The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Help gyda chostau ysgol
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â’r wybodaeth hon
Yn y wybodaeth hon, rydyn ni’n siarad am awdurdodau addysg lleol. Yng Ngogledd Iwerddon cyfeirir atynt fel Byrddau Addysg a Llyfrgell (ELBs). Rydyn ni’n defnyddio’r gair ‘rhiant’ i gynnwys y ddau riant, neu warcheidwad y disgybl, neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.
Pwy sy’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol
Fel rhiant, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn mathau arbennig o gymorth ariannol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol. Mewn rhai amgylchiadau, bydd cymorth ariannol yn dibynnu ar y ffaith os ydyw’ch plentyn o oed gorfodol ysgol. Mewn achosion eraill, fe fydd yn dibynnu ar y math o ysgol y mae’ch plentyn yn ei mynychu.
Mae enghreifftiau o gymorth ariannol yn cynnwys:
- cinio ysgol am ddim
- llaeth ysgol
- gwisg ysgol
- cludiant ysgol
- ymweld a disgybl mewn ysgol arbennig a gynhelir.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahanol fathau o ysgolion, gweler Mathau o ysgolion.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth yw oed ysgol gorfodol, gweler o dan y pennawd Oed gorfodol ysgol yn Mynediad i addysg.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth gyda chostau addysg i fyfyrwyr dan 19 oed yn Lloegr, gweler Addysg i rai 14-19 yn Lloegr neu, yng Nghymru, Dewisiadau Addysg yn 16 oed yng Nghymru.
Pwy all roi cymorth ariannol
Gall y sefydliadau canlynol roi cymorth ariannol:
- awdurdodau addysg lleol
- cyrff llywodraethol/cymdeithasau rhieni
- elusennau.
Awdurdod Addysg Lleol
Rhaid i awdurdodau addysg lleol roi gwybodaeth ysgrifenedig i chi ynglŷn â pha gymorth y gallan nhw ei gynnig gyda chostau addysg, y meini prawf ar gyfer cael y cymorth hwn a sut mae gwneud cais amdano. Yr awdurdod addysg lleol sy’n rheoli yn yr ardal lle mae’r disgybl yn byw fel arfer sy’n gyfrifol am helpu gyda chostau addysg. Sut bynnag, os nad yw’r plentyn yn byw’n barhaol yn rhywle, er enghraifft, maen nhw’n rhan o gymuned deithiol neu’n ffoadur mewn llety dros dro, yr awdurdod addysg lleol sy’n rheoli’r ardal lle mae’r disgybl yn byw ar y pryd sy’n gyfrifol am helpu gyda chostau addysg.
Cyrff Llywodraethol/Cymdeithasau Rhieni
Gall cyrff llywodraethol neu gymdeithasau rhieni roi cymorth ariannol. Os ydyn nhw’n gwneud hyn, fel arfer fe fyddan nhw’n cyhoeddi hyn yn y wybodaeth fyddan nhw’n ei rhoi i rieni am yr ysgol. Fe allwch chi ddarganfod pa gymorth sydd ar gael oddi wrth y gymdeithas rieni neu’r pennaeth.
Elusennau
Mae rhai elusennau yn rhoi grantiau i rieni i helpu gyda chostau addysg. Mae gan yr elusennau hyn yn aml swm cyfyngedig o arian i’w roi ac fel arfer mae ganddynt feini prawf penodol iawn y mae’n rhaid cwrdd â nhw er mwyn cael grant. Er bod y meini prawf yn amrywio’n fawr, gallai rhai esiamplau cyffredin fod yn rhieni sy’n byw mewn ardal arbennig neu’n perthyn i grefydd arbennig.
Sut i wneud cais am gymorth
Fe allwch chi wneud cais am gymorth pa bryd bynnag yr ydych yn credu eich bod yn gymwys. Sut bynnag, os ydyw’r cymorth yr ydych yn gwneud cais amdano yn ddewisol, gallai’r swm o arian sydd ar gael y flwyddyn honno fod yn gyfyng ac fe ddylech chi wneud cais yn gynnar yn y flwyddyn os yn bosibl. Os ydych chi wedi gwneud cais blaenorol aflwyddiannus, efallai y dewch chi’n gymwys os bydd eich amgylchiadau chi’n newid.
