Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rydw i’n defnyddio cadair olwyn ac rydw i am fyndi’r coleg ar ôl fy arholiadau Lefel’A’ - beth sydd angen i mi ei ystyried?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru

Fe ddylech chi gysylltu â’r colegau y mae gennych ddiddordeb ynddynt a chael gafael ar eu prosbectws. Darllenwch bob prosbectws yn ofalus er mwyn darganfod pa mor hygyrch y maent ar gyfer y rhai sy’n defnyddio cadair olwyn a sut y bydden nhw’n darparu ar gyfer anghenion defnyddwyr cadeiriau olwyn. Os nad yw’r prosbectws yn dweud y cyfan yr ydych am ei wybod, cysylltwch â’r coleg dan sylw i gael mwy o wybodaeth. Efallai yr hoffech chi ofyn am gyfweliad i drafod hygyrchedd.

Os ydyw’ch cwrs yn galw arnoch i fynd ar leoliad gwaith yna gwnewch yn siŵr fod y coleg yn gallu trefnu un sy’n addas ar gyfer eich anghenion.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â SKILL, gweler Addysg: cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais i goleg, gweler Myfyrwyr addysg uwch a phrifysgolion.

Yn Lloegr, am wybodaeth ynglŷn â chymorth ariannol i fyfyrwyr yn cynnwys myfyrwyr ag anableddau, gweler Cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch, ac yng Nghymru, gweler Cyllid Myfyrwyr Cymru.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn ag addysg: