The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Mynnwch help ar gam cynnar ar gyfer problemau dyled
Date: 20 December 2011
Mae’r cyfnod ar ôl y Nadolig yn gyfnod anodd i lawer o bobl sy’n brwydro gyda’u dyledion ac o dan bwysau oherwydd hynny. Bob blwyddyn, mae mwy a mwy o bobl yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd a thalu am filiau pwysicaf y cartref.
Nid yw trafferthion ariannol yn diflannu ar eu pennau eu hunain, ac felly os ydych chi’n mynd i drafferth, gwnewch rywbeth ar unwaith a cheisiwch gyngor ynglŷn â sut i ddelio gyda’r sefyllfa.
Ni ddylech orfod ychwanegu at eich dyledion trwy dalu am gyngor ar ddyled. Mae yna sawl mudiad sy’n cynnig cyngor cyfrinachol, rhad ac am ddim, i’ch helpu i gael trefn ar eich materion ariannol unwaith eto. Ac mae’r cyngor hwn ar gael mewn sawl ffordd wahanol.
Os hoffech weld rhywun wyneb yn wyneb i drafod eich dyledion, fe allwch wneud apwyntiad gyda’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Os yw’n anodd gweld rhywun wyneb yn wyneb, mae’r Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr yn cynnig llinell gymorth rad ac am ddim ar 0800 138 1111, sydd ar agor o 8yb hyd 8yh, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Maen nhw hefyd yn gweithredu Debt Remedy, sef gwasanaeth cwnsela dienw 24 awr y dydd, yn www.cccs.co.uk.
Neu, ffoniwch y Llinell Ddyled Genedlaethol ar 0808 808 4000 neu rhowch glic ar eu gwefan yn www.nationaldebtline.co.uk i ddarganfod sut allwch chi gael cyngor drwy’r e-bost.
Mae’r Llinell Gyngor Genedlaethol hefyd yn cynnig cyngor cyfrinachol ac annibynnol rhad ac am ddim i bobl sydd â dyledion busnes. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 0800 197 6026.