Mae polisïau awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethol ynglŷn â sut maen nhw’n darparu cymorth dewisol yn amrywio’n fawr. Sut bynnag, mae yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich hil, rhyw, rhywioldeb, anabledd neu grefydd wrth iddyn nhw lunio’u polisiau.
Cinio ysgol am ddim
Yn Lloegr a Chymru, rhaid i ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ddarparu cinio canol dydd am ddim i ddisgyblion os ydyn nhw (neu eu rhieni) yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA) neu Gymhorthdal Incwm, neu os ydyn nhw’n derbyn cefnogaeth fel ymofynwyr noddfa. Rhaid i’r ysgol hefyd ddarparu cinio am ddim os yw rhiant disgybl yn derbyn Credyd Treth Plant ond nid Credyd Treth Gwaith a bod eu hincwm yn is na lefel arbennig neu os ydyn nhw’n derbyn y rhan gwarant o’r Credyd Pensiwn. Sut bynnag, yn Lloegr a Chymru os yw rhiant yn derbyn Credyd Treth Gwaith am bedair wythnos oherwydd eu bod wedi stopio gweithio neu wedi lleihau eu horiau i lai na 16 awr yr wythnos, neu mewn rhai achosion, llai na 30 awr yr wythnos, efallai y byddan nhw o hyd yn gallu cael cinio ysgol am ddim i’w plant.
Mewn Colegau Technegol Dinas (CTCs), gall y corff llywodraethol benderfynu pa un ai i roi cinio am ddim neu beidio a hefyd,os ydyn nhw’n gwneud, pa ddisgyblion sy’n gymwys.
Mae gofyn i awdurdodau addysg lleol hefyd i ddarparu cinio canol dydd am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion arbennig ac sydd wedi’u dynodi i dderbyn diet arbennig a/neu sy’n lletywyr.
Efallai na fydd disgyblion sy’n cael cinio am ddim bob amser yn cael yr un cinio â’r rheiny sy’n talu’n llawn. Mewn systemau caffeteria, gall disgyblion sy’n gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim ddewis bwyd i fyny hyd at gost benodol.
Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i fyrddau Addysg a Llyfrgell ddarparu cinio canol dydd am ddim i ddisgyblion os yw eu rhieni yn derbyn un o’r canlynol:
- lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- Cymhorthdal Incwm
- y rhan gwarant o’r Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Plant a’u hincwm yn is na lefel arbennig
- Credyd Treth Gwaith a’u hincwm yn is na lefel arbennig. Sut bynnag, mae hyn yn berthnasol i’r plant a anwyd ar neu ar ôl 2 Gorffennaf 2002 yn unig.
Llaeth ysgol
Gall ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ddarparu llaeth cymorthdaledig i ddisgyblion. Rhaid i chi dalu amdano os nad ydych yn gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim, pan ddylai fod yn rhad ac am ddim. Gall llaeth ysgol am ddim fod ar gael i blant o dan bump oed os ydyw’r ysgol yn cymryd rhan mewn cynlluniau o’r fath. Yng Nghymru, mae disgyblion Cyfnod Allweddol 1 yn gymwys i dderbyn llaeth ysgol am ddim.
Ymhob ysgol a choleg arall, gall y corff llywodraethol benderfynu darparu llaeth ond efallai codi tâl amdano os ydynt yn gwneud hynny.
Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i awdurdodau addysg lleol ddarparu llaeth ysgol am ddim ar gyfer:
- holl ddisgyblion ysgol arbennig
- disgyblion mewn ysgolion lle na ddarperir cinio ysgol
- disgyblion sydd â thystysgrif feddygol sy’n nodi fod llaeth yn rhan angenrheidiol o’u diet.
Mae llaeth hefyd ar gael am dâl i ddisgyblion sy ddim yn gymwys i dderbyn llaeth am ddim.
