Cymru
Help i berchnogion cartrefi
|
Help i berchnogion cartrefi - Yng Nghymru
|
|
 |
|
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi pecyn o fesurau i geisio helpu perchnogion cartrefi sy'n wynebu problemau oherwydd y dirywiad presennol yn y farchnad dai.
Mae'r mesurau'n cynnwys:
- ni fydd y dreth tir treth stamp o 1% yn berthnasol i eiddo preswyl o £175,000 neu lai a brynir. Daw hyn i rym o 3 Medi 2008 ac fe fydd mewn grym am 12 mis. Yna, efallai y bydd y dreth stamp yn mynd yn ôl at y lefel flaenorol, sef £125,000
- newid y ffordd y mae Cymhorthdal Incwm ar gyfer Llog Morgais yn gweithio. Fe fydd y cyfnod aros cyn cael taliad yn gostwng o 39 wythnos i 13 wythnos ar gyfer ceisiadau newydd, o Ebrill 2009. Fe fydd y terfyn cyfalaf ar gyfer ceisiadau newydd hefyd yn codi i £175,000 o Ebrill 2009.
Dyma fesurau pellach a fydd yn berthnasol yn Lloegr:
- cyflwyniad cynllun newydd o'r enw HomeBuy Direct. Fe fydd y rheiny sy'n prynu'n cael cynnig benthyciad o hyd at dri deg y cant o werth eiddo. Ni fydd llog ar y benthyciad am bum mlynedd ac fe fydd yn cael ei ariannu ar y cyd gan y llywodraeth a'r datblygwr tai
- sefydlu cynllun achub wedi'i dargedu'n arbennig at deuluoedd nad ydynt yn medru fforddio ad-dalu eu morgais mwyach ac a fyddai'n gymwys i gael cymorth digartrefedd.
Fe fydd y Llywodraeth yn rhoi mwy o fanylion ar y mesurau hyn dros y diwrnodau nesaf. Mae mwy o wybodaeth ar y cyhoeddiad cychwynnol ar wefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn www.communities.gov.uk.
|
|
 |