Mae yna rai newidiadau i’r ffordd y mae gordaliadau yn cael eu cyfrifo i rai pobl sy’n cael credydau treth.
Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i bobl sydd wedi cael gormod o gredydau treth am eu bod wedi gwahanu oddi wrth eu partner neu wedi dechrau byw gyda phartner newydd, ac yn hwyr yn dweud am y newid hwn. Fel arfer, rhaid i chi ddweud am y math hwn o newid yn eich amgylchiadau o fewn un mis i’r newid.
Cyn hyn, fel arfer byddai disgwyl i chi ad-dalu’r holl arian a ordalwyd i chi.
O dan y rheolau newydd, efallai mai dim ond ychydig o’r arian a ordalwyd i chi fydd yn rhaid i chi ei ad-dalu. Mewn rhai achosion, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw beth o gwbl. Mae hyn oherwydd y bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CATHEM) yn cyfrifo faint fyddech chi wedi cael eich talu petaech wedi dweud am y newid yn eich amgylchiadau ar amser, ac yn gosod y gordaliad yn erbyn y swm yma. Yr enw y mae CATHEM yn ei rhoi ar hyn yw atredeg tybiannol (neu yn Saesneg, notional offsetting).
Os oes arian gennych yn ddyledus i CATHEM o hyd ac ôl iddynt atredeg eich gordaliad yn dybiannol, fe fydd disgwyl i chi ad-dalu’r gweddill.
Os ydych yn ad-dalu gordaliad credydau treth ar hyn o bryd ac mae’r sefyllfa wedi codi oherwydd un o’r newidiadau i’ch amgylchiadau a ddisgrifir yma, dylech gysylltu â Llinell Gymorth Credydau Treth. Fe allwch eu ffonio ar: 0845 300 3900. Sicrhewch eu bod wedi gosod eich gordaliad yn erbyn yr hyn y byddech wedi ei gael petaech wedi dweud am y newid i’ch amgylchiadau ar amser.
Mae’r rheolau newydd yn berthnasol i ordaliadau Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith. Nid ydynt yn berthnasol yn yr achosion canlynol:
Am fwy o wybodaeth ynghylch gordaliad credydau treth, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gweler Gordalu credydau treth. ![]()
Am fwy o wybodaeth ynghylch dweud am newid i’ch amgylchiadau pan fyddwch yn cael credydau treth, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gweler Credydau treth – dweud am newid i’ch amgylchiadau.
.