|
Mae yna reolau newydd i fenywod sy'n cymryd cyfnod mamolaeth neu fabwysiadu.
Mae yna ddau fath gwahanol o gyfnod mamolaeth. Gelwir y 26 wythnos cyntaf yn Gyfnod Mamolaeth Arferol (CMA). Rydych hefyd yn medru cymryd 26 wythnos ychwanegol o gyfnod mamolaeth, a elwir yn Gyfnod Mamolaeth Ychwanegol (CMY), sy'n rhoi cyfanswm o hyd at 52 wythnos o gyfnod mamolaeth i chi.
Os yw'r wythnos y mae disgwyl i'ch babi gyrraedd yn syrthio ar 5 Hydref, neu ar ôl y dyddiad yma, ac rydych yn cymryd Cyfnod Mamolaeth Ychwanegol ar ben eich CMA, mae gennych yr hawl i gadw'r holl amodau a thelerau yn eich cytundeb cyflogaeth. Yr unig eithriad yw na fyddwch yn cael eich cyflog arferol onid yw'ch cytundeb yn nodi y byddwch yn ei gael.
Mae gan fenywod y mae disgwyl i'w babi gyrraedd cyn 5 Hydref, yr hawl i gadw’r holl amodau a thelerau yn eu cytundeb cyflogaeth yn ystod CMA yn unig. Fe fyddan nhw'n cadw rhai o'r hawliau hyn yn ystod CMY ond nid y cyfan ohonynt.
Mae'r un hawliau hefyd yn berthnasol i rieni sy'n cymryd cyfnod mabwysiadu.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawl i gyfnod mamolaeth, gweler Cyfnod mamolaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawl i gyfnod mabwysiadu, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.
|