Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Tachwedd 21 af 2008.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Garejys – cod ymarfer newydd  

Garejys – cod ymarfer newydd - Yng Nghymru


Mae yna god ymarfer newydd i garejys, o'r enw Motor Industry Code of Practice for Service and Repair.

Nid oes rhaid i garejys gofrestru gyda'r Cod ond os ydynt yn dewis gwneud hynny, fe fydd yn rhaid iddynt ddilyn lleiafswm o safonau gwasanaeth ac atgyweirio, gan gynnwys:

  • prisiau agored a thryloyw
  • gwneud gwaith fel y cytunwyd
  • anfonebau sy'n cyfateb i'r dyfynbrisiau
  • staff cymwys a chydwybodol
  • gweithdrefn gwynion syml a chyflym.

Os ydych yn defnyddio garej sydd wedi cofrestru gyda'r Cod, fe fyddwch yn medru:

  • defnyddio llinell gyngor rhad ac am ddim i ddefnyddwyr
  • cwyno ynghylch y garej a defnyddio gwasanaeth cymrodedd rhad ac am ddim neu wasanaeth cyflafareddu cost isel.

Os ydych yn cael gwasanaeth gwael gan unrhyw garej, fe allwch ddweud hyn wrth y corff sy'n goruchwylio'r Cod, Motor Codes Ltd. Nid oes gwahaniaeth a yw'r garej wedi cofrestru gyda'r Cod ai peidio. Fe fydd Motor Codes Ltd yn edrych i mewn i gwynion yn erbyn garejys sydd wedi cofrestru gyda'r Cod. Gellir codi dirwyon ar garejys sydd heb gadw at y Cod. Gofynnir i garejys sydd ddim yn aelodau gofrestru gyda'r Cod er mwyn gwella'u gwasanaethau.

Am fwy o wybodaeth ac i chwilio am garejys sy'n agos atoch chi ac sydd wedi cofrestru gyda'r Cod, rhowch glic ar wefan Motor Industry Codes Ltd yn: (New window) www.motorindustrycodes.co.uk.

 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2008 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