Gwisg ysgol
Yn Lloegr a Chymru, mae gan awdurdodau addysg lleol yr hawl i ddewis helpu gyda chost gwisg ysgol i ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir, colegau addysg bellach a cholegau chweched dosbarth. Gall hyn gynnwys dillad sy’n wisg ysgol a dillad nad ydynt yn wisg ysgol, esgidiau a chit chwaraeon. Mewn rhai ysgolion a cholegau, gall cymorth fod ar gael oddi wrth y corff llywodraethol neu gymdeithas rhieni.
Mae awdurdodau addysg lleol yn amrywio’n fawr yn eu polisiau ynglŷn â phwy all gael cymorth a pha eitemau y byddan nhw’n fodlon rhoi cymorth ar eu cyfer. Er mwyn darganfod beth yw’r polisi yn eich ardal chi, gwiriwch gyda’ch awdurdod lleol.
Mae rhai awdurdodau addysg lleol yn cyfyngu’r cymorth i wisg ysgol yn unig, mae rhai yn talu grant ar ei ben ei hun pan fydd y disgybl yn cychwyn ysgol tra mae eraill yn talu grantiau rheolaidd wrth i’r disgybl dyfu ac angen dillad newydd. Mae rhai awdurdodau addysg lleol yn rhoi’r cymorth fel grantiau arian parod, tra mae eraill yn rhoi talebau i’w defnyddio mewn siopau lleol ac mae eraill yn rhoi eitemau o ddillad.
Mae gan rai awdurdodau addysg lleol bolisi o beidio â rhoi cymorth ariannol i brynu gwisg ysgol oherwydd nad oes rhaid i ddisgyblion yn gyfreithiol i wisgo gwisg ysgol. Mae hyn yn fwy tebygol o fod yn wir gyda disgyblion ysgolion cynradd. Os mai polisi eich ysgol yw i ddisgyblion wisgo gwisg ysgol a dydych chi ddim yn gallu fforddio prynu un, efallai y bydd yn rhaid i chi herio’r awdurdod addysg lleol.
Mae Cyngor ar Bopeth yn ymgyrchu i annog mwy o rieni i herio awdurdodau lleol sy’n gwrthod ystyried ceisiadau am grantiau.
Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan yn yr ymgyrch, fe allwch chi wneud hyn trwy ddweud wrthym am eich profiadau neu ddod yn rhan o weithgareddau lleol. Fe allwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth trwy fynd i’n gwefan yn: www.citizensadvice.org.uk. Neu e-bostio: adrian.galvin@citizensadvice.org.uk.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â herio awdurdod addysg lleol, gweler Problemau yn yr ysgol.
Mae rhai cyrff llywodraethol neu gymdeithasau rhieni yn rhoi cymorth gyda gwisg ysgol. Fel arfer darperir y cymorth hwn trwy i’r ysgol gadw stoc o ddillad ail-law y mae’n eu rhoi i’r disgyblion sy’n syrthio o fewn y meini prawf am gymorth, neu trwy gynnal siop gwisgoedd ail-law lle gellir prynu’r dillad yn rhad gan unrhyw riant.
Os ydych chi’n derbyn Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm neu gredyd pensiwn, efallai y bydd yn bosibl cael benthyciad cyllidebu heb log o’r gronfa gymdeithasol i gynorthwyo gyda chost gwisg ysgol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chael benthyciad cyllidebu ar gyfer dillad, gweler Cymorth i bobol ar incwm isel - Y Gronfa Gymdeithasol.
Yng Nghymru, mae grant o £105 ar ei ben ei hun ar gael i ddisgyblion sy’n mynd i ysgol uwchradd ac sy’n gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim - gweler o dan y pennawd Cinio ysgol am ddim. Mae’r grant hefyd ar gael i ddisgyblion yng Nghymru sy’n 11 oed ac sydd mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion sy’n gymwys i gael cinio am ddim yn yr ysgol – gweler y pennawd Cinio ysgol am ddim. Fe fyddwch yn gallu derbyn y grant hwn ar ben unrhyw grant arall y byddwch yn ei dderbyn, er enghraifft, oddi wrth eich awdurdod addysg lleol. Mae disgyblion cymwys sy’n byw yng Nghymru yn medru hawlio’r grant hyd yn oed os ydyn nhw’n mynychu ysgolion ar draws y ffin yn Lloegr. Nid yw’r grant yn daladwy i blant sy’n byw yn Lloegr ond yn mynychu ysgol yng Nghymru.
