Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

  • Cymru
  • Addysg
  • Help gyda hyfforddiant a chymwysterau i bobl sy’n gadael y Lluoedd arfog a chyn-filwyr

Help gyda hyfforddiant a chymwysterau i bobl sy’n gadael y Lluoedd arfog a chyn-filwyr

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Ynglŷn â’r wybodaeth hon

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i:

  • bobl oedd yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog (cyn-filwyr)
  • bobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog.

Os ydych yn gadael y Lluoedd Arfog, neu’n gyn-filwr, mae’n bosib eich bod yn meddwl am wneud cwrs i gael mwy o gymwysterau a sgiliau i’ch helpu i ddod o hyd i swydd.

Mae yna lawer o wybodaeth a chyngor ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir. Mae’n bosib y gallwch gael arian i’ch helpu i dalu am y cwrs.

Nôl i’r brig


Help oddi wrth y Lleng Brydeinig Frenhinol

Cewch gyngor ac arian ar gyfer cymwysterau a sgiliau i’ch helpu i gael swydd o’r Lleng Brydeinig Frenhinol (RBL).

Mae gan yr RBL gyngor ar-lein ac ar y ffôn i’ch helpu i gael y cymwysterau a’r sgiliau cywir. Cewch hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Civvy Street: (New window) www.civvystreet.org.

Cewch hefyd gyngor gan Civvy Street drwy gysylltu â nhw:

Llinell gymorth: 0800 169 4073
E-bost: info@civvystreet.org.

Cynllun Grant Cymorth Cyflogaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol

Mae gan yr RBL Gynllun Grant Cymorth Cyflogaeth. I fanteisio ar y cynllun hwn, mae’n rhaid eich bod:

  • ddim yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog mwyach
  • yn ddi-waith neu’n derbyn Cymhorthdal Incwm neu fudd-dal prawf modd arall
  • yn methu â thalu am y cwrs eich hun ac nid ydych yn gallu hawlio unrhyw arian arall.

Cewch hyd i fwy o wybodaeth am y cynllun hwn ar wefan Civvy Street yn (New window) www.civvystreet.org.

Gwasanaeth ‘Be the Boss’ y Lleng Brydeinig Frenhinol

Os ydych yn gadael y Lluoedd Arfog, neu’n gyn-filwr, mae’n bosib y gallwch gael help i gynllunio ac ariannu eich busnes bach ei hun oddi wrth yr RBL.

Mae’r gwasanaeth ‘Be the Boss’ yn cynnig:

  • hyfforddiant i sefydlu busnes bach
  • help gydag ysgrifennu cynllun busnes a rhagolwg ariannol
  • arian i helpu i lansio neu ddatblygu’r busnes
  • gwiriadau iechyd a mentora busnes o bryd i’w gilydd.

Cewch hyd i fwy o wybodaeth am y wasanaeth hwn drwy gysylltu â nhw:

Llinell gymorth ‘Be the Boss’: 0800 678 5787
E-bost: betheboss@civvystreet.org.uk
Gwefan: (New window) www.civvystreet.org

Nôl i’r brig


Arian ar gyfer addysg bellach ac uwch

Os ydych yn gadael y Lluoedd Arfog, neu’n gynfilwr, mae’n bosib y gallwch gael cymwysterau dysgu lefel tri yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, cymhwyster cyfwerth yn yr Alban, neu radd, heb orfod talu ffioedd hyfforddiant.

Cymhwyster lefel tri yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, yw dau lefel A, neu gwrs galwedigaethol cyfwerth.

Mae’n rhaid i chi ateb rhai amodau er mwyn cymryd rhan yn y cynllun. Mae’n rhaid eich bod:

  • wedi gadael y Lluoedd Arfog ar neu ar ôl Gorffennaf 17 2008
  • wedi cwblhau chwe blynedd o wasanaeth llawn amser yn y Lluoedd Arfog
  • eisoes wedi cymryd rhan mewn Cynllun Credyd Dysgu Pellach am o leiaf pedair blynedd.

Cewch fwy o wybodaeth am y cynllun hwn a’r cyrsiau y gallwch eu gwneud ar wefan Courses4Forces: (New window) www.courses4forces.co.uk.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Cewch fwy o wybodaeth am y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd ar Adviceguide

Os hoffech fwy o wybodaeth am arian, gweler Budd-daliadau a chonsesiynau ar gyfer y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Os hoffech fwy o wybodaeth am iechyd, gweler Gofal iechyd ar gyfer pobl a anafwyd yn y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.

Os hoffech fwy o wybodaeth am dai, gweler Opsiynau tai ar gyfer pobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Os hoffech fwy o wybodaeth am bensiynau, gweler Cynlluniau pensiwn ac iawndal ar gyfer y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Os hoffech fwy o wybodaeth am ddysgu i oedolion, gweler Addysg i Oedolion: cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.

Os hoffech fwy o wybodaeth am yr help sydd ar gael i dalu costau dysgu yn yr Alban, gweler Addysg yn Yr Alban: yn eich helpu chi i dalu costau dysgu.

Os hoffech fwy o wybodaeth am addysg bellach yn Yr Alban, gweler Addysg yn Yr Alban: Addysg bellach ac uwch – cyrsiau sydd ar gael yng ngholegau a phrifysgolion Yr Alban.

Cymdeithasau eraill

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Cewch hyd i fwy o wybodaeth am ddysgu, cyflogaeth a chymorth cyffredinol ar fywyd sifil ar wefan Civvy Street y Lleng Brydeinig Frenhinol: (New window) www.civvystreet.org.

Cewch gyngor gan Civvy Street drwy gysylltu â nhw:

Llinell gymorth: 0800 169 4073
E-bost: info@civvystreet.org.

Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog

Mae’r Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog (SPVA) wedi cynhyrchu Map Gwybodaeth. Gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i fanylion cymdeithasau allai eich helpu yn eich ardal.

Gallwch chwilio am gymdeithasau sy’n rhoi cyngor ar:

  • faterion ariannol, gan gynnwys budd-daliadau a phensiynau
  • llety
  • gyflogaeth.

Cewch hyd i’r Map Gwybodaeth ar-lein: (New window) www.veterans-uk.info.

Cewch hefyd gyngor gan yr SPVA drwy gysylltu â nhw:

Llinell gymorth: 0800 169 22 77.

Nôl i’r brig