Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 21 af 2010

  • Cymru
  • Taliadau tywydd oer

Taliadau tywydd oer - Yng Nghymru

Os ydych chi ar incwm isel, efallai y bydd hawl gennych i gael help ychwanegol yn ystod y tywydd oer.

Efallai y byddwch yn medru cael taliad tywydd oer am bob wythnos o dywydd oer iawn yn eich ardal. Nid oes gwahaniaeth ar beth fyddwch chi’n gwario’r arian, ac nid oes rhaid i chi ei dalu yn ôl.

Eleni, mae’r taliad tywydd oer yn £25 am bob cyfnod o dywydd oer.

Er mwyn cael taliad tywydd oer, rhaid eich bod yn cael rhaid budd-daliadau penodol. Os ydych chi’n cael y budd-daliadau hynny, ac mae’r tywydd yn ddigon oer yn eich ardal chi, fe fyddwch yn cael taliad tywydd oer yn awtomatig. Nid oes rhaid i chi ofyn am y taliad.

Os ydych yn credu y dylech gael taliad tywydd oer, ond nid ydych yn cael eich talu, dylech gysylltu â’ch canolfan pensiynau neu’ch Canolfan Byd Gwaith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau tywydd oer, gweler Taliadau tywydd oer.

Rydych hefyd yn medru cael mwy o wybodaeth ynghylch taliadau tywydd oer, ac yn medru darganfod os yw taliad yn cael ei dalu ar gyfer eich ardal chi, ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.