Grantiau gwisg ysgol yng Ngogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, mae Byrddau Addysg a Llyfrgell yn talu grant gwisg ysgol i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cynradd, uwchradd, gramadeg neu arbennig.
Mae grant ar gael i ddisgyblion os yw eu rhiant neu warcheidwad yn derbyn un o’r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- y rhan credyd gwarant o’r Credyd Pensiwn
- cefnogaeth gan y gwasanaeth Lloches Cenedlaethol (NASS)
- Credyd Treth Plant a’u hincwm yn is na lefel arbennig Child
- Credyd Treth Gwaith a’u hincwm yn is na swm penodol, a’r disgybl wedi’i eni ar 2 Gorffennaf 2000 neu ar ôl y dyddiad yma.
Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais, a chyfraddau'r grantiau presennol, ar wefan nidirect yn www.nidirect.org.uk.
Grant mynd nôl i’r ysgol (Gogledd Iwerddon yn unig)
Cynllun a gynhelir gan Gronfa Goffa Gogledd Iwerddon ydyw’r Gronfa Mynd nôl i’r ysgol i helpu’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan y Trafferthion gyda chostau darparu gwisg ysgol, llyfrau, ac unrhyw gostau eraill sydd ynghlwm wrth ddechrau blwyddyn ysgol. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y grant, rhaid bod gennych blentyn sydd yn derbyn addysg llawn amser ac sy’n byw gartref a rhaid i chi hefyd, o ganlyniad i’r Trafferthion:
- fod wedi colli naill ai riant, partner neu blentyn, neu
- wedi cael eich niweidio eich hun, neu
- yn brif ofalwr i aelod agos o’r teulu sy wedi’i niweidio.
Nid yw’r grant yn un prawf modd, hynny yw, nid yw’n dibynnu ar eich incwm neu gynilion.
Er mwyn gwneud cais am y grant, cysylltwch â:
The Northern Ireland Memorial Fund
Grants Administration Office
Unit 1, 33 Massey Avenue
Belfast
BT4 2JT
Ffôn: 028 90761166
Ffacs: 028 90761144
E-bost: nimfgao@belfast.org.uk
Gwefan: www.nimf.org.uk
Cludiant ysgol
Rhaid i awdurdodau addysg lleol ddarparu cludiant lle yr ystyriant ei fod yn angenrheidiol i sicrhau fod plentyn yn cyrraedd yr ysgol addas agosaf. Gallai’r ysgol fod mewn ardal awdurdod addysg wahanol neu’n ysgol annibynnol.
Os yw cludiant yn angenrheidiol, rhaid ei ddarparu am ddim.
Pwy sy’n gymwys ar gyfer cludiant ysgol am ddim
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae i fyny i’r awdurdod addysg lleol i benderfynu pa gludiant sy’n angenrheidiol. Dylid seilio hawl ar anghenion unigol y plentyn.
Mae’r ffeithiau y mae’n rhaid i’r awdurdod addysg lleol gymryd i ystyriaeth wrth ddod i benderfyniad yn cynnwys oedran y disgybl, natur y teithiau sydd ar gael, pa mor hir mae’n rhaid i ddisgybl aros am gludiant cyhoeddus ac os oes gan ddisgybl anghenion meddygol neu symudedd arbennig neu beidio.
Bydd gan eich plentyn hawl i gludiant am ddim yn awtomatig os ydyn nhw:
- rhwng pump a 16 mlwydd oed, ac
- yn mynychu’r ysgol addas agosaf, ac
- os ydyw’r ysgol ymhellach i ffwrdd na’r pellter cerdded statudol.
Yn Lloegr, mae disgyblion rhwng 11 ac 16 oed sy’n dod o deuluoedd ar incwm isel hefyd yn gymwys yn awtomatig i dderbyn cludiant am ddim os:
- ydyn nhw’n mynychu un o’r tair ysgol addas agosaf, a
- ydyw’r ysgol rhwng dwy a chwe milltir o’u cartref (neu i fyny at 15 milltir i ffwrdd os mai hon ydyw’r ysgol agosaf sy’n addas oherwydd crefydd neu gred).
