perthnasoedd heterorywiol neu berthnasoedd o’r un rhyw sydd am atal eu hymddygiad treisgar.

Mudiadau i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol

Broken Rainbow

Llinell Gymorth: 0300 999 5428.

Mae’r llinell gymorth ar agor ar yr holl adegau canlynol:

Dydd Llun 2yp-8yh
Dydd Mercher 10yb-5yp
Dydd Iau 2yp-8yh.

Os oes sefyllfa o berygl dybryd, ffoniwch 999.

Mae Broken Rainbow yn rhoi cymorth i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy’n dioddef trais yn y cartref.

Nôl i’r brig