Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Ydych chi’n cael trafferth gwerthu’ch cartref?

Date: 20 January 2012

Os ydych chi angen symud, neu os ydych chi am godi arian o’ch cartref, efallai eich bod yn ei chael yn anodd gwerthu’ch cartref ar hyn o bryd. Neu, efallai eich bod chi ar ei hôl hi gyda’ch morgais ac yn chwilio am ffordd o ddatrys y sefyllfa. Os felly, efallai eich bod wedi clywed am ffyrdd newydd o werthu’ch cartref.

Yr enw ar un o’r ffyrdd hyn yw cyfnewid gydag oedi cyn cwblhau. Mae hyn yn golygu eich bod yn cyfnewid contractau gyda phrynwr ond yn cwblhau’r contract sawl blwyddyn yn ddiweddarach. Enw ar ffordd newydd arall o werthu’ch cartref yw opsiynau les, ble mae’r prynwr yn talu swm o arian i chi ymlaen llaw, fel ei fod yn cael yr opsiwn o brynu’ch cartref yn y dyfodol.

Mae angen i chi bwyllo os ydych yn ystyried un o’r opsiynau hyn. Maen nhw’n medru bod yn fentrus oherwydd eich enw chi sy’n aros ar y morgais, ac felly chi sy’n gyfrifol os digwydd i rywbeth fynd o’i le. Er enghraifft, efallai y bydd y prynwr yn stopio’r taliadau ar eich morgais ac efallai y bydd tipyn o amser wedi mynd heibio cyn i chi sylweddoli hyn. Fe allech golli’ch cartref os na fedrwch chi ddod o hyd i’r arian i dalu’r ôl-ddyledion. Prin iawn yw’r mesurau i’ch diogelu, hefyd, os digwydd i bethau fynd o le a chithau wedi symud allan o’ch cartref, oherwydd nid yw’r llywodraeth yn rheoleiddio’r cynlluniau hyn.

Yn aml, fe fyddech ar eich ennill petaech yn gwerthu’ch cartref eich hun ar y farchnad agored neu’n ei rentu allan. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael help ariannol, a help arall gan y llywodraeth, i aros yn eich cartref.

I ddarganfod mwy am y ffordd y mae’r cynlluniau hyn yn gweithio a’r peryglon sydd ynghlwm, gweler Trafferth gwerthu eich cartref – contractau opsiwn les ac oedi cyn cwblhau.