Yng Nghymru, mae disgyblion ysgol gynradd sy’n byw mwy na dwy filltir o’r ysgol gymwys agosaf â hawl i gael cludiant am ddim.
Pellter cerdded statudol
Yn Lloegr y pellter cerdded statudol yw:
- dwy filltir i ddisgyblion i fyny at wyth oed
- dwy filltir i ddisgyblion rhwng 8 ac 11 mlwydd oed o deuluoedd ar incwm isel
- tair milltir i ddisgyblion wyth oed neu fwy sy ddim yn dod o deuluoedd ar incwm isel.
Yng Nghymru pellter cerdded statudol yw:
- dwy filltir i ddisgyblion mewn ysgol gynradd
- tair milltir i blant mewn ysgol uwchradd.
Yng Ngogledd Iwerddon pellter cerdded statudol yw:
- dwy filltir i ddisgyblion mewn ysgol gynradd
- tair milltir i ddisgyblion ôl-ysgol gynradd.
Mesurir pellter cerdded statudol yn ôl y daith fyrraf y gall plentyn gerdded i’r ysgol yn weddol ddiogel, yng nghwmni rhywun os oes rhaid. Os nad oes taith felly ar gael, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu cludiant am ddim does wahaniaeth pa mor bell yr ydych yn byw o’r ysgol.
Nid oes rhaid i awdurdodau addysg lleol ddarparu cludiant am ddim i ysgol sydd y tuhwnt i bellter cerdded statudol, os ydyw’r awdurdod addysg lleol yn ystyried fod yna ysgol addas agosach. Sut bynnag, gall awdurdodau addysg lleol ddarparu cludiant am ddim i ddisgybl sydd y tuhwnt i bellter cerdded statudol, hyd yn oed os oes ysgol agosach ar gael. Gall y cymorth hwn gael ei gyfyngu i’r rheiny sydd â rheswm da dros ddewis ysgol bellach, er enghraifft, myfyriwr Catholig sydd am fynychu ysgol Gatholig neu fyfyriwr o gefndir anghrefyddol sydd am fynychu ysgol seciwlar.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â mathau o ysgolion, gweler Mathau o ysgolion.
Teuluoedd ar incwm isel
Mae teulu ar incwm isel yn un lle mae gan y plant yr hawl i gael cinio ysgol am ddim, neu lle mae’r teulu yn cael yr uchafswm o Gredyd Treth Gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chinio ysgol am ddim, gweler o dan y pennawd Cinio ysgol am ddim.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Chredyd Treth Gwaith, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobol sy’n gweithio.
Pa fath o gludiant a ddarperir
Bydd yr awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethol yn darparu naill ai ei gludiant ei hun, llogi bysiau neu’n darparu tocynnau bws neu drên am ddim i’w defnyddio ar gludiant cyhoeddus. Gellir talu lwfans teithio i ddisgyblion sy’n darparu eu cludiant eu hunain, er enghraifft, lwfans beic. Gellir talu lwfans car i chi os ydych chi’n mynd â’ch plentyn i’r ysgol neu i bwynt casglu y cytunwyd arno gan yr awdurdod addysg lleol. Gellir caniatáu i ddisgyblion sy ddim yn gymwys i dderbyn cludiant am ddim i deithio ar seddau sbâr ar fysiau ysgol a gellir codi tâl am hyn.
Os oes gan awdurdod addysg lleol ddyletswydd i ddarparu cludiant am ddim, rhaid iddo ddarparu’r cludiant hwnnw am y daith gyfan. Fel arfer mae hyn yn golygu o’r arosfan bysiau, gorsaf drenau neu bwynt codi agosaf at gartref y disgybl i’r un agosaf at yr ysgol. Nis gall yr awdurdod addysg lleol dalu'r costau teithio o’r arosfan, gorsaf drenau neu bwynt codi agosaf i gartref y disgybl i fan sy o fewn pellter cerdded i’r ysgol.
