Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Tachwedd 21 af 2008.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru   

- Yng Nghymru

 

 


Rheolau llymach i fyfyrwyr o dramor

O fis Chwefror neu Fawrth y flwyddyn nesaf, fe fydd rheolau mewnfudo llymach i fyfyrwyr o dramor sydd am astudio yn y Deyrnas Unedig.

Fe fydd angen trwydded ar bob coleg a phrifysgol sydd am recriwtio myfyrwyr o dramor ac fe fydd yn rhaid iddynt ddilyn rheolau llym newydd, gan gynnwys dweud wrth Asiantaeth Ffiniau'r Deyrnas Unedig (UKBA) os nad ydyw myfyrwyr yn cofrestru neu os nad ydynt yn parhau gyda'u hastudiaethau.

Fe fydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd am astudio yn y Deyrnas Unedig:

  • gael eu noddi gan sefydliad addysgol sydd wedi cael ei drwyddedu gan UKBA
  • brofi bod ganddynt y modd i'w cynnal eu hunain a'u teuluoedd tra'n astudio yma
  • darparu olion eu bysedd.

Fe fydd yn rhaid i fyfyrwyr ar gyrsiau sy'n para llai na 12 mis ddangos bod ganddynt ddigon o arian i dalu am y cyfan o'u ffioedd cwrs a hefyd £800 y mis am bob mis o'r cwrs. Os yw'r cwrs y maent wedi ei ddewis yn para mwy na deuddeg mis, rhaid iddynt ddangos bod ganddynt yr arian ar gyfer ffioedd y flwyddyn gyntaf a hefyd £9,600 am eu blwyddyn gyntaf yn y Deyrnas Unedig. Os oes rhywrai'n dibynnu arnynt, fe fydd angen £535 pellach y mis am gyfer pob person dibynnol. Fe fydd myfyrwyr yn dal i fedru gweithio fel sy'n wir o dan y rheolau presennol.

Fe fydd angen i fyfyrwyr ddangos hefyd eu bod wedi cyrraedd lefel cymhwyster penodol cyn dod i'r Deyrnas Unedig a'u bod yn astudio ar gyfer cymhwyster a gymeradwyir.

Mae pob myfyriwr sydd yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd wedi cael caniatâd i'w galluogi i gwblhau eu cwrs presennol. Unwaith y bydd y rheolau mewnfudo newydd wedi dod i rym, fe fydd angen i'r rheiny sydd am ymestyn eu cyfnod fel myfyriwr yn y Deyrnas Unedig i ddilyn astudiaethau pellach, ddangos eu bod yn medru cwrdd â'r holl ofynion o dan y rheolau newydd.

Mae manylion llawn ar gael ar wefan UKBA yn (New window) www.ukba.homeoffice.gov.uk.

 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2008 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