Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 18 af 2010

  • Cymru
  • Brechlyn y ffliw moch a beichiogrwydd

Brechlyn y ffliw moch a beichiogrwydd - Yng Nghymru

Os ydych yn feichiog, rydych nawr yn medru cael brechlyn y ffliw moch. Mae’r brechlyn yn cael ei roi i fenywod beichiog fel grŵp sy’n flaenoriaeth.

I’r rhan fwyaf o bobl, mae'r ffliw moch yn salwch ysgafn. Mae’n dechrau’n gyflym ac fel arfer yn para tua wythnos. Symptomau’r ffliw moch yw pethau fel twymyn, blinder, peswch a dolur gwddf.

Ond, mae rhai pobl yn fwy tebygol o fod yn sâl iawn gyda’r ffliw moch, gan gynnwys rhai menywod beichiog. Mae yna fwy o risg i’r ffliw moch fod yn fwy difrifol yng nghamau hwyrach eich beichiogrwydd. Mae’r llywodraeth yn argymell i fenywod beichiog gael y brechlyn yn erbyn y ffliw moch.

Rydych yn medru cael brechlyn y ffliw moch trwy eich Meddygfa. Dylen nhw gysylltu â chi i’ch gwahodd i glinig brechu neu i wneud apwyntiad. Os nad ydych wedi clywed unrhyw beth ar ôl ychydig o wythnosau, cysylltwch â’ch meddygfa i wneud apwyntiad.

Mae’r GIG wedi cynhyrchu taflen ynghylch y ffliw moch a beichiogrwydd. Mae’n cynnwys mwy o wybodaeth ynghylch y ffliw moch, y brechlyn a ph’un ai ei fod yn ddiogel i chi a’ch babi. Mae’r daflen ar gael ar-lein yn: (New window) www.nhs.uk.

Mae mwy o gyngor hefyd ynghylch y ffliw moch i fenywod beichiog ar wefan y GIG yn: (New window) www.nhs.uk.