Cymru
Cynnydd yn y lwfans treth bersonol
|
Cynnydd yn y lwfans treth bersonol - Yng Nghymru
|
|
 |
|
Daw cynnydd i lwfans treth personol 2008/09 i rym ar 7 Medi. Fe fydd yn cynyddu £600, o £5,435 i £6,035. Fe fydd y cynnydd hwn yn cael ei ôl-ddyddio i 6 Ebrill. Fe fydd cod treth llawer o bobl yn newid o 7 Medi ac fe fydd gennych lai o dreth i'w thalu am weddill y flwyddyn.
Dylai eich cyflogwr sicrhau y cewch unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus i chi.
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CAThEM) wedi cyhoeddi canllawiau ar yr hyn y dylai cyflogwyr ei wneud. Mae ar gael ar wefan CAThEM yn www.hmrc.gov.uk.
|
|
 |