Os ydych yn cael trafferth mynd i’r gwaith oherwydd yr eira a’r rhew, dylech geisio cael gwybod mwy am eich hawliau.
Efallai bod gan eich cyflogwr bolisi ar gyfer tywydd gwael. Dylai nodi’r hyn a ddisgwylir gennych a’r hyn ddylech chi ei wneud os nad ydych yn medru cyrraedd y gwaith oherwydd y tywydd a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Os nad ydych yn medru mynd i’r gwaith oherwydd yr eira, mae eich cyflogwr yn medru cwtogi ar eich cyflog. Fodd bynnag, ni ddylid eich disgyblu na’ch diswyddo os oedd eich absenoldeb yn ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth.
Efallai y byddwch yn medru trafod gyda’ch cyflogwr i weld os fedrwch chi weithio gartref, gweithio’r oriau yn ôl neu gymryd yr amser i ffwrdd fel gwyliau, fel na fyddwch chi’n colli unrhyw gyflog.
Os ydych yn cael trafferth am eu bod yn tynnu arian o’ch cyflog, dylech gael cyngor gan gynghorydd arbenigol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os yw ysgol eich plentyn wedi gorfod cau’n annisgwyl, ac nid ydych yn medru gwneud unrhyw drefniadau eraill ar gyfer gofal eich plant, mae gennych yr hawl i gael amser i ffwrdd o’r gwaith heb gyflog, i ddelio gyda’r sefyllfa.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawliau yn y gwaith, gweler Cyflogaeth.
Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngres yr Undebau Llafur hefyd. Yn: www.tuc.org.uk.
Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda’ch hawliau yn y gwaith, dylech, holi cynghorydd arbenigol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.