Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mathau o ysgolion

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon



Mathau o ysgolion

Y prif gategoriau o ysgolion yw:-

  • ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon)
  • ysgolion annibynnol.

Nôl i’r brig


Ysgolion a gynhelir gan Awdurdod Addysg Lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon)

Mae ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon) yn un a ariennir gan yr awdurdod addysg lleol a bydd yn un o’r canlynol:-

  • ysgol sefydledig
  • ysgol gymunedol
  • ysgol wirfoddol dan reolaeth
  • ysgol wirfoddol dan gymorth
  • ysgol feithrin. Gellir cynnig addysg gynnar i blant tair a phedair blwydd oed cymwys mewn ysgolion meithrin, dosbarthiadau meithrin neu mewn dosbarthiadau derbyn mewn ysgolion cynradd. Mae pob un o’r rhain yn enghreifftiau o ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon), ond fe ellir cynnig lleoedd i rai plant tair a phedair blwydd oed cymwys mewn ysgolion meithrin dydd preifat neu ysgolion meithrin annibynnol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag addysg gynnar i blant tair a phedair blwydd oed cymwys, gweler Lleoedd addysg rhydd i blant tair a phedair blwydd oed.

  • ysgol arbennig. Mae rhai ysgolion arbennig yn cael eu cynnal gan awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon). Gall y rhain fod yn ysgolion cymunedol, gwirfoddol neu sefydledig arbennig. Mae disgyblion mewn ysgol arbennig a gynhelir fel arfer wedi’u hasesu ac wedi derbyn datganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA). Mae rhai ysgolion arbennig yn ysgolion annibynnol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag AAA a sut yr asesir disgyblion a chael datganiad o AAA, gweler Plant ag anghenion addysgol arbennig (AAA).

Ysgolion cymunedol

Mewn ysgol gymunedol:-

  • yr awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon) sy’n berchen ar y tir a’r adeiladau, ond mae’r corff llywodraethol yn gyfrifol am redeg yr ysgol
  • yr awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon) sy’n ariannu’r ysgol
  • yr awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon) sy’n cyflogi’r staff
  • mae’r awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon) yn darparu gwasanaethau cynnal, er enghraifft, gwasanaethau seicolegol a gwasanaethau anghenion addysgol arbennig
  • mae’n rhaid i’r disgyblion ddilyn y cwricwlwm cenedlaethol
  • fel arfer penderfynir ar a gweinyddir y polisi mynediad gan yr awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon).

Ysgolion gwirfoddol

Mae dau fath o ysgolion gwirfoddol:-

  • dan reolaeth
  • dan gymorth.

Ysgolion gwirfoddol dan reolaeth

Gellir galw ysgol wirfoddol dan reolaeth hefyd yn ysgol grefyddol neu’n ysgol ffydd.

Mewn ysgol wirfoddol dan reolaeth:-

  • mae’r tir a’r adeiladau yn berchen i elusen, yn aml sefydliad crefyddol megis eglwys
  • mae’r elusen yn penodi rhai o aelodau’r corff llywodraethol, ond yr awdurdod addysg lleol sy’n gyfrifol am redeg yr ysgol
  • ariennir yr ysgol gan yr awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon)
  • yr awdurdod addysg lleol sy’n cyflogi’r staff
  • mae’r awdurdod addysg lleol yn darparu gwasanaethau cynnal
  • mae’n rhaid i’r disgyblion ddilyn y cwricwlwm cenedlaethol
  • fel arfer penderfynir ar a gweinyddir y polisi mynediad gan yr awdurdod addysg lleol.

Ysgolion gwirfoddol dan gymorth

Fel arfer gelwir ysgolion gwirfoddol dan gymorth yn ysgolion crefyddol neu’n ysgolion ffydd. Mewn ysgol wirfoddol dan gymorth:-

  • mae’r tir a’r adeiladau yn berchen i elusen, yn aml sefydliad crefyddol megis eglwys, ond y corff llywodraethol sy’n gyfrifol am redeg yr ysgol
  • ariennir yr ysgol yn rhannol gan yr awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon), yn rhannol gan y corff llywodraethol ac yn rhannol gan yr elusen
  • mae’r corff llywodraethol yn cyflogi staff
  • mae’r awdurdod addysg lleol yn darparu gwasanaethau cynnal
  • mae’n rhaid i’r disgyblion ddilyn y cwricwlwm cenedlaethol
  • penderfynir ar a gweinyddir y polisi mynediad gan y llywodraethwyr mewn ymgynghoriad â’r awdurdod addysg lleol ac ysgolion perthnasol eraill yn yr ardal.

