Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Nid oes rhaid i Awdurdod Addysg Lleol (AALl) roi cymorth ariannol i unrhyw fyfyriwr sy dros 16 oed. Sut bynnag, mae ganddo’r pŵer i helpu os ydyw’n dewis gwneud hynny. Mae gan bob AALl ei reolau ei hun ynglŷn â helpu myfyrwyr mewn addysg bellach. Dylai eich mab holi’r AALl os oes unrhyw gymorth ar gael.
Os ydyw’ch cartref yng Nghymru efallai fod eich mab yn gymwys i dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) os ydyw rhwng 16 ac 18 oed. Os ydyw’n 19 oed neu drosodd, efallai y gallech geisio cael Grant Dysgu’r Cynulliad i helpu gyda chostau ei astudiaethau, hyd yn oed os nad yw ei goleg yng Nghymru. Gallai hefyd holi’r coleg os oes modd iddo gael help gan ei Gronfa Arian Wrth Gefn.
Yn Lloegr, mae’r cynllun EMA yn dod i ben ac nis derbynnir ceisiadau newydd o Ionawr 1, 2011. Sut bynnag, mae gan golegau eu cronfeydd eu hunain y gellir eu defnyddio i helpu myfyrwyr unigol. Mae gan bob coleg ei reolau ei hun ynglŷn â rhoi’r cronfeydd hyn a elwir yn ‘Gronfeydd Cynnal Dewisol’. Gall eich mab ddarganfod mwy am y rhain oddi wrth y coleg ei hun.
Mae hefyd yn bosibl y gall eich mab dderbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor. Sut bynnag, mae’r rheolau ynglŷn â cheisio am y budd-daliadau hyn os ydych yn fyfyriwr yn gyfyngedig i fathau arbennig o fyfyrwyr a bydd llawer yn methu cael cymorth yn y modd hwn.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn âg EMA, grantiau AALl a budd-daliadau yn Lloegr, gweler Cymorth ariannol i fyfyrwyr 16-19 oed ac yng Nghymru, gweler Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Am wybodaeth ynglŷn â chymorth ariannol arall, gweler Cymorth gyda chostau ysgol.