Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 22 af 2010

  • Cymru
  • Rhybudd ynghylch negeseuon e-bost twyllodrus sy’n awgrymu eu bod wedi dod oddi wrth CATHEM

Rhybudd ynghylch negeseuon e-bost twyllodrus sy’n awgrymu eu bod wedi dod oddi wrth CATHEM - Yng Nghymru

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CATHEM) yn rhybuddio pobl ynghylch negeseuon e-bost twyllodrus. Mae’n neges e-bost sy’n edrych fel ei bod gan CATHEM. Ond, mae’n cynnwys dolen at wefan ffug sy’n gofyn i chi am wybodaeth am eich cyfrif personol a’ch cyfrinair.

Mae'r neges e-bost yn dweud ei bod yn dod o wasanaethau CATHEM Ar-lein - test@test.com. Mae’n dweud wrthych fod ad-daliad treth yn ddyledus i chi. Mae’n dweud bod gennych 1 neges (“Alert”) newydd ac y dylech fewngofnodi i’ch cyfrif i’w darllen.

Os ydych yn cael neges e-bost fel hon, peidiwch â mynd i’r wefan a pheidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol. Dylech anfon yr e-bost ymlaen at phishing@hmrc.gsi.gov.uk yn lle.

Mae mwy o wybodaeth ar wefan CATHEM yn: (New window) www.hmrc.gov.uk.

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch twyll ar y rhyngrwyd, gweler (New window) Twyll ar y rhyngrwyd. .