Ysgolion sefydledig

Mewn ysgolion sefydledig:-

  • y corff llywodraethol sydd berchen ar y tir a’r adeiladau, a nhw hefyd sy’n gyfrifol am redeg yr ysgol
  • yr awdurdod addysg lleol sy’n ariannu’r ysgol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon)
  • y corff llywodraethol sy’n cyflogi’r staff
  • mae’r corff llywodraethol yn prynu i mewn ac yn gweinyddu y rhan fwyaf o’r gwasanaethau cynnal
  • mae’n rhaid i’r disgyblion ddilyn y cwricwlwm cenedlaethol
  • penderfynir ar a gweinyddir y polisi mynediad gan y llywodraethwyr mewn ymgynghoriad â’r awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon) ac ysgolion perthnasol eraill yn yr ardal.

Nôl i’r brig


Ysgolion nad ydynt yn cael eu cynnal gan yr awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon)

Mae yna amrywiaeth o ysgolion sy ddim yn cael eu cynnal gan yr awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon), sy’n cynnwys:-

  • ysgolion annibynnol
  • colegau technegol dinas
  • academïau
  • ysgolion arbennig sy ddim yn cael eu cynnal gan yr awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon)
  • sefydliadau dysgu cynnar.

Ysgolion annibynnol

Mewn ysgol annibynnol:-

  • mae’r corff llywodraethol yn gyfrifol am redeg yr ysgol o ddydd i ddydd
  • ariennir yr ysgol gan y ffioedd mae’r rhieni yn eu talu ac weithiau gan gronfeydd ymddiriedolaeth elusennol
  • mae’r pennaeth gyda chefnogaeth y corff llywodraethol yn cyflogi’r staff
  • gall y pennaeth neu’r corff llywodraethol brynu i mewn a gweinyddu gwasanaethau cynnal
  • nid oes rhaid i’r disgyblion ddilyn y cwricwlwm cenedlaethol
  • penderfynir ar a gweinyddir y polisi mynediad gan y pennaeth a’r corff llywodraethol.

Colegau Technegol Dinas

Mae Colegau Technegol Dinas (CTCs) yn ysgolion annibynnol heb ffî ac fe’u lleolir mewn ardaloedd trefol. Nifer fechan o’r Colegau hyn sydd ar gael. Mewn CTC:-

  • cynhelir y coleg yn unol â chytundeb rhwng y cwmni sydd ei berchen a’r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (DCSF)
  • mae’r DCSF a noddwyr masnachol yn ariannu’r coleg
  • mae’r corff llywodraethol yn cyflogi’r staff
  • mae’r corff llywodraethol yn prynu i mewn ac yn gweinyddu’r gwasanaethau cynnal
  • mae’r disgyblion yn dilyn cwricwlwm sy’n debyg i’r cwricwlwm cenedlaethol, gyda phwyslais arbennig ar sgiliau technolegol ac ymarferol
  • penderfynir ar a gweinyddir y polisi mynediad gan y corff llywodraethol.

Academïau

Mae Academïau yn ysgolion pob gallu sy’n cael eu rheoli’n annibynnol ac sy’n gweithredu y tu allan i reolaeth yr awdurdod lleol. Mewn academi dinas:-

  • mae’r llywodraeth yn ariannu costau cynnal yr ysgol
  • mae’r corff llywodraethol yn cyflogi’r staff
  • nid oes rhaid i’r disgyblion ddilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Ysgolion arbennig sy ddim yn cael eu cynnal gan yr awdurdod addysg lleol

Mae yna rai ysgolion ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig sy ddim yn cael eu cynnal gan yr awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon) ac mae’r wybodaeth am ysgolion annibynnol yn berthnasol. Mewn rhai amgylchiadau, gall awdurdod addysg lleol (Bwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon) dalu’r ffioedd er mwyn i ddisgybl ag anghenion addysgol arbennig fynychu un o’r ysgolion hyn os ydyw’r ysgol hon yn diwallu eu hanghenion yn iawn.

Sefydliadau Dysgu Cynnar

Gellir cynnig dysgu cynnar i blant tair a phedair blwydd oed cymwys mewn grwpiau chwarae annibynnol, meithrinfeydd dydd preifat neu ysgolion annibynnol. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y wybodaeth uchod yn berthnasol - gweler o dan y pennawd Ysgolion Annibynnol.

Bydd lle rhan amser am ddim, ond fel arfer bydd rhiant yn talu ffioedd os yw’r plentyn yn mynychu yn llawn amser

Nôl i’r brig