Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Gallwch, fe allwch chi. Rhaid i Awdurdod Addysg Lleol (AALl) ddarparu addysg llawn amser i blentyn o ‘oed ysgol gorfodol’ yn ôl y gyfraith a rhaid i riant wneud yn siŵr fod ei blentyn o ‘oed gorfodol ysgol’ yn derbyn addysg. Ond nid yw’r gyfraith yn dweud fod yn rhaid i blentyn fynd i’r ysgol. Gall rhiant drefnu i blentyn gael ei addysgu gartref.
Nid oes rhaid i chi hysbysu’r AALl os ydych chi am addysgu’ch plentyn gartref. Sut bynnag, mae’n syniad da i siarad â’r AALl ynglŷn â’r peth yn gyntaf. Os nad ydych chi’n siarad â’r AALl, maen nhw’n debygol o wneud ymholiadau a bydd angen i chi ddangos eich bod yn darparu addysg addas ar gyfer eich plentyn.
Mae yna gymdeithasau all eich cynghori chi. Mae Addysg Amgen a’r gwasanaeth Ymgynghorol Addysg gartref yn lleoedd da i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am addysgu’ch plentyn y tu allan i’r ysgol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymdeithasau all help, gweler Addysg: cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn âg oed gorfodol ysgol, gweler Mynediad i addysg.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â dyletswyddau a chyfrifoldebau rhiant a’r AALl, Mynediad i addysg.