Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Yn y lle cyntaf, siaradwch â’ch plentyn er mwyn clywed beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Yna trefnwch i siarad ag athro eich plentyn. Fe ddylech chi ddarganfod sut y maen nhw fel arfer yn delio â phroblem am fwlian a ddrwgdybir a sut y maen nhw’n mynd â’r mater ymhellach. Fe allwch chi hefyd ddarganfod os oes gan yr ysgol bolisi gwrth-fwlian ysgrifenedig. Os oes, gofynnwch am gael ei weld.
Os nad ydych chi’n fodlon ag ymateb yr athro, gofynnwch am gael gweld y Pennaeth. Os ydych chi’n dal yn anhapus, fe allech chi gysylltu â chorff llywodraethol yr ysgol a/neu'r Awdurdod Addysg Lleol. Os ydyw’r bwlian yn ddifrifol iawn, mae’n bosibl y gellid ei ystyried yn weithgarwch troseddol.
Mae yna sawl cymdeithas allai’ch helpu chi a darparu cefnogaeth os ydych chi’n credu fod eich plentyn yn cael ei fwlian.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymdeithasau sy’n gallu helpu, Addysg: cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.