Pa gymorth sydd ar gael os nad yw’ch plentyn yn gymwys i dderbyn cludiant ysgol am ddim
Os na allwch chi berswadio’r awdurdod addysg lleol i ddarparu cludiant am ddim i’ch plentyn, gall yr awdurdod addysg lleol fodloni talu rhan o’r costau teithio o dan ei hawliau gorddewisol.
Gall plentyn sydd â lle cymorthedig mewn ysgol annibynnol gael cymorth oddi wrth yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (DCSF) os yw incwm eu rhiant yn is na chyfanswm arbennig.
Mae dyletswyddau a phwerau cludiant awdurdod addysg lleol yn berthnasol i golegau technegol dinas (CTCs). Gall corff llywodraethol CTC ddarparu cludiant, ond fe allan nhw ddisgwyl i’r myfyriwr wneud cais i’r awdurdod addysg lleol yn gyntaf.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth yw CTC, gweler Mathau o ysgolion.
Os ydych chi’n teimlo fod cymorth gyda chludiant i ysgolion neu golegau wedi’i wrthod yn annheg i’ch plentyn, fe ddylech chi yngynghori ag ymgynghorydd profiadol er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu cynghori trwy e-bost, cliciwch ar y CAB agosaf.
Ymweld â disgybl mewn ysgol arbennig a gynhelir (Lloegr a Chymru yn unig)
Mae gan awdurdodau addysg lleol y dewis i dalu holl gostau neu ran o gostau teithio rhiant sy’n ymweld â disgybl sy’n preswylio mewn ysgol arbennig a gynhelir sydd ychydig bellter o’r cartref. Efallai y bydd angen llythyr o gefnogaeth oddi wrth feddyg, gweithiwr cymdeithasol neu athro. Efallai y bydd cyfyngiad ar y nifer o ymweliadau y bydd awdurdod addysg lleol yn talu amdanynt.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg
Os ydych chi’n 16-18 oed ac yn aros ymlaen yn yr ysgol neu goleg, efallai y byddwch yn gallu derbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg.Yn Lloegr mae’r cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg wedi bod ar gau i ymgeiswyr newydd ers 1 Ionawr 2011. Ond, os ydych yn Sais/Saesnes ond yn astudio yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn y wlad ble’r ydych yn astudio.
Yng Nghymru, er mwyn i chi fod yn gymwys i dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg, rhaid eich bod chi’n byw yng Nghymru. Os ydych yn cael eich cyfrif fel un sy’n byw yng Nghymru, fe fyddwch yn gymwys hyd yn oed os ydych mewn ysgol neu goleg yn Lloegr.
Yn Lloegr, am fwy o wybodaeth ynglŷn â Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gweler Cymorth ariannol i fyfyrwyr 16-19 oed.
Yn Lloegr, am fwy o wybodaeth ynglŷn â Lwfans Cynhaliaeth Addysg gweler Help ariannol i fyfyrwyr 16-19 oed.
Yng Nghymru, am fwy o wybodaeth ynglŷn â Lwfans Cynhaliaeth Addysg gweler y wefan Cyllid Myfyrwyr yng Nghymru yn www.studentfinancewales.co.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth ynglŷn â Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gweler www.delni.gov.uk.
Grantiau ar gyfer anghenion eraill
Mae gan awdurdodau addysg lleol hawl gweddol eang i drefnu grantiau i alluogi disgyblion mewn ysgolion a gynhelir i gymryd mantais o’r cyfleusterau addysgol sydd ar gael iddynt heb achosi caledi i’w teuluoedd. Sut bynnag, mae’r swm o arian sydd ar gael gan awdurdod addysg lleol ar gyfer y grantiau hyn yn gyfyngedig iawn. Rhoddir grantiau ar gyfer gweithgareddau neu eitemau sy ddim yn rhan o’r cwricwlwm ysgol yn unig, er enghraifft, gellir rhoi grant ar gyfer costau teithio i fynychu cyfweliad neu tuag at gostau offeryn cerdd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth y gall ysgol godi tâl amdano, gweler Problemau yn yr ysgol.









