Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 13 af 2010

  • Cymru
  • Llinell Gymorth Action Fraud

Llinell Gymorth Action Fraud - Yng Nghymru

Mae Action Fraud yn llinell gymorth genedlaethol sy’n medru rhoi cyngor i chi ar faterion sy’n ymwneud a thwyll. Maen nhw’n medru helpu gyda llawer o wahanol fathau o dwyll, gan gynnwys twyll hunaniaeth, twyll banc neu gerdyn credyd a thwyll ar-lein.

Maen nhw’n medru rhoi cyngor cyffredinol i chi ar amddiffyn eich hun rhag twyll.

Neu, os ydych wedi dioddef twyll, dylech ddweud wrth Action Fraud am y twyll. Maen nhw’n medru rhoi cyngor i chi ar yr hyn ddylech chi ei wneud nesaf.

Rydych yn medru cysylltu â’r llinell gymorth drwy ffonio 0300 123 2040 neu ffôn testun 0300 123 2050. Maen nhw ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 8yb-8yh, Dydd Sadwrn 9yb-6yh a Dydd Sul 10yb-4yp.

Mae mwy o wybodaeth ar Action Fraud ar gael ar-lein yn: (New window) www.actionfraud.org.